En
Coleg Gwent team take on the Pontypool 10k

Tîm Coleg Gwent yn mynd i’r afael â her 10 cilomedr Pont-y-pŵl


17 Chwefror 2022

Ar 27 Chwefror, bydd 20 o staff a dysgwyr ymroddedig o Coleg Gwent yn cymryd rhan yn ras 10 cilometr Pont-y-pŵl Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen i gefnogi Gofal Hosbis Dewi Sant, sef ein helusen ar gyfer y flwyddyn.

Bydd deuddeg o fyfyrwyr a staff o’n Hadran Adeiladu ar Gampws Dinas Casnewydd yn cymryd rhan gyda’i gilydd, gan godi arian hollbwysig ar gyfer yr elusen, ochr yn ochr â staff eraill o gampysau ledled y coleg.

Fel rhan o’r gefnogaeth a roddwn i’n helusen ar gyfer eleni, mae cymuned y coleg wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol fel digwyddiad beicio y Filltir Ychwanegol, Land’s End i John O’Groats, rafflau, Ras KolorDash Cwmbrân, Y Baned Gymreig, Tour de Gwent, Taith Feicio Dalmatian a mwy. Yn awr, mae ein tîm Adeiladu wedi dewis cymryd rhan yn ras 10 cilomedr Pont-y-pŵl, a hynny am sawl rheswm:

Mae’r elusen yn agos at galon Keaton Pomroy, myfyriwr Plymio – “Mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn rhoi help i lawer o bobl, ac mae helpu pobl yn golygu llawer i mi. Mae rhai aelodau o ’nheulu i’n cael gofal, ac mae’n help enfawr iddyn nhw.”

Fel yr esbonia Logan McGregor, myfyriwr Gwaith Brics, “Mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn helpu cleifion sy’n dioddef o ganser a chlefydau eraill. Dyma fater sy’n effeithio arna i’n bersonol, oherwydd mae gen innau berthnasau sydd wedi dioddef o ganser hefyd.”

Ac i Tryston Mills, myfyriwr Plymio, mae’r digwyddiad yn gyfle iddo godi ymwybyddiaeth o’r elusen, yn ogystal â chodi arian ar ei chyfer – “Roeddwn i eisiau cymryd rhan er mwyn cefnogi fy ngholeg a’r elusen.”

Bydd cymryd rhan mewn digwyddiad o’r fath, a chael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol, yn brofiad gwych i’r dysgwyr. Nid yn unig mae’r tîm yn hyfforddi’n galed trwy wella’u cryfder a’u cyflwr, ymarfer rhedeg rasys, gwneud hyfforddiant cylchol, ymarfer pêl-droed a gwneud gweithgareddau eraill sawl gwaith yr wythnos, ond maen nhw hefyd yn gweithio’n galed i godi arian ar gyfer Gofal Hosbis Dewi Sant. Maen nhw wedi creu tudalen Just Giving bwrpasol i’w rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, a hefyd maen nhw’n lledaenu’r gair ymhlith eu teuluoedd a’u cyfeillion er mwyn helpu i godi cymaint o arian â phosibl.

Byddai rhodd o gyn lleied â £10 yn talu am ginio a the prynhawn i glaf yn hosbis dydd Dewi Sant, gan roi seibiant a chefnogaeth wirioneddol haeddiannol iddo. Ac fe allai £160 dalu i nyrs hosbis-yn-y-cartref aros gyda chlaf dros nos a rhoi gofal angenrheidiol iddo yn ei gartref, gyda’i anwyliaid o’i gwmpas, pan fo arno wir angen y gofal hwnnw.

Fel yr esbonia John Sexton, Cyfarwyddwr y Gyfadran Astudiaethau Creadigol a Thechnegol: “Roedden ni eisiau cymryd rhan yn Ras 10 cilomedr Pont-y-pŵl er mwyn cynrychioli’r coleg a dangos ein cefnogaeth i’n helusen ar gyfer y flwyddyn. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn gyfnod eithriadol o anodd i elusennau fel Hosbis Gofal Dewi Sant o ran codi’r arian y maen nhw ei angen i barhau i gynnig eu gwasanaethau hollbwysig. Felly, fe fydd beth bynnag a wnawn i helpu yn siŵr o gael effaith gadarnhaol. Mae hi’n wych gweld dysgwyr o’r adran adeiladu ar Gampws Dinas Casnewydd yn mynd i’r afael â’r her ochr yn ochr â’n staff, gan weithio mor galed i hyfforddi ar gyfer y ras 10 cilomedr a chodi arian ar gyfer yr elusen.”

Gyda mwy na 500 o redwyr yn cymryd rhan yn ras 10 cilomedr Pont-y-pŵl, rydym yn edrych ymlaen at weld tîm Coleg Gwent yn eu plith. Bydd llwybr y ras yn dechrau ac yn gorffen ym Mharc Pont-y-pŵl, a bydd yn tywys y rhedwyr i Famhillad ac yn ôl ar hyd llwybr halio hardd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Bydd yr holl arian a godir yn sgil y digwyddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i gynnig gofal hosbis hollbwysig i gleifion lleol a’u teuluoedd. Pob lwc i dîm Coleg Gwent ac i bob rhedwr arall a fydd yn cymryd rhan yn y ras ar 27 Chwefror!

Dyw hi ddim yn rhy hwyr ichi gyfrannu a dangos eich cefnogaeth i’r tîm. Mae pob ceiniog yn bwysig, ac mae Gofal Hosbis Dewi Sant yn eithriadol o ddiolchgar am eich cefnogaeth:

www.justgiving.com/fundraising/coleggwent-newport-construction