En
Celebrating our annual Learner Awards with Welsh sports presenter Jason Mohammad

Dathlu ein Gwobrau Dysgwyr Blynyddol gyda'r cyflwynydd chwaraeon o Gymru, Jason Mohammad


23 Mehefin 2022

Y ddoe, gwnaethom gynnal ein digwyddiad gwobrau blynyddol – dathliad o’n holl ddysgwyr ysbrydoledig a’u cyflawniadau drwy gydol y flwyddyn academaidd. Fel coleg, rydym yn hoffi cydnabod ymdrech, ymrwymiad a gwaith caled, a gwobrwyo llwyddiannau rhagorol wrth i ddysgwyr gyrraedd eu nodau. Felly, wrth i’r flwyddyn academaidd ddod i ben, gwnaethom fanteisio ar y cyfle i ddathlu ymrwymiad ein dysgwyr i’w hastudiaethau gyda’r cyflwynydd chwaraeon ysbrydoledig o Gymru, Jason Mohammad.

Celebrating our annual Learner Awards with Welsh sports presenter Jason Mohammad

Cyflwynwyd yr enwebiadau ar gyfer gwobrau dysgwyr 2022 ar-lein gan diwtoriaid a staff ledled y coleg, un ai ar gyfer y dysgwr sydd wedi gwella fwyaf, goresgyn trallod neu gyflawniadau rhagorol. Gwnaethom dderbyn dros 450 o enwebiadau eleni, sy’n destament i’n dysgwyr anhygoel, eu gwytnwch a’u natur benderfynol i lwyddo.

I dderbyn gwobr, efallai bod dysgwyr wedi goresgyn trallod, wedi dangos agwedd gadarnhaol neu ddawn ragorol, neu efallai eu bod nhw wedi troi methiant yn llwyddiant. Cafodd nifer yr enwebeion eu cwtogi i 89 o enillwyr Gwobrau Cyflawniad Dysgwyr ar draws y tair ysgol yn Coleg Gwent. Dewiswyd pump o ddysgwyr hefyd ar gyfer gwobrau cydnabyddiaeth arbennig, gyda thri yn ennill Gwobrau Cyfarwyddwr y Gyfadran ar gyfer cynnydd a wnaed yn ystod eu hastudiaethau, enillodd un Wobr y Cadeirydd am oresgyn trallod, ac enillodd un Wobr y Pennaeth ar gyfer perfformiad rhagorol

Dywedodd y Dirprwy Bennaeth, Nikki Gamlin, “Rydym yn falch iawn o gyflawniadau ein dysgwyr, a’r tîm o staff medrus, sy’n gweithio’n galed, sy’n cefnogi ein dysgwyr i gyflawni pethau gwych.”

Celebrating our annual Learner Awards with Welsh sports presenter Jason Mohammad

Gydag ymddangosiad arbennig gan y siaradwr ysbrydoledig Jason Mohammad, a pherfformiadau gan ein dysgwyr talentog a myfyrwyr theatr gerddorol, roedd y noson wobrwyo yn noson i’w chofio. Roedd yn pwysleisio dawn anhygoel ein dysgwyr a’u gwytnwch yn ystod flwyddyn heriol. Er gwaethaf yr amhariadau ar wersi, gweithio o bell a’r ansicrwydd ynghylch asesiadau ac arholiadau, mae ein dysgwyr wedi profi dro ar ôl tro eu bod wedi ymrwymo i gyflawni eu nodau.

Mae’r pandemig wedi dysgu sawl gwers i ni ynghylch wynebu ein heriau heb oedi, ac rydym wedi dysgu, os ydym wir yn ymdrechu’n galed, gallwn lwyddo a chyrraedd ein nodau. Felly, llongyfarchiadau i’n holl enillwyr ac enwebeion gwobrau – rydych chi’n ein hysbrydoli ni bob dydd!

Celebrating our annual Learner Awards with Welsh sports presenter Jason Mohammad

Cymerwch gipolwg ar Flickr i weld yr holl luniau o’r noson wobrwyo.

Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr

Gwobr Cyfarwyddwr y Gyfadran – Mia Vaughn, Toby Collins and Victoria Blanks

Gwobr y Cadeirydd – Isabelle Marshall

Gwobr y Pennaeth – Danni Haynes

Y Gyfadran Astudiaethau Creadigol a Thechnegol

Gwobr Cyflawniad Peirianneg

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Tyler Davies, Crosskeys – Jayden Harris a Jay Garrett, Casnewydd – Adam Need

Gwobr Cyflawniad Cerbyd Modur

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Victor Owen Muema, Crosskeys – Courtney Williams, Casnewydd – Ethan Palmer

Gwobr Cyflawniad Adeiladu

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Luke Topping, Casnewydd – Joshua Evans

Gwobr Cyflawniad Gwasanaethau Adeiladu

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Liam Haddow, Casnewydd – Iestyn Sansom

Gwobr Cyflawniad Celf a Dylunio

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Lowri Green, Crosskeys – Esther Taylor, Casnewydd – April Shakesheff, Parth Dysgu Torfaen – Kyle Passaro

Gwobr Cyflawniad y Cyfryngau

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Michael Tranter Owens, Crosskeys – Ryan Williams a Toby Collins, Casnewydd – Joshua Loder, Parth Dysgu Torfaen – Megan Marshall

Gwobr Cyflawniad Cerdd

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Dylan Bell, Crosskeys – Charlotte Francis

Gwobr y Celfyddydau Perfformio

  • Crosskeys – Logan Walker

Gwobr Cyflawniad Sgiliau

  • Mathemateg – George Barnes, Saesneg – Maeson Matthews -Smith

Y Gyfadran Astudiaethau Cymunedol a Gofal

Gwobr Cyflawniad Gofal Plant

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Millie Clarke, Crosskeys – Charlotte Smith, Casnewydd – Calyse Davies, Parth Dysgu Torfaen – Jennifer McCarthy

Gwobr Cyflawniad Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Danni Haynes, Crosskeys – Mafaza Ali, Casnewydd – Rhian Edwards, Parth Dysgu Torfaen – Muhammad Hassan

Gwobr Cyflawniad Sgiliau Byw’n Annibynnol

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Jamie White, Crosskeys – Dane Hussey, Casnewydd – Shaun Davies, Parth Dysgu Torfaen – David Hollis

Gwobr Cyflawniad Trin Gwallt

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Aleshia Lane, Crosskeys – Sophie Keevil-Morgan, Casnewydd – Harriet Moxley

Gwobr Cyflawniad Harddwch

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Jade Cray, Casnewydd – Ellie Witch

Gwobr Cyflawniad Colur Theatraidd

  • Crosskeys – Tiana Roberts

Gwobr Cyflawniad ESOL

  • Casnewydd – Ali Abbasi

Gwobr Cyflawniad Lletygarwch

  • Crosskeys – Joshua Williams

Gwobr Cyflawniad Teithio a Thwristiaeth

  • Crosskeys – Bethany Hodson

Gwobr Cyflawniad Gwyddoniaeth

  • Casnewydd – Ann Matti, Parth Dysgu Torfaen – Nethan Llewellyn

Gwobr Cyflawniad Mynediad

  • Blaenau Gwent – Junping Huo, Casnewydd – Laura Hazlewood, Parth Dysgu Torfaen – Victoria Blanks

Gwobr Cyflawniad Sgiliau

  • Mathemateg – Ali Abassi, Saesneg – Bethany Newman

Gwobr y Gymraeg

  • Ethan Howells

Y Gyfadran Astudiaethau Menter ac Academaidd

Gwobr Cyflawniad Lefel UG

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent Christina Williams ac Adele Hope, Crosskeys Isabelle Marshall a Ffion Rendall, Parth Dysgu Torfaen Liam Davies ad Maddy Groves

Gwobr Cyflawniad Safon Uwch

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Eleanor James a Morgan Watts, Crosskeys – Daniel Greenway, Parth Dysgu Torfaen – Ella Grundy a Nell Bridges

Diploma Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth

  • Crosskeys – Carys Nash

Gwobr Cyflawniad Busnes

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Casey Davies, Crosskeys – Cherry Christmas, Casnewdd – Saddam Hasan, Parth Dysgu Torfaen – Jamie Thomas

Gwobr Cyflawniad Cyfrifiadura

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Mia Bird, Crosskeys – Tan Gilmour, Casnewydd – Mohammad Ahmed, Parth Dysgu Torfaen – Josh Tozer

Gwobr Cyflawniad Chwaraeon

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Katie Young, Crosskeys – Natalia Barnes, Parth Dysgu Torfaen / Brynbuga – Phatcharee Phimpho

Gwobr Cyflawniad Gwasanaethau Cyhoeddus

  • Parth Dysgu Blaenau Gwent – Connor Backhouse, Campws Crosskeys, Parth Dysgu Torfaen / Brynbuga – Kieran Matthews

Gwobr Cyflawniad Gofal Anifeiliaid

  • Brynbuga – Cadee Lewis

Gwobr Cyflawniad Nyrsio Milfeddygol

  • Brynbuga – Chelsea Bunney

Gwobr Cyflawniad Astudiaethau Ceffylau

  • Brynbuga – Nina Pryce

Gwobr Cyflawniad Mynediad

  • Blaenau Gwent – Caitlyn Buffrey, Crosskeys – Daniel Biggs, Casnewydd – Aimee Lancaster

Gwobr Cyflawniad Sgiliau

  • Mathemateg – Rhys Tucker, Saesneg – Keith Laing

Gwobr y Gymraeg

  • Jacob Hooper