En
Coleg Gwent women's rugby team celebrating with cup

Merched Crosskeys yn bencampwyr chwaraeon Cymru o hyd


5 Mai 2023

Llwyddodd Academi Rygbi Merched Coleg Gwent i gadw eu coron am y drydedd blwyddyn yn olynol ar ôl eu buddugoliaeth 17-0 yn erbyn Coleg Llanymddyfri yn Rowndiau Terfynol Cystadleuaeth Genedlaethol Dan 18 oed Ysgolion a Cholegau Undeb Rygbi Cymru.

Aeth yr Academi â’r gwpan adref ar ôl gêm wefreiddiol yn erbyn Coleg Llanymddyfri yn Stadiwm Principality a gafodd ei ffrydio’n fyw ar S4C.

Roedd hanner cyntaf tynn a di-sgôr yn brawf o amddiffyn penderfynol tîm Crosskeys am fod gan Goleg Llanymddyfri fwy o diriogaeth ond, cyn hir, byddai merched Llanymddyfri yn edifaru’r holl gyfleoedd a gollwyd. Wrth i’r ail hanner ddechrau, roedd y diriogaeth a’r meddiant o blaid Coleg Gwent a dechreuodd y merched ddangos eu gallu go iawn trwy sgorio dau gais heb eu trosi. Sgoriwyd y trydydd cais yn fuan ar ôl hynny gan effeithio’n negyddol ar lefelau hyder chwaraewyr y tîm arall.

Coleg Gwent women's rugby team passing ball

Erbyn hyn, mae Academi Rygbi Merched Coleg Gwent wedi ymestyn eu cyfnod heb golli gêm yng Nghymru i dair blynedd.

Mae’r flwyddyn academaidd hon wedi bod yn llwyddiant ysgubol i’n Hacademi Rygbi Merched gan ragori yn eu twrnameintiau a’u cystadlaethau ac ennill llwyth o wobrau a chyflawniadau y tymor hwn.

                play

 

Cyflawniadau’r tymor

  • Pencampwyr cystadleuaeth Rygbi 7 Colegau Cymru 2022/23
  • Pencampwyr cenedlaethol cystadleuaeth Rygbi 7 yr Urdd 2022/23
  • Pencampwyr cystadleuaeth genedlaethol Ysgolion a Cholegau Undeb Rygbi Cymru 2022/23
  • 19 o chwaraewyr rhanbarthol yn cynrychioli’r Dreigiau
  • 7 o chwaraewyr yn cynrychioli tîm Cymru Dan 18 oed

Coleg Gwent women's rugby team players with cupDywedodd Molly Wakely, sy’n astudio ar gwrs diploma estynedig Lefel 3 mewn Hyfforddi Chwaraeon ac sy’n gapten y tîm: “Mae’r cyfnod cyn y rownd derfynol hon wedi bod yn ddwys iawn ond rydym wedi chwarae’n eithriadol o dda ac rydym wedi cael tymor da iawn. Pob clod i ferched Coleg Llanymddyfri, roeddent wedi rhoi brwydr i ni ar y cae ond llwyddon ni i oresgyn hynny. Roedd pob unigolyn ar y cae yma yn haeddu bod yn y rownd derfynol ac rwy’n hynod o falch o’r merched. Mae gwybod ein bod ni wedi cadw ein cyfnod heb golli gêm yn deimlad anhygoel.”

Dywedodd Scott Matthews, Cydlynydd Rygbi Merched: “Mae’n gyfle gwych i gynifer o’r dysgwyr chwarae ar gau Stadiwm Principality sef rhywbeth na fydd llawer ohonynt yn ei brofi eto. Maen nhw wedi gweithio mor galed fel grŵp a symud ymlaen bob wythnos ac mae llawer o’r dysgwyr wedi ennill cyfle i gynrychioli timau rhanbarthol a chenedlaethol yn ystod y flwyddyn. Mae gweld y chwaraewyr yn gwella ac yn cyrraedd lefelau roeddent yn meddwl eu bod y tu hwnt iddynt yn foddhad mawr. Roedd ennill gêm rownd derfynol anodd yn hollol haeddiannol am eu bod wedi goresgyn pob her sydd wedi’u hwynebu y tymor hwn.

“Mae Academi Rygbi Merched Coleg Gwent wedi’i chynnwys o amgylch astudiaethau academaidd y dysgwyr ac mae’n cynnwys myfyrwyr o ledled y Coleg sy’n astudio ar ystod o gyrsiau galwedigaethol a chyrsiau academaidd. Gall y dysgwyr gael mynediad at dair sesiwn cryfhau a chyflyru, dwy brif sesiwn tîm a dwy sesiwn sgiliau unigol yn ystod yr wythnos. Mae’r Academi wedi creu diwylliant o gynhwysiant a grymuso gan ddarparu ardal ddiogel i’r merched symud ymlaen yn eu gyrfaoedd chwaraeon wrth astudio yn y Coleg. Trwy ymuno â’r Academi Rygbi Merched, mae’r merched hyn wedi dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr y bydd modd iddynt eu trosglwyddo i’w bywydau y tu hwnt i’r cae rygbi.”

Llongyfarchiadau i’r holl ferched a’u hyfforddwyr ar eu cyflawniadau gwych eleni wrth iddynt barhau i yrru ymlaen fel academïau chwaraeon i fenywod sy’n arwain y sector.

Darllenwch fwy am chwarae chwaraeon ochr yn ochr â’ch astudiaethau yn Coleg Gwent a llwyddo yn y coleg y mis Medi hwn.