En
Tutor Brian Back becomes a published author

Y tiwtor Brian Back yn dod yn awdur cyhoeddedig


18 Ionawr 2022

Rydym yn lwcus o gael tiwtoriaid gwych, llwyddiannus ac ysbrydoledig ar draws ein campysau yn Coleg Gwent. Maent yn rhannu eu gwybodaeth, profiad ac arbenigedd bob dydd er mwyn ichi weithio tuag at eich nodau. Mae ein tiwtoriaid, fodd bynnag, yn poeni am lawer mwy na dim ond eich graddau. Mae ganddynt hefyd ffocws bugeiliol cefnogol cryf, sydd o gymorth i chi ffynnu tra’r ydych yn y coleg.

Mae’r darlithydd, Brian Back, wedi dysgu Cymdeithaseg a Mynediad i Ddyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol yn Parth Dysgu Blaenau Gwent Learning ers deng mlynedd. Fel tiwtor cymdeithaseg, mae’n llwyddo i gael y myfyrwyr i edrych arnynt eu hunain a’r byd mewn modd gwahanol gan gyflawni ymhell tu hwnt i’w disgwyliadau. Drwy ddefnyddio ei sgiliau cwnsela a phrofiadau personol, mae Brian yn cefnogi myfyrwyr ac yn eu galluogi i oresgyn trafferthion a chyflawni eu nodau.

Rhannu ei fewnwelediad

Er mwyn parhau i rannu ei brofiad, gwybodaeth, cefnogaeth ac angerdd, mae Brian wedi ysgrifennu llyfr ‘THE ANSWER TO LIFE: The Simple Solution to the Problems of Living’. Wedi ei seilio ar y gwersi a ddysgodd wrth astudio ei gwrs Mynediad, ei waith fel darlithydd a chwnselydd, mae ei lyfr yn defnyddio profiadau personol i fod o gymorth i eraill ddeall eu bywydau ac i oresgyn trallod.

Pam wnaethoch chi benderfynu ysgrifennu eich llyfr?

Tutor Brian Back becomes a published author“Daeth y llyfr i fod oherwydd fy mod wedi hyfforddi i fod yn gwnselydd. Digwyddodd hyn am ddau reswm. Yn gyntaf, oherwydd fy mod wedi cael trafferthion gyda fy iechyd meddwl erioed. Roedd dysgu i fod yn gwnselydd, felly, yn golygu y gallwn helpu fy hunan ac eraill a allai fod yn profi’r un trafferthion â mi. Yn ail, yn fy rôl fel tiwtor personol, roeddwn yn aml yn gorfod gweithredu fel cwnselydd answyddogol. Roeddwn yn clywed straeon ofnadwy am sut oedd fy nysgwyr yn ei chael hi’n anodd i fwydo eu plant, neu ddelio gyda chyn bartner bygythiol a oedd yn cam-drin, neu’n cael trafferthion gyda gorbryder neu iselder. Weithiau fe fyddwn yn cael sawl dysgwr yn torri lawr ac yn crïo’n afreolus o fy mlaen, y cyfan mewn un dydd. Roedd yn rhywbeth anodd iawn delio ag o, a byddwn yn aml yn teimlo’n ddiymadferth gan nad oedd gen i syniad sut i’w cefnogi nhw. Penderfynais, felly, i hyfforddi fel cwnselydd er mwyn dod yn diwtor personol gwell.

Unwaith imi ddechrau hyfforddi fel cwnselydd, sylweddolais fod syniadau allweddol cwnsela yn berthnasol ac o gymorth i bawb, ac nid dim ond i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Dechreuais roi’r syniadau hyn ar waith felly ac fe ddysgais sut i fod yn well am gael myfyrwyr i gredu ynddynt eu hunain, gweithio’n galed, aros ar y cwrs, a chyflawni tu hwnt i’r hyn oedd wedi ei ragweld.”

Am beth mae eich llyfr?

“Tra’n hyfforddi fel cwnselydd, gwelais fod un syniad sylfaenol wrth wraidd seicoleg, cymdeithaseg, athroniaeth, llenyddiaeth, arwyr a mytholeg, a phob prif gred ysbrydol a chrefyddau ar hyd y byd. Mi es i chwilio, felly, am y llyfr a oedd yn clymu’r holl syniadau hyn o wahanol ffyrdd o feddwl at ei gilydd. Fodd bynnag, doedd dim modd dod o hyd iddo. O ganlyniad, teimlais fod yn rhaid i mi ei ysgrifennu fy hun, gan ei fod yn syniad mor bwysig a allai fod o gymorth i bobl drawsnewid eu bywydau, fel y gwnaeth i mi.

Am hyn mae’r llyfr felly. Mae’n hanner hunangofiannol, yn cynnwys enghreifftiau gafaelgar o fy mywyd personol a phroffesiynol er mwyn dangos nad theori yn unig ydi’r syniadau allweddol hyn, a’u bod yn egluro’n hynod o effeithiol fywyd ‘go iawn’. Mae’n arddangos sut mae’r holl ffyrdd o feddwl yn rhannu’r un gwirionedd allweddol sylfaenol am yr ateb i’r cyflwr dynol, a sut mae’r ateb hwn yn berthnasol i bob un ohonom, ymhob agwedd o’n bywydau.”

Sut deimlad yw bod yn awdur cyhoeddedig?

“Mae ysgrifennu fy llyfr yn gamp ragorol i mi. Fe gymerodd dair blynedd i’w ysgrifennu ac fe oedd yn daith hynod o anodd a wnaeth ysgogi twf. Ond roedd o werth ei wneud – mae’n deimlad gwych bod wedi cwblhau’r llyfr o’r diwedd! Mae mynd i’r afael â rhywbeth yr ydych yn wirioneddol gredu ynddo a gweithio’n galed i’w gyflawni yn un o’r pethau sy’n gwneud bywyd yn rhywbeth bodlon a gwerth chweil.”

Llongyfarchiadau i Brian ar gwblhau ei lyfr ardderchog – ‘THE ANSWER TO LIFE: The Simple Solution to the Problems of Living’ – ar gael nawr ar Amazon ac Audible.

Os ydych yn ddysgwr coleg a fyddai’n hoffi mynediad i gymorth a chefnogaeth bellach, cysylltwch â’ch tiwtor personol a chymerwch olwg manylach ar ein Gwasanaethau Cefnogi Coleg.