En

YMCA Gwobr mewn Beicio Dan Do Grwp Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£70.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
23 Tachwedd 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Sadwrn
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
15:30

Hyd

Hyd
3 wythnos

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i gynllunio a chyfarwyddo'n broffesiynol - Sesiynau Beicio Grwp Tu Mewn sy'n ddiogel ac yn effeithiol o fewn amgylchedd campfa neu glwb iechyd.

 

Bydd dysgwyr yn datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau i ddod yn hyfforddwr beicio dan do mewn grwp, o fewn cyd-destun, gan fodloni gofynion y diwydiant a nodir yn safon broffesiynol CIMSPA.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector ffitrwydd ond sydd eisiau ennill sgiliau newydd

...y rhai sydd eisiau ychwanegu at eu gwybodaeth a’u sgiliau presennol i gwrdd â safon broffesiynol Hyfforddwr Ymarfer Grwp Craidd CIMSPA.

Cynnwys y cwrs

Bydd dysgwyr yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau i ddod yn arweinydd ymarfer corff grwp, o fewn cyd-destun, gan fodloni gofynion y diwydiant sydd wedi'u nodi yn safon broffesiynol graidd ymarfer grwp CIMSPA.

Ar gyfer Dyfarniad Lefel 2 YMCA mewn Arwain Ymarfer Corff Grwp: Seiclo Dan Do, rhaid i ddysgwyr gyflawni 2 uned orfodol:

  • Egwyddorion cynllunio a chyflwyno sesiynau ymarfer corff grwp
  • Cynllunio a chyflwyno ymarfer cylchol grwp

Wedi'i gynnal yn y stiwdio sbin ar gampws Brynbuga, mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â:

  • Buddion seiclo grwp dan do
  • Iechyd a diogelwch mewn perthynas â seiclo grwp dan do
  • Sut i ddylunio ac addysgu sesiynau effeithiol a diogel
  • Egwyddorion a newidynnau a ddefnyddir o fewn sesiwn
  • Sut i fonitro ac annog cyfranogwyr
  • Sut i ddefnyddio cerddoriaeth yn ystod sesiynau
  • Sut i asesu a myfyrio ar ddarparu seiclo grwp dan do.

Bydd angen ichi fod wedi ymrwymo'n llawn i fynychu ac yn barod i gyfrannu yn y sesiynau. Byddwch yn cael eich asesu drwy bortffolio o dystiolaeth ac arddangosiad ymarferol/aseiniad.

Wedi ichi gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen at Gampfa Lefel 2, Ymarfer Corff i Gerddoriaeth Lefel 2, Ymarfer Corff a Gweithgareddau Corfforol i Blant Lefel 2, Hyfforddi Sesiynau Cylchol neu swydd yn y diwydiant ffitrwydd.

Gofynion Mynediad

Rhaid i chi fod wedi cwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Hyfforddiant Ffitrwydd i gael lle ar y cwrs hwn neu fod wedi cwblhau'r unedau gorfodol canlynol:

• Anatomi a ffisioleg ar gyfer hyfforddwyr ymarfer corff a ffitrwydd

• Darparu profiad cwsmer cadarnhaol yn yr amgylchedd ymarfer corff

• Rheoli ffordd o fyw ac ymwybyddiaeth iechyd

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnal dros ddeuddydd (ar y penwythnos) ar gampws Brynbuga, ac mae'n orfodol eich bod yn mynychu'r deuddydd.

Ble alla i astudio YMCA Gwobr mewn Beicio Dan Do Grwp Lefel 2?

UCAW0270AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 23 Tachwedd 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr