En

VTCT Gwobr mewn Aeliau Microblading Lefel 4

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£2040.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Hyd

Hyd
17 wythnos

Yn gryno

Mae Dyfarniad VTCT (ITEC) mewn Gwella Aeliau gan ddefnyddio Technegau Microlafnu yn gymhwyster proffesiynol ac yn gymhwyster therapïau uwch wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n 18 oed a hŷn sy’n dymuno datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio microlafnu.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...y rhai â diddordeb mewn colur

...y rhai sy’n 18 oed a hŷn

...y rhai sy’n dymuno ychwanegu triniaethau uwch at eu portffolio triniaethau presennol

...y rhai sy’n dymuno dechrau eu busnes eu hunain

Cynnwys y cwrs

Mae microlafnu yn fath o golur lled-barhaol sy’n cael ei ddefnyddio ar aeliau trwy osod pigment lliw i mewn i’r croen i greu llinellau mân i ddylunio siâp aeliau cleientiaid.

Bydd y cwrs yn cynnwys pynciau megis:

  • Anatomeg a Ffisoleg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Deddfwriaeth
  • Y broses ymgynghori
  • Lliw croen a mathau o groen
  • Creu aeliau trwy strociau gwallt
  • Theori lliw
  • Cymhwyso ymarferol
  • Ôl-ofal

Byddwch chi’n ymarfer ar groen ffug yn yr achos cyntaf ond bydd gofyniad i chi ddarparu 6 chleient fel astudiaethau achos ac ar gyfer asesu yn ystod eich cwrs.

Mae’r dosbarthiadau’n fach ac ni fydd mwy na 4 dysgwr er mwyn i’r tiwtor allu sicrhau addysgu un i un dwysach.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn ac nid oes angen i chi feddu ar unrhyw brofiad na chymwysterau ym maes harddwch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Sylwer, o 2024, mae’n ofyniad gan awdurdodau lleol eich bod chi’n cwblhau hyfforddiant gorfodol i dderbyn cofrestriad ymarfer microlafnu. Bydd y cwrs hyfforddiant gorfodol undydd mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gael i chi yn Coleg Gwent.

Bydd gofyniad i chi wisgo gwisg clinig y gallwch chi ei phrynu o’ch cyflenwyr gwallt a harddwch lleol neu drwy’r coleg.

Mae ffioedd y cwrs wedi’u nodi ar frig y dudalen hon. Maent yn cynnwys addysgu, cofrestriad a chit llawn sy’n cynnwys pigmentau lliw.

Telir y ffioedd dysgu wrth gofrestru. Os bydd angen, gallwch wneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros pum rhandaliad.

Os yw’ch cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd angen derbyn cadarnhâd o hyn yn ysgrifenedig er mwyn i’r coleg drefnu anfoneb ar ei gyfer.

 

Ble alla i astudio VTCT Gwobr mewn Aeliau Microblading Lefel 4?

CPAW0585AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr