En

BTEC Diploma mewn Sgiliau Cyfryngau Creadigol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af Gradd D neu uwch.

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn eich cyflwyno i’r sgiliau y mae’r amryfal ddiwydiannau cyfryngau eu hangen.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych chi’n greadigol

... Rydych eisiau gyrfa y mae technoleg yn rhan ohoni

... Rydych chi’n weithiwr caled ac yn gallu cymell eich hun

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd eisiau gweithio mewn swydd greadigol sy'n cynnwys technoleg ac i symud ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn maes pwnc cysylltiedig (e.e. cyfryngau creadigol, cyfryngau rhyngweithiol, dylunio gemau, graffeg neu ffotograffiaeth).

Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth a'ch galluoedd ymarferol mewn amrywiaeth o brosesau a meddalwedd a byddwch yn cwblhau ystod o aseiniadau ymarferol. Byddwch yn gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm ar gyfer aseiniadau ymarferol.

Bydd gennych fynediad i'r cyfrifiaduron Apple Mac diweddaraf a meddalwedd Adobe Creative Cloud, ynghyd â chyfleusterau cyfoes rhagorol.

Mae modiwlau cyfryngau’n cynnwys:

  • Dylunio Gwefannau
  • Cynhyrchu Animeiddiad
  • Ffotograffiaeth
  • Cynhyrchu Clywedol/Gweledol
  • Dylunio Gemau 2D
  • Dadansoddi a Cynnyrch Cyfryngu

Cewch eich asesu drwy ymchwil a dadansoddiad, gwaith ysgrifenedig, 

dylunio creadigol, defnydd o dechnoleg, datrys problemau a gwerthusiad. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

Diploma Technegol yn y Cyfryngau, Lefel 2 – OCR Caergrawnt

Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a chwrdd ag anghenion diwydiant

Gweithgareddau Sgiliau

Mathemateg a Saesneg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, bydd angen o leiaf 4 TGAU, Gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol, gan gynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf.

Dylech allu datblygu syniadau creadigol a bod yn barod i archwilio ystod eang o brosesau technolegol. Mae angen ymrwymiad llawn i fynychu, yn ogystal â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunangymhelliant ac angerdd am y pwnc. Mae disgwyl hefyd y byddwch yn parhau â'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Amrywiaeth o Ddiplomâu Estynedig Lefel 3 Creadigol, megis Dylunio Metafyd, Diploma BTEC mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol, Dylunio Gemau, Ffotograffiaeth UAL neu Gelf a Dylunio UAL.

Cyfle posibl i gael gyrfa yn y diwydiant cyfryngau mewn rolau megis animeiddiwr, golygydd comisiynu, marchnatwr digidol, cynorthwy-ydd golygyddol, cyfarwyddwr ffilm, golygydd ffilm / fideo, dylunydd graffig, technegydd goleuo, darlledu/ffilm/fideo, rheolwr lleoliad, golygydd cylchgronau, newyddiadurwr cylchgronau, cynllunydd cyfryngau, cynllunydd cynhyrchu print, ymchwilydd rhaglen, radio.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel rhan o'r cwrs hwn, bydd angen i chi dalu ffioedd stiwdio, prynu llyfrau braslunio, deunyddiau paentio a lluniadu. Efallai y bydd ffioedd teithio ar gyfer ymweliadau a digwyddiadau oriel hefyd yn daladwy trwy gydol y flwyddyn.

Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma mewn Sgiliau Cyfryngau Creadigol Lefel 2?

PFBD0064AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr