En
Love Your Garden

Y cyflwynydd teledu Alan Titchmarsh yn rhoi gwedd newydd ar ardd gyda chymorth ein dysgwyr diwydiannau'r tir


3 Hydref 2019

TV’s Alan Titchmarsh delivers garden makeover with the help of our landbased learners

Roedd grŵp o’n dysgwyr rheoli cefn gwlad ymysg y gwirfoddolwyr a fu’n helpu’r garddwr teledu Alan Titchmarsh i drawsnewid gardd ar gyfer rhaglen deledu ITV Love Your Garden.

Roedd Alan Garlick, tad i dri a gollodd ei ddwylo a’i draed i sepsis ddau fis ar hugain yn ôl, dan deimlad wrth weld yr ardd arbennig a grëwyd iddo ef a’i deulu ifanc.

Dywedodd Katharine Ross, y cynhyrchydd cynorthwyol, “Cafwyd ymateb calonnog gan y gymuned leol a helpodd i greu gardd atgofus o’r cefn gwlad lleol gyda’r nodweddion llawn steil y byddai teulu ifanc yn eu disgwyl.”

Dyma’r ardd gefn fwyaf i Alan weithio arni, gan fod y plot ym Mhont-y-pŵl yn orlawn o heriau megis lefelau serth anwastad a choed a llwyni wedi gordyfu.

Cyn i sepsis ymosod ar Chris roedd wedi bwriadu adnewyddu’r ardd ar ei ben ei hun. Roedd popeth yn edrych yn enbyd tan y daeth Alan a’r tîm i greu gardd ddiogel a hygyrch i’r teulu.

Mae’r ardd newydd yn cynnwys ffynnon ddŵr fodern a mainc yn un wedi ei chreu o gledrau wedi eu trin a dur Corten yn ogystal â dull plannu naturiolaidd yn pwysleisio arogl i greu gardd ddelfrydol ar gyfer llesiant.

Dywedodd Helen Morgan, Pennaeth Ysgol, Diwydiannau’r Tir a Chwaraeon, “Roedd ein dysgwyr rheoli cefn gwlad yn falch o gynorthwyo gyda thrawsnewidiad yr ardd hon ar gyfer y sioe Love Your Garden – roedd yn brofiad ymarferol gwych iddynt.  Rhoddodd y dysgwyr lawer o’u hamser i gynorthwyo, ac roeddynt yn llysgenhadon gwych ar gyfer y Coleg.  Roedd yn brofiad hynod emosiynol.”

Darlledwyd y rhaglen ar 22 Hydref.

Darganfyddwch fwy ynghylch ein cyrsiau rheoli cefn gwlad a gwnewch gais nawr!