En

Sicrhau cyllid newydd ar gyfer Canolfan Beirianneg Gwerth Uchel HiVE


2 Chwefror 2023

Rydym mor falch o gyhoeddi cam newydd ymlaen yn natblygiad ein hadeilad HiVE hir ddisgwyliedig ym Mlaenau Gwent. Dyfarnwyd buddsoddiad newydd o £9 i Gyngor Blaenau Gwent fel rhan o gronfa Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU. Bydd y buddsoddiad yn ein galluogi i symud ymlaen gyda datblygu’r prosiect Peirianneg Gwerth Uchel (HiVE), sefydliad hyfforddi ac addysg sy’n arwain y sector, ger Parth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy.

Sicrhawyd y cyllid hwn trwy gydweithio â Chyngor Blaenau Gwent, partneriaid yn y diwydiant a Rhaglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru. Bydd y Ganolfan wedi’i lleoli ar safle 1.96 erw yng Nglynebwy, safle hen Adeilad Monwell Hankinson ar Heol Letchworth. Bydd y ganolfan newydd yn darparu gofod addysgu o ansawdd uchel gyda lle ar gyfer hyd at 600 o fyfyrwyr ynghyd ag ystafelloedd dosbarth, ardaloedd adolygu ac ystod o weithdai.

Fel coleg rydym yn chwilio’n gyson am ffyrdd newydd o ddod â’r sgiliau a’r dechnoleg ddiweddaraf i ardal De Cymru. Bydd datblygu’r ganolfan hon yn helpu i ddiogelu’r ardal at y dyfodol trwy ddarparu cyflenwad o dalent gyda’r sgiliau sydd eu hangen i alluogi cwmnïau i leoli eu hunain yn y Cymoedd Technoleg. Bydd HiVE yn darparu’r hyfforddiant a’r sgiliau perthnasol er mwyn i’n dysgwyr wneud cais am swyddi yn y Sectorau Gweithgynhyrchu a Deunyddiau Uwch a Thechnolegau Digidol a Galluogol.

Nod Rhaglen y Cymoedd Technoleg yw creu ffocws ar dechnoleg uwch o’r radd flaenaf ar gyfer cwmnïau gweithgynhyrchu o bob maint sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Y gobaith yw annog diwydiannau blaengar yn yr ardal, megis 5G, technoleg fatri ac ymchwil i gerbydau modurol ac ymreolaethol.

Bydd ysgolion cynradd ac uwchradd o bob rhan o’n hardal leol hefyd yn gallu elwa o’r HiVE, gan ddefnyddio’r gofod ar gyfer darlithoedd gwadd, arddangosiadau a thrwy gael mynediad at offer a phrofiadau uwch nad ydynt ar gael mewn ysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

‘Mae hyn yn newyddion gwych ac rwy’n croesawu’r cyllid i’n galluogi i weithio gyda’n partneriaid i adeiladu a datblygu cyfleuster addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf yma ym Mlaenau Gwent. Rwy’n siŵr y bydd hyn yn gatalydd i greu swyddi lleol sgiliau uchel a thwf economaidd hirdymor i’r ardal’.

Dywedodd Guy Lacy, Pennaeth Coleg Gwent:

‘Mae hyn yn newyddion gwych a bydd yn caniatáu i Goleg Gwent, trwy ein partneriaeth agos â Chyngor Blaenau Gwent, ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Ein nod yw gwneud y prosiect HiVE yn un o’r canolfannau hyfforddiant gweithgynhyrchu a pheirianneg fwyaf datblygedig a llwyddiannus yn y DU.’

Darllenwch fwy am ein datblygiad adeiladu HiVE yma.