En

Rydym ni'n dathlu Wythnos Oedolion sy'n Dysgu


18 Mehefin 2019

Rydym ni'n dathlu Wythnos Oedolion sy'n Dysgu

I ddathlu Wythnos Oedolion sy’n Dysgu, rydym ni’n eich cyflwyno chi i rai o’n myfyrwyr hŷn a rhannu eu llwyddiannau a’u taith drwy’r coleg hyd yn hyn i nodweddu’r wythnos hon o ddathlu dysgu gydol oes.

Cyfarfyddwch â Julie Morphet sy’n 48 mlwydd oed ac sy’n fyfyrwraig Sgiliau ar gyfer Astudiaeth Bellach ar ein Campws Dinas Casnewydd. Mae Julie yn ailhyfforddi ac yn dyheu am fynd i’r sector nyrsio neu iechyd a gofal cymdeithasol, felly ar hyn o bryd mae’n ymgymryd â chwrs Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach cyn mynd ymlaen ar gwrs mynediad.

“Gadael fy swydd oedd y penderfyniad mwyaf i mi ei wneud erioed. Bu i siarad â fy nhiwtor roi’r hyder i mi i roi’r gorau i fy ngwaith mewn manwerthu a dod i’r coleg yn llawn amser. Roeddwn yn poeni y byddai fy oedran yn mynd yn fy erbyn i, ond nid yw hynny’n wir o gwbl – mae Coleg Gwent yn croesawu pobl o bob oed.” Dywed Julie, sydd wedi ennill Dysgwr y Mis, bod y sgiliau y mae hi’n eu dysgu ar y cwrs Sgiliau ar gyfer Astudiaeth Bellach wedi rhoi hwb i’w hyder i fynd ymlaen i’r cwrs mynediad.

“Rwy’n hoff o’r siwrnai gyfan, dysgu sut i ddefnyddio, prosesu geiriau, a defnyddio cyfrifiadur – rhywbeth nad ydw i erioed wedi’i wneud o’r blaen!” A’i chyngor i unrhyw un sy’n ystyried dychwelyd i ddysgu yn Coleg Gwent. “Ewch amdani, mwynhewch a manteisiwch ar y cwrs, byddwch yn magu mwy o hyder. Er bod Sgiliau am Astudiaeth Bellach yn flwyddyn ychwanegol mae’n hynod fuddiol ar gyfer y cwrs mynediad y flwyddyn ddilynol.”

Mae myfyriwr Trin Gwallt Merched Lefel 2 (blwyddyn 2) Adam Gould, 31, hefyd yn annog oedolion i ymuno â chwrs yn y coleg, wrth iddo wireddu ei freuddwyd o ddod yn driniwr gwallt.

“Rwyf wastad wedi bod eisiau gwneud hyn – mae lluniau ohonof yn gwneud gwallt pan oeddwn yn wyth mlwydd oed! Rwy’n difaru na wnes hyn amser maith yn ôl,” meddai Adam. “Fy hoff rannau o’r cwrs yw lliwio bonion gwallt a thorri.” Dywedai fod y gefnogaeth gan staff Parth Dysgu Blaenau Gwent wedi bod yn arbennig, yn enwedig gyda’r agweddau damcaniaethol ar y cwrs y mae wedi’u cael yn anos. “Hoffwn weithio mewn salon i brofi sut beth ydyw ac yna agor fy musnes fy hun.”

Nod dysgwr arall, myfyrwraig Mynediad at Addysg Uwch, Katy Price, 28, yw mynd i’r brifysgol i hyfforddi’n naill ai’n barafeddyg neu nyrs. Bu i’r fam, a gymerodd seibiant oddi wrth addysg i fagu teulu, ddewis y cwrs ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent gan ei bod yn gobeithio y bydd yn ei helpu hi i wireddu ei breuddwyd o fynd i’r brifysgol.
“Mae’r athrawon yn wych, mae’r cyfleusterau yn dda a chawn diwtorialau i godi problemau, dal i fyny gyda gwaith a pharatoi ein datganiad personol ar gyfer y brifysgol,” dywedodd Katy.

“Deuthum yma i wneud cwrs mynediad gan fy mod wedi bod allan o addysg am gyhyd, a hefyd roeddwn yn awyddus i gael arweiniad ar y datganiad personol UCAS ac mae’r coleg yn cynnig y cymorth hwn. “Roeddwn yn nerfus am ddychwelyd i addysg ar ôl seibiant ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn fy nosbarth yn eu 20au, ac rwyf wedi cael graddau rhagoriaeth yn fy ngwaith i gyd hyd yn hyn.

“Mae’r cwrs yn ddifyr iawn, rwyf wrth fy modd â bioleg a microbioleg, yn enwedig pan rydym yn dysgu am heintiau – mae modiwlau gwahanol yn canolbwyntio ar agweddau gwahanol hefyd, megis seicoleg a chymdeithaseg. “Fy nod yw gweithio naill ai fel nyrs neu barafeddyg ac aros yng Nghymru. Mae gennyf deulu ifanc. Rydych yn cael bwrsariaeth y GIG i astudio yng Nghymru felly mae eich ffioedd wedi’u talu cyhyd â’ch bod yn aros am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eich gradd.”