HND Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Teithio a Thwristiaeth
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
18 Medi 2023
Gofynion Mynediad
EDEXCEL / BTEC gyda Llwyddo neu 40 pwynt neu gyfwerth.
Croesewir hefyd ceisiadau gan ddysgwyr hyn sy'n awyddus i newid cyfeiriad eu gyrfa ac sydd â diddordeb yn y diwydiant.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o reoli digwyddiadau a'r lletygarwch cysylltiedig yn effeithiol. Mae'r cwrs yn rhoi trosolwg i chi o gyfleoedd a datblygiadau yn y sector, ac yn hwyluso datblygiad eich sgiliau sy'n gysylltiedig â hyn. Mae twristiaeth a lletygarwch yn parhau i fod yn un o'r diwydiannau mwyaf poblogaidd yn y DU ac mae'r sector yn parhau i groesawu llawer o unigolion galluog a hyderus gydag amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa hwyliog a boddhaus.
Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o reoli yn y maes Digwyddiadau, Twristiaeth a Lletygarwch yn effeithiol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn teithio, twristiaeth a lletygarwch
... Eich uchelgais yw gweithio mewn swydd uchel neu swydd reoli
... Rydych chi eisiau cymysgedd o ddysgu ymarferol a dysgu seiliedig ar theori
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae twristiaeth a lletygarwch yn parhau i fod yn un o'r diwydiannau mwyaf poblogaidd yn y DU ac mae'r sector yn parhau i groesawu llawer o unigolion galluog a hyderus gydag amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa hwyliog a boddhaus.
Y modiwlau sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen yw:
Blwyddyn 1 - Unedau Lefel 4:
- Digwyddiadau mewn Cyd-destun
- Egwyddorion Lletygarwch
- Y Diwydiant Twristiaeth
- Cyllid i Reolwyr
- Rheoli Pobl a Sefydliadau
- Cynllunio Datblygiad Personol
- Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithasol ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau
Blwyddyn 2 - Unedau Lefel 5
- Rheoli Lletygarwch Byd-eang Heddiw
- Marchnata ar gyfer Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau
- Rheoli Adnoddau Dynol
- Dulliau Ymchwil
- Profiad Gwaith gyda Chynllunio Datblygiad Personol
- Datblygu Busnes a Chyllid
- Digwyddiadau Cymdeithasol a Chynllunio Partïon
- Datblygu a Rheoli Cyrchfan
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael lle ar y cwrs, Gwobr EDEXCEL / BTEC gyda Llwyddo neu 40 pwynt neu gyfwerth, neu brofiad perthnasol yn y diwydiant.
Croesewir ceisiadau hefyd gan ddysgwyr hyn sy'n awyddus i newid cyfeiriad eu gyrfa ac sydd â diddordeb yn y diwydiant.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallwch barhau i orffen gradd israddedig ym maes twristiaeth, teithio, y diwydiant hamdden neu reoli digwyddiadau.
Mae eich HND yn cyfateb i ddwy flynedd gyntaf gradd israddedig felly dylech fod yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i flwyddyn olaf gradd israddedig tair blynedd mewn maes cysylltiedig. Bydd gan wahanol brifysgolion wahanol ofynion mynediad o ran y radd sydd ei hangen arnynt yn eich HND, felly mae'n werth gwirio hyn cyn gynted ag y byddwch yn penderfynu pa brifysgol yr hoffech astudio ynddi.
Fel arall, os ydych chi'n dymuno mynd yn syth i mewn i waith gyda'ch HND, fe welwch y gallwch chi wneud cais am swydd uwch neu swydd fwy arbenigol nag o'r blaen.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CFHD0031AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 18 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr