En
Coleg Gwent EAS #ExtraMile challenge for St David's Hospice Care

Mynd y #MilltirYchwanegol i Ofal Hosbis Dewi Sant


18 Mehefin 2021

Ddoe, dydd Iau 17 Mehefin, ymgymerodd staff a myfyrwyr o Coleg Gwent â’u her fwyaf hyd yma. I gasglu arian at Ofal Hosbis Dewi Santelusen y flwyddyn ein coleg – addawodd staff a dysgwyr wneud cymaint o filltiroedd â phosibl mewn 24 awr mewn pob math o ffyrdd. Fe wnaethant redeg, cerdded, beicio, rhwyfo, nofio, sgïo a dawnsio eu ffordd trwy gyfres o ddigwyddiadau codi arian trwy gydol y dydd, i godi arian hanfodol ac ymwybyddiaeth o’r gwaith gwych a wneir gan Ofal Hosbis Dewi Sant.

Gyda’n Cyfarwyddwr Cyfadran Astudiaethau Academaidd a Menter, Ian Millward, yn arwain y ffordd gyda thaith feic epig drwy’r dydd, dechreuodd y digwyddiadau ar godiad haul wrth i Ian ddechrau ar ei daith am 5:30am. Teithiodd gyfanswm o 206.7 milltir a gorffennodd ei her feicio yn union fel yr oedd yr haul yn machlud cyn 10pm, dringodd Ian fynyddoedd, beicio ar ffyrdd a lonydd troellog, ac ymweld â phob un o’n pum campws ar hyd y ffordd. Ymunodd staff eraill ag ef ar gyfer rhannau o’r llwybr a chafodd ei gefnogi gan staff a dysgwyr ar bob campws, fe wnaeth camp feicio wefreiddiol Ian ein sbarduno i fynd y filltir ychwanegol hefyd, gyda llu o ddigwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal ar draws y coleg.

EAS Extra Mile challenge

Da iawn i’r holl fyfyrwyr a staff a gymerodd ran yr her a gwneud eu rhan i gefnogi Gofal Hosbis Dewi Sant. Dywedodd Tania Ansell, Codwr Arian Busnes a Chymunedol yng Ngofal Hosbis Dewi Sant; “Ar ran yr holl gleifion a staff yng Ngofal Hosbis Dewi Sant, diolch i bawb! Mae llwyddiant Ian yn rhyfeddol, da iawn ar gwblhau’r her. Rydym yn teimlo’n wirioneddol ostyngedig ac wedi ein syfrdanu gan eich brwdfrydedd a’ch angerdd am godi arian i’r hosbis ac am fynd y #MilltirYchwanegol. Heno, bydd ein nyrsys hosbis yng nghartrefi cleifion, yn cynnig gofal a sicrwydd i’r cleifion a’u teuluoedd sydd ar daith diwedd oes. Gallwn ddarparu’r gwasanaeth ymroddedig am ddim hwn i’r cleifion oherwydd y pethau yr ydych CHI’N wneud! Rydym mor falch ohonoch i gyd. Rydym yn eich cymeradwyo Coleg Gwent!”

EAS Extra Mile challenge

Dyma rai o gampau rhyfeddol y myfyrwyr a staff a gymerodd ran yn yr her Milltir Ychwanegol:

