En
Student racing team success in debut championship season

Llwyddiant i dîm rasio'r yn eu tymor pencampwriaeth cyntaf


28 Hydref 2022

Cafodd dysgwyr a staff gyfle i gymryd rhan mewn pencampwriaeth rasio gyffrous fel rhan o brosiect chwaraeon modur, ac ym mis Hydref byddant yn cael sgrialu ar draciau Silverstone.

Mae Cwpan City Car BRSCC yn bencampwriaeth rasio lefel mynediad fforddiadwy, sy’n rhoi cyfle i’n dysgwyr adeiladu car rasio i safonau penodol, a chynnal a chadw’r car hwnnw yn ystod y tymor rasio. Mae’r Her Chwaraeon Modur i Fyfyrwyr yn is-ran o Gwpan City Car BRSCC. Mae’r her wedi’i dylunio i fod yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn hawdd ei hymgorffori i mewn i’r cwricwlwm, ac mae’n cynnig golwg go iawn o’r diwydiant mae ein dysgwyr Peirianneg Chwaraeon Modur yn camu i mewn iddo.

Cafodd Coleg Gwent rasio yn erbyn cyfanswm o 40 o geir ar y grid yng Nghwpan City Car BRSCC eleni, a chystadlu yn erbyn sawl coleg a phrifysgol arall o fewn Her Chwaraeon Modurol i Fyfyrwyr agoriadol yr Interserie, gan gynnwys Coleg Gorllewin Suffolk, Coleg Chichester, a Phrifysgol Sheffield Hallam. Cyrhaeddodd y bencampwriaeth ei hanterth yn y rownd derfynol ar Drac Rhyngwladol Silverstone, gan roi cyfle i Coleg Gwent rasio ar un o draciau rasio mwyaf enwog y byd.

 

Profiad dysgu unigryw

Roedd ein prif dîm yn cynnwys 15 dysgwr Peirianneg Chwaraeon o Gampws Dinas Casnewydd a Pharth Dysgu Blaenau Gwent, gyda rhai myfyrwyr ychwanegol ynghlwm â gweithgareddau paratoi a datblygu amrywiol. Roeddynt yn gyfrifol am adeiladu’r ceir rasio i gyd-fynd â rheoliadau’r bencampwriaeth ar ddechrau’r prosiect, a’u cynnal a’u cadw yn ystod y tymor rasio.

Mae Cwpan City Car wedi bod yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddefnyddio’r sgiliau y datblygon nhw yn ystod eu cwrs mewn amgylchedd byd go iawn. Mae’r ceir wedi bod yn gyfarpar dysgu gwych, ac wedi rhoi cyd-destun i wersi theori a gwybodaeth sylfaenol gyda phrofiad ymarferol. Yn ystod y tymor hwn, mae ein dysgwyr hefyd wedi datblygu sgiliau rhyngbersonol ac wedi ffurfio cysylltiadau newydd gyda threfnwyr y bencampwriaeth a chyd-gystadleuwyr, a gallant ychwanegu’r profiad hwn ar eu CVs i ddenu sylw cyflogwyr posibl yn y dyfodol.

Cydweithio gyda thiwtoriaid

Cofrestrwyd dau gar gan dîm Coleg Gwent ar gyfer y bencampwriaeth, ac mae wedi bod yn brosiect â llawer o gydweithio rhwng dysgwyr a thiwtoriaid o’n campysau gwahanol. Cafodd y dysgwyr eu cefnogi gan diwtoriaid i gymryd rhan yng Nghwpan City Car, gan helpu i ddod o hyd i geir ac ymgorffori’r prosiect yng nghwricwlwm Peirianneg Chwaraeon Modur. Maen nhw wedi arwain y myfyrwyr i adeiladu a chynnal a chadw’r ceir rasio, a’u defnyddio fel cyfarpar dysgu gwych ar y campws, ac mewn digwyddiadau pencampwriaeth ledled y wlad.

Ar y trac, cafodd y tiwtoriaid George Jones a Mark Pope gyfle i yrru’r ceir yn y rownd derfynol yn Silverstone. Aeth y darlithwyr Dan Lockett, Ben Shaw, Richard Cooper, ac Alexis Dabee-Saltmarsh hefyd ati i gefnogi’r tîm a gyrru’r ceir mewn rasys yn ystod y tymor.

Rownd Derfynol Silverstone

Yn rownd derfynol y bencampwriaeth fis Hydref, cafodd ein myfyrwyr Peirianneg Chwaraeon Modur fwynhau’r profiad unigryw o weithio ar geir rasio Coleg Gwent yn garejis ‘pit’ byd-enwog Silverstone. Yn ystod y tymor, maen nhw wedi ymdrechu’n galed gyda’r her, ac wedi mwynhau gweld y ceir maen nhw wedi’u paratoi mor llwyddiannus yn cystadlu ar y trac rasio.

Er bod cystadleuaeth gref rhwng colegau a phrifysgolion eraill a ddefnyddiodd yrwyr rasio proffesiynol, llwyddodd y tîm i gipio naw lle ar y podiwm a thlysau ar ran Coleg Gwent, yn ogystal â thlws am ‘dîm gorau’r gystadleuaeth’. Ar y cyfan, mae wedi bod yn dymor cyntaf llwyddiannus iawn i dîm rasio Coleg Gwent – llongyfarchiadau i’r myfyrwyr a’r staff a daniodd y prosiect cyffrous hwn!

play

 

Mae Peirianneg Chwaraeon Modur yn un o’r cannoedd o gyrsiau sydd ar gael yn Coleg Gwent, lle caiff eich profiad dysgu ei gyfoethogi gan weithgareddau allgyrsiol megis Cwpan City Car. Dysgwch fwy am ein cyrsiau yn ein digwyddiad agored nesaf a chymerwch y cam cyntaf at yrfa lwyddiannus yn y dyfodol.