En
Coleg Gwent Female Tutors

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - Dathlu ein tiwtoriaid benywaidd arloesol


6 Mawrth 2023

Yng Ngholeg Gwent, rydyn ni’n falch o fod yn flaengar ac yn herio stereoteipiau rhywedd yn barhaus. Dyna pam ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydyn ni’n manteisio ar y cyfle i ddathlu rhai o’n haelodau staff benywaidd gwych sy’n gweithio mewn diwydiannau sy’n cael eu dominyddu gan ddynion yn draddodiadol. Darllenwch ymlaen am gipolwg gan ein staff addysgu benywaidd gan gynnwys eu cyflawniadau mwyaf a’u cyngor i eraill a allai fod eisiau dilyn eu hôl traed.

Alexis Dabee SaltmarshAlexis Dabee Saltmarsh
Darlithydd Peirianneg Chwaraeon Moduro, Awyrennaeth a Chyfansawdd, Parth Dysgu Blaenau Gwent

Ar ôl graddio mewn Dylunio Cynnyrch, sylweddolodd Alexis yn fuan ei bod am addysgu a chefnogi pobl ifanc, gan rannu ei gwybodaeth a’i hangerdd dros y newidiadau a’r datblygiadau cyson mewn technoleg. Fe wnaeth hyn ei harwain i gwblhau ei TAR addysg uwchradd mewn Dylunio a Thechnoleg ac ers hynny mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau addysgu.

Beth yw eich cyflawniad proffesiynol mwyaf hyd yma?
Y llwyddiant mwyaf yn fy ngyrfa yw cael fy nghydnabod a fy mharchu mewn maes sy’n cael ei ddominyddu’n draddodiadol gan ddynion. Fel menyw o leiafrif ethnig yn y diwydiant hwn, rydw i wedi gweld newidiadau sylweddol ac wedi torri’r stigma, gan ddangos y gall menywod fod yn llwyddiannus yn y maes gwaith hwn.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod sy’n awyddus i ymuno â’r diwydiant?
Byddwn yn cynghori unrhyw fenyw sy’n awyddus i ymuno â’r diwydiant hwn fel gyrfa i nodi pa lwybr y byddent yn ei fwynhau. Mae llawer o wahanol fathau o swyddi peirianneg ar gael a bydd dilyn y llwybr cywir yn helpu yn y tymor hir.

Mae rhai myfyrwyr benywaidd yn cael eu hannog gan y rhagdybiaeth bod peirianneg yn cynnwys amgylchedd “olewog, budr” a defnyddio turnau a pheiriannau melin yn unig. Ond mae nifer o feysydd peirianneg cyffrous sydd angen cael eu cydnabod mewn ysgolion, er mwyn hyrwyddo’r cyfleoedd gwych y gall menywod eu cael mewn disgyblaethau peirianneg.

Beth yw’r pethau gorau am y cwrs rydych chi’n addysgu arno?
Mae gennym ni dîm talentog o ddarlithwyr ar y cwrs, sy’n helpu i adeiladu set werthfawr ac amrywiol o sgiliau a fydd o fudd i unrhyw ddysgwr sy’n dymuno astudio ein cwrs HNC, mynychu’r brifysgol, cofrestru ar gyfer prentisiaethau, neu ddechrau eu gyrfa beirianneg. Bydd ein staff cefnogol yn eich tywys drwy eich taith.

Li ManMan Li
Darlithydd Peirianneg, Pont-y-cymer

Dechreuodd gyrfa beirianneg Man Li gydag astudiaeth ôl-raddedig mewn peirianneg fanwl, gyda’i gwaith yn cynnwys teithio’n rhyngwladol i wledydd gan gynnwys yr Unol Daleithiau, yr Almaen, yr Iseldiroedd a Denmarc.

Roedd y syniad o fod yn athro wedi bod yng nghefn meddwl Li erioed. Ar ôl ymgartrefu yng Nghymru, penderfynodd fod yr amser yn iawn i astudio hyfforddiant athrawon PcET, ac ymgymerodd â’i rôl fel darlithydd peirianneg.

Beth yw’r pethau gorau am y cyrsiau peirianneg rydych chi’n eu haddysgu?
Mae peirianwyr yn ymarferwyr sy’n gwneud i bethau ddigwydd yn y byd go iawn. Mae gan ein hadran lawer o gysylltiadau agos â chwmnïau diwydiannol a phartneriaid am brofiad gwaith neu gyfleoedd prentisiaeth. Mae ein cyrsiau’n darparu gwybodaeth a sgiliau damcaniaethol ac ymarferol, ac yn caniatáu i’n myfyrwyr fanteisio ar yr arbenigedd a’r cyfleusterau peirianneg yn yr ysgol.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod sy’n awyddus i ymuno â’r diwydiant?
Gwnewch yn siŵr bod gennych chi sylfaen dda mewn Mathemateg a Ffiseg neu bynciau STEM yn yr ysgol. Ym maes peirianneg, mae digon o swyddi neu waith y gall peirianwyr benywaidd eu gwneud a bod yn dda yn eu gwneud yn ein cymdeithas sy’n cael ei gyrru gan dechnoleg.

Kelly DaviesKelly Davies
Darlithydd Peirianneg, Pont-y-cymer

Dechreuodd Kelly ei gyrfa addysgu ar ôl gwasanaethu am ddeuddeg mlynedd yn y Llynges Frenhinol fel peiriannydd aml-fedrus, mecanyddol a thrydanol, gan arbenigo mewn arfau. Tra roedd hi yn y Llynges cafodd flas ar addysgu – a sylweddolodd mai dyma oedd ei hangerdd. Felly, aeth ati i’w droi yn yrfa ar ôl gadael y gwasanaeth.

A oes unrhyw heriau penodol rydych chi wedi dod ar eu traws wrth weithio mewn diwydiannau sy’n cael eu dominyddu gan ddynion?
Dydy gweithio mewn amgylchedd sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion ddim yn fy mhoeni gan mai dyma’r cyfan rydw i wedi arfer ag o ers yn 16 mlwydd oed. Byddai’n braf gweld mwy o fyfyrwyr benywaidd yn dod drwodd serch hynny, ac rwy’n sicrhau fy mod bob amser yn gefnogol ac yn galonogol gyda’r rhai rwyf i wedi cael y pleser o’u dysgu. Rydw i wrth fy modd yn gweld myfyriwr benywaidd yn yr adran beirianneg yn ogystal â gweld fy nysgwyr yn ffynnu ac yn ennill prentisiaethau.

Yn eich barn chi, beth yw’r manteision mwyaf i fyfyrwyr sy’n astudio yng Ngholeg Gwent?
Mae gennym ni ystod amrywiol o staff addysgu; mae’r rhan fwyaf o staff nid yn unig yn athrawon ond yn beirianwyr sydd wedi gweithio fel peirianwyr. Yng Ngholeg Gwent rydyn ni’n ymfalchïo mewn gweithdai a labordai gyda’r dechnoleg ddiweddaraf. Rydw i bob amser yn anelu at feithrin