  • Nofiodd y darlithydd Lisette Edwards 110 hyd o’r pwll nofio, gan wneud pellter o 1.7 milltir mewn awr
  • Rhedodd myfyrwyr Ymarfer Corff Safon Uwch Crosskeys 3 milltir
  • Cerddodd dysgwyr Busnes Parth Dysgu Torfaen 6.2 milltir
  • Her milltir cyflymaf – ar y beic, peiriant rhedeg, sgïwr a pheiriant rhwyfo – ar Gampws Crosskeys a Pharth Dysgu Torfaen, gyda chefnogaeth gan Simply Gym Cwmbrân
  • Cymerodd fyfyrwyr a staff chwaraeon Crosskeys ran mewn her ‘Milltir y Dyn’
  • Gwnaeth myfyrwyr BTEC Busnes ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent daith gerdded noddedig 4.5 milltir
  • Cymerodd dysgwyr ffitrwydd Lefel 2 ar Gampws Brynbuga ran mewn sesiynau beicio dan do dan arweiniad y dysgwr Zoe Jennings, sy’n Hyfforddwr Campfa Rhan amser, ac sydd wedi colli 12 stôn ysbrydoledig yn ddiweddar
  • Beiciodd y Pennaeth Ysgol Helen Morgan 100 milltir
  • Rhedodd yr aelodau staff Rhiannon a Stacey 10 milltir
  • Beiciodd y Darlithydd Chwaraeon, Joel Morgan, o Gampws Brynbuga, 30 milltir
  • Gwnaeth yr Adran Dwyieithrwydd Cymraeg gyfanswm o 35 milltir rhyngddynt
  • Beiciodd yr Hyfforddwr Dysgu David Morgan 120 milltir ar feic llonydd ar Gampws Brynbuga
  • Cerddodd Jess Pike, Cynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr, 28 milltir ar hyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu mewn 8 awr 48 munud
  • Beiciodd tîm Parth Dysgu Blaenau Gwent 70 milltir, gan orffen ychydig ar ôl hanner nos
  • Rhedodd Dan Coles, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Allanol 8.5 milltir o gwmpas Canolfan Hamdden Rhisga
  • Cerddodd Layla Pearce, Arweinydd Gwella Cyfadran, 10 milltir gyda dysgwyr o gampws Crosskeys, gan orffen gyda sesiwn beicio dan do
  • Cyrhaeddodd y tîm Ymgysylltu Allanol gopa Mynydd Pen-y-fâl
  • Cynhaliwyd cyfres o gemau awyr agored a dawnsathon ym Mharth Dysgu Torfaen
  • Gwnaeth staff Cerbydau Modur Campws Crosskeys daclo’r tri chopa lleol ar droed
  • Gwnaeth y Dirprwy Bennaeth Nicola Gamlin gerdded 6 milltir o gwmpas Castell Windsor yn ystod ei gwyliau
  • Neidiodd y Dirprwy Bennaeth Lynda Astell ar ei beic i gefnogi’r elusen
  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – gwnaeth Gampws Glynebwy 205 milltir
  • Campws Crosskeys – teithiodd dros 100 o fyfyrwyr a staff 417 milltir trwy gerdded, rhedeg, beicio a rhwyfo
  • Parth Dysgu Torfaen – gyda bron i 2 filiwn o gamau a phellter cyfatebol i gylchedd Cymru, llwyddodd Parth Dysgu Torfaen i wneud 1128.74 milltir anhygoel
  • Campws Brynbuga – llwyddodd y myfyrwyr a staff i wneud 1005.29 milltir enfawr rhyngddynt

EAS Extra Mile challenge

Ar y cyfan ar y diwrnod, llwyddodd staff a myfyrwyr ar draws y coleg i wneud 4,572 milltir anhygoel ac rydym mor falch o’u brwdfrydedd dros achos mor dda.

Da iawn i bawb wnaeth helpu i wneud y diwrnod yn gymaint o lwyddiant a diolch am yr holl roddion hael ar gyfer Gofal Hosbis Dewi Sant. Mae rhoddion yn dal i lifo i mewn ac rydym eisoes wedi cyrraedd traean o’r ffordd tuag at ein targed o £10,000 a fydd yn gwneud byd o wahaniaeth i’r elusen. Mae yna amser o hyd i gyfrannu i gefnogi’r her Milltir Ychwanegol – gallwch gyfrannu ar-lein yn gyflym ac yn hawdd trwy ein tudalen Just Giving: www.justgiving.com/fundraising/coleggwent.

EAS Extra Mile challenge