En

NCFE Diploma Rhagarweiniol mewn Teithio a Thwristiaeth Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Teithio a Thwristiaeth

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU (ar radd C neu’n uwch) gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd NEU Ddiploma Lefel 2 priodol ar radd teilyngdod gyda TGAU Saesneg/Cymraeg Iaith a Mathemateg/Rhifedd ar radd C neu’n uwch.

Yn gryno

Ewch ymhellach yn eich gyrfa ym maes Teithio a Thwristiaeth gyda’r Ddiploma Ragarweiniol mewn Teithio a Thwristiaeth!

Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau uwch sydd eu hangen arnoch chi i weithio yn y diwydiant neu symud ymlaen i addysg uwch. Byddwch yn ennill dealltwriaeth eang o'r sector ynghyd ag ystod o sgiliau arbenigol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Yn awyddus i ddysgu mwy am Deithio a Thwristiaeth

….. Eisiau dysgu mwy am y sector Teithio a Thwristiaeth

... Â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y byd Teithio a Thwristiaeth

... Yn teimlo’n gyffrous am deithio'r byd, cyfarfod pobl newydd ac archwilio llefydd newydd.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Gall gweithio yn y diwydiant Teithio a Thwristiaeth ddod â llu o gyfleoedd cyffrous. Gallech gael eich hun yn teithio dramor yn ddyddiol, gan weithio'n rhyngwladol neu gwrdd â phobl o bob cwr o'r byd pan fyddant yn ymweld â'ch mamwlad.

Mae'r diwydiant eisoes yn gyfrifol am fwy na 10% o gyflogaeth fyd-eang ac mae tua 2,000,000 o bobl yn gweithio ym maes twristiaeth ym Mhrydain, gan ei wneud yn un o ddiwydiannau mwyaf poblogaidd y wlad.

Mae'r unedau ar y cwrs yn cynnwys:


• Ymchwilio i'r diwydiant teithio a thwristiaeth
• Busnes teithio a thwristiaeth
• Gwasanaeth cwsmer
• Y DU fel cyrchfan
• Teithio manwerthu
• Gweithrediadau teithiau
• Cyrchfannau Ewropeaidd
• Paratoi ar gyfer cyflogaeth
• Profiad Gwaith
• Ymchwilio i'r diwydiant mordeithiau
• Twristiaeth arbenigol
• Gweithrediadau teithio busnes
• Gweithio fel cynrychiolydd gwyliau
• Trefnu ymweliad astudio
• Marchnata cynhyrchion a gwasanaethau
• Cyrchfannau pell
• Ymchwilio i faterion cyfredol yn y diwydiant teithio a thwristiaeth
• Twristiaeth gyfrifol

Asesir y cwrs trwy waith portffolio, gwaith cwrs, prosiectau, gwaith grwp a chyflwyniadau. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch wedi cael:

  • Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth
  • Bagloriaeth Cymru
  • Cymwysterau cefnogi priodol i ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (os nad ydych wedi cael Gradd C neu uwch ar lefel TGAU)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael mynediad at y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 5 TGAU (ar radd C neu’n uwch) gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg/Rhifedd NEU Ddiploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Saesneg/Cymraeg Iaith a Mathemateg/Rhifedd ar radd C neu’n uwch.

Mae’n rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu da a mwynhau gweithio fel rhan o dîm.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl eich cwrs dwy flynedd, gallwch symud ymlaen i'r cwrs HND mewn Rheolaeth Twristiaeth a Lletygarwch yng Ngholeg Gwent (mewn masnachfraint gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd), ennill cyflogaeth, neu symud ymlaen i gwrs prifysgol sy'n gysylltiedig â theithio a thwristiaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gofyn i chi brynu gwisg a fydd yn costio rhwng £90 a £140, yn ogystal â thalu am deithiau ac ymweliadau a fydd yn costio tua £150.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio NCFE Diploma Rhagarweiniol mewn Teithio a Thwristiaeth Lefel 3?

CFDI0591YO
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr