En
Entrepreneurship Catalyst award and certificate

Mae Gwobr Catalydd Entrepreneuriaeth 2020 yn mynd i'n Hwythnos Sefydlu'r Haf


5 Hydref 2020

Rhoi cymorth i ddysgwyr lansio eu dyfodol entrepreneuraidd eu hunain

Ein pleser yw cyhoeddi mai cynnyrch ein gwaith tîm Wythnos Sefydlu’r Haf yw enillydd y Wobr Catalydd Entrepreneuriaeth yn ôl cyhoeddiad y Gwobrau Addysgwyr Menter Cenedlaethol (NEEA) 2020!

Mae’r NEEA yn dathlu rhagoriaeth mewn addysg menter ac entrepreneuriaeth, gan roi cydnabyddiaeth i gefnogaeth arbennig ar gyfer myfyrwyr sydd ar fin cychwyn busnes, yn y camau cychwynnol a mentrau sy’n tyfu. Roedd y categori Catalydd Entrepreneuriaeth yn chwilio am brosiectau a mentrau ysbrydoledig sy’n cefnogi dysgwyr i ddatblygu’r galluoedd sydd eu hangen arnynt ar gyfer dyfodol entrepreneuraidd – rhywbeth sy’n destun angerdd i’n tîm Menter ac Entrepreneuriaeth.

Menter ac Entrepreneuriaeth yn Coleg Gwent

Entrepreneurship Catalyst awardMae ein tîm Menter ac Entrepreneuriaeth yn gweithio’n galed i annog a chefnogi dysgwyr gyda’u mentrau entrepreneuraidd yn Coleg Gwent drwy gystadlaethau, heriau cyfoethogi, tiwtorialau a phrosiectau gyda briffiau busnes byw. Ond mae hyn wedi bod yn fwy heriol yn sgil her ychwanegol COVID-19.

Efallai bod y coronafeirws wedi rhwystro nifer o’n cynlluniau a’n gweithgareddau, ond roedd ein dysgwyr ysbrydoledig yn parhau i fynd i’r afael â’u syniadau entrepreneuraidd er gwaethaf yr heriau. Felly, roeddem eisiau parhau i gefnogi hyn gymaint â phosib, gydag Wythnos Sefydlu’r Haf yn ddatrysiad.

Mewn cydweithrediad â’r rhwydwaith o Bencampwyr Menter ym mhob un o’r 23 o golegau a phrifysgolion yng Nghymru, daethom at ein gilydd i greu wythnos gyfan o sgyrsiau a digwyddiadau menter ac entrepreneuriaeth cyffrous ar-lein yn ystod Wythnos Sefydlu’r Haf fis Mehefin. Ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod y fenter wedi cael ei choroni’r enillydd y wobr Catalydd Entrepreneuriaeth!

Wythnos Sefydlu’r Haf

Gwnaeth y fenter arloesol hon ein helpu i barhau i gefnogi ein dysgwyr sydd ar fin cychwyn eu busnesau ac yn ystod y camau cychwynnol drwy gyfnod pandemig y Coronafeirws drwy wersyll cychwynnol rhithwir a chymuned gefnogol i gychwyn arni.

Roedd yn ŵyl entrepreneuraidd wych, gyda modelau rôl ysgogol; y prif siaradwr Alannah Spencer – enillydd The Apprentice, ac e-gymdeithasu gyda’r nos. Ond yn fwy na dim, bu o gymorth i ni gefnogi 500 o fyfyrwyr ledled Cymru gyda’u breuddwydion a’u huchelgeisiau cychwynnol a’u helpu i gychwyn arni gyda’u syniadau.

Darganfyddiad Zoe Blackler, Arweinydd Menter ac Entrepreneuriaeth, oedd bod gweithio ar Wythnos Sefydlu’r Haf gyda’i chyd-addysgwyr menter yn brofiad gwych, oedd yn caniatáu cydweithredu ac arloesi er mwyn cefnogi myfyrwyr yn rhithiol gyda datblygu eu busnes eu hunain. Roedd yn enghraifft wych i ddangos, er gwaethaf adfyd, gall cysylltedd barhau i greu cyfleoedd anhygoel ar gyfer ein dysgwyr.

Rydym bellach yn cynllunio i Wythnos Sefydlu’r Haf ddod yn ddigwyddiad blynyddol, ac rydym yn dod at ein gilydd unwaith yn rhagor i greu marchnad yr Hydref hwn er mwyn i’n dysgwyr brofi masnach ac arddangos eu cynhyrchion ledled Cymru ar gyfer Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-Eang fis Tachwedd.

Dewch â’ch syniadau mawr yn fyw yn Coleg Gwent. Astudiwch gyda ni nawr ac ymunwch â’n cymuned o ddarpar entrepreneuriaid y dyfodol.