En
Laura Huckbody in the recording studio

Llwyddiant label recordio i fyfyrwraig Parth Dysgu Blaenau Gwent, Laura Huckbody


30 Ebrill 2021

Mae ein cyrsiau yn Coleg Gwent yn eich caniatáu chi i astudio ar eich hiniog er mwyn mynd yn bell â’ch gyrfa, ac mae Laura Huckbody, sy’n ddwy ar bymtheg o Dredegar wedi cael profiad o hynny. Mae Laura yn fyfyrwraig ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy, lle mae’n astudio Cerddoriaeth Rock School (Diploma Estynedig) Lefel 3 – cwrs sydd wedi rhoi cyfoeth o gyfleoedd iddi i ddatblygu ei doniau a’i diddordeb mewn cerddoriaeth. A diolch i’w gwaith caled a’i dyfal barhad, mae hi bellach wedi cael cynnig cytundeb gyda label recordio yn Abertawe, SWND, a bydd yn lansio ei halbwm gyntaf ar 30 Ebrill.

Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan enfawr o fywyd Laura erioed. Mae hi wastad wedi mwynhau plymio i’r byd cerddoriaeth drwy ei haddysg ac yn ei hamser rhydd. Felly, ar ôl cwblhau TGAU mewn Cerddoriaeth, roedd Laura â’i bryd ar adael yr amgylchedd ysgol a dechrau mewn amgylchedd dysgu annibynnol, gan ddewis Coleg Gwent fel ei choleg lleol. I Laura, Parth Dysgu Blaenau Gwent oedd y dewis perffaith. Nid yn unig y mae’n agos at ei chartref ac yn rhan o un o golegau gorau Cymru, ond yno maent yn cynnig yr unig gwrs cerddoriaeth Rock School sydd ar gael. O ystyried bod Rock School yn arweinydd byd-eang gwersi ac arholiadau cerddoriaeth gyfoes, dyma oedd y cwrs delfrydol i Laura.

Laura Huckbody in the recording studioMae Laura wrth ei bodd â’r cwrs ac yn credu ei fod yn gwrs hamddenol, er yn heriol a digonedd o waith i’w wneud. Mae ei thiwtoriaid wedi cynnig cefnogaeth ac anogaeth yn gyson i gynorthwyo Laura i fynegi ei hun drwy gerddoriaeth a datblygu i fod y cerddor gorau o fewn ei gallu.

Dywedodd; “y peth gorau am astudio yn Coleg Gwent yw’r cyfleoedd sydd ar gael. Er bod y rhan fwyaf o’m profiad dysgu wedi bod gartref oherwydd Covid-19, rwyf wedi llwyddo i wneud rhai gigiau a mynychu gweithdai gydag arbenigwyr yn y diwydiant, diolch i’r tiwtoriaid yn Coleg Gwent.”

Er y bydd hi’n hiraethu am y coleg pan fydd yn symud ymlaen i gam nesaf ei gyrfa, mae dyfodol Laura yn edrych yn hynod gyffrous! Ar ôl cwblhau ei chwrs coleg, mae Laura yn bwriadu astudio Perfformio Cerddoriaeth a Rheoli Digwyddiadau yn BIMM Music School ym Mryste. Eglurodd; “fy nodau yw dal ati i ysgrifennu cerddoriaeth a chyflwyno fy ngherddoriaeth i’r byd, a manteisio ar unrhyw gyfleoedd i helpu fy hun i ddod yn fwy adnabyddus fel artist. Yn sicr mae’r coleg wedi fy helpu i fagu’r hyder i wneud hynny.”

Ond mae Laura eisoes wedi cael llwyddiant ar ôl cael cynnig cytundeb recordio arbennig gyda SWND, label recordio yn Abertawe. Ar ôl darganfod SWND ar gyfryngau cymdeithasol, cafodd Laura gyfle i helpu i greu erthyglau ar gyfer eu cylchgrawn chwarterol, ac erbyn gweld dyma oedd dechrau rhywbeth llawer mwy. Gwnaethant gynnig cyfle i Laura ymuno â’u label recordio i ryddhau albwm bach, ac mae Laura wedi treulio’r misoedd diwethaf yn gweithio ar hyrwyddo ei halbwm a chadw’n brysur gyda gwaith recordio a chyfweliadau.

Ride or Die album coverRydym yn hynod falch o lwyddiant Laura a doniau cartref ysbrydoledig ein dysgwyr sy’n astudio Cerddoriaeth a nifer o gyrsiau creadigol eraill ar draws ein pum campws yn ne-ddwyrain Cymru (Parth Dysgu Blaenau Gwent, Campws Dinas Casnewydd, Campws Crosskeys, Parth Dysgu Torfaen, a Champws Brynbuga).

Dywedodd tiwtor Laura, Holly Ellis; “Mae hwn yn gyfle mor gyffrous i Laura, ac rwy’n falch bod ei gwaith caled a’i doniau yn cael eu cydnabod y tu hwnt i’r coleg. Da iawn!”

Bydd albwm cyntaf Laura, “Ride or Die” yn cael ei ryddhau ar 30 Ebrill, ochr yn ochr â lansiad cryno ddisg argraffiad cyfyngedig 50 cân ddiwedd mis Mai. Dilynwch Laura ar gyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth ac i ddilyn ei thaith: @lauraJazmyn_

Os ydych chi â’ch bryd ar ddod yn artist recordio newydd Cymru a dilyn ôl troed Laura, dechreuwch eich taith gyda chwrs yn Coleg Gwent. Cofrestrwch nawr ar gyfer ein digwyddiad agored rhithiol newydd i gwrdd â’r tiwtoriaid a dysgu mwy am y cyrsiau a fydd yn eich helpu chi i wireddu eich breuddwydion.