En
South Wales Argus School and Education Awards 2022

Rhagor o wobrau i diwtoriaid yn y Gwobrau Addysg ac Ysgolion South Wales Argus 2022


14 Ebrill 2022

Mae ein tiwtoriaid ysbrydoledig wedi llwyddo unwaith eto! Diolch i’w hymroddiad a’u hymrwymiad i addysgu’r pynciau maent yn angerddol yn eu cylch, cafodd saith tiwtor o Coleg Gwent eu henwebu ar gyfer ystod o wobrau yn y Gwobrau Addysg ac Ysgolion South Wales Argus 2022.

Rydym yn falch o bob un o’n  tiwtoriaid a gafodd eu henwebu eleni, ond mae llongyfarchiadau arbennig yn mynd i Peter Britton – Darlithydd Addysg Bellach y Flwyddyn, a  Jacqui Spiller – Athro Cyfrwng Cymraeg y Flwyddyn, am eu llwyddiant cwbl haeddiannol yn y Gwobrau Addysg ac Ysgolion South Wales Argus 2022.

Peter Britton – Darlithydd Addysg Bellach y Flwyddyn

Mae’r wobr Darlithydd Addysg Bellach y Flwyddyn yn cydnabod Peter am ei waith yn ysbrydoli ac ymgysylltu myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial.

Bu Peter Britton yn ddarlithydd ffotograffiaeth am 15 mlynedd, gan ddod â’i brofiad o’r byd go iawn a’i frwdfrydedd am ffotograffiaeth i reng flaen ei addysgu. Ac yntau wedi gweithio yn y maes ffotograffiaeth briodasol a masnachol ar gyfer brandiau adnabyddus fel McLaren Automotive, Porsche, Harrods, Hard Rock Café, a Rip Curl, mae’n defnyddio’i brofiad a’i frwdfrydedd am ffotograffiaeth i addysgu prosesau hen a newydd, gan sicrhau bod dysgwyr yn deall bob testun ar hyd y ffordd.

Mae Peter yn cynnig cyfleoedd gwych i ddysgwyr ennill profiad ymarferol mewn ffotograffiaeth yn ystod eu hastudiaethau, o ffotograffiaeth bwyd i sesiynau tynnu lluniau yn y stiwdio.

Jacqui Spiller – Athro Cyfrwng Cymraeg y Flwyddyn

Fel enillydd y wobr Athro Cyfrwng Cymraeg y Flwyddyn, cafodd Jacqui ei chydnabod am ysbrydoli ac ymgysylltu disgyblion i ddysgu Cymraeg.

Bu Jacqui Spiller yn diwtor gyda Dysgu Cymraeg Gwent, Coleg Gwent am dros 15 mlynedd. Mae ei hangerdd, ymrwymiad a brwdfrydedd am y pwnc yn amlwg, wrth ddysgu Cymraeg i ddysgwyr o bob lefel, o ddechreuwyr i lefel uwch. Mae Jacqui’n gwneud y gwersi’n hwyliog a rhyngweithiol, ac mae’n deall yr heriau o ddysgu Cymraeg fel dysgwr oedolyn, gan iddi hithau hefyd ddysgu’r iaith fel oedolyn.

Yn ddiweddar bu’n dysgu Cymraeg i grŵp o geiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n byw yng Nghasnewydd, gan eu cynorthwyo i integreiddio i’n cymuned leol amlddiwylliannol a rhannu ei chymhelliant a’i hangerdd tuag at y Gymraeg.

Gwobrau Addysg ac Ysgolion South Wales Argus

Mae Gwobrau Addysg ac Ysgolion South Wales Argus yn ddathliad o frwdfrydedd, ansawdd ac ymrwymiad darparwyr addysg lleol, ac rydym yn falch o gael ein cynnwys yn eu plith. Gyda 15 gwahanol gategori o wobrau, mae’r digwyddiad yn crynhoi’r holl ddarpariaeth addysg, o’r blynyddoedd cynnar i addysg bellach. Mae’r gwobrau yn amrywio o arloesedd digidol i anrhydeddau yn y Gymraeg, gan roi’r sylw ar yr unigolion gweithgar ac ysbrydoledig sy’n gwneud cymaint i baratoi pobl ifanc ar gyfer dyfodol disglair a llwyddiannus.

South Wales Argus School and Education Awards 2022 - Coleg Gwent nominees

Eleni, enwebwyd saith tiwtor ysbrydoledig o Coleg Gwent am amrywiaeth o wobrau Addysg South Wales Argus, yn cynnwys:

  • Athro Newydd y Flwyddyn – Ray Morgan
  • Darlithydd Addysg Bellach y Flwyddyn – Jane Price, Peter Britton ac Adam Jones
  • Cyflawniad Oes – Christine Jenkins
  • Athro Cyfrwng Cymraeg y Flwyddyn – Iestyn Ap Rhobert a Jacqui Spiller

Mae pob un o’n tiwtoriaid yn gweithio’n galed er mwyn darparu’r profiadau addysgu a dysgu gorau ar gyfer dysgwyr yn Coleg Gwent. Mae’r gydnabyddiaeth am eu hymrwymiad drwy wobrau fel Gwobrau Addysg ac Ysgolion South Wales Argus, a Gwobrau Addysgu Pearson, a hyd yn oed yr MBE, yn arddangos y rhagoriaeth a’r arbenigedd sydd yn cael eu cynnig yn eich campws lleol.

Rydym yn falch o’n holl enwebeion ac enillwyr sy’n darparu profiadau addysgu a dysgu o’r radd flaenaf yn Coleg Gwent. Gwnewch gais nawr i ymuno ag un o golegau mwyaf llwyddiannus Cymru a chael eich addysgu gan diwtoriaid arbenigol ar draws ystod o gyrsiau llawn amser, rhan amser ac addysg uwch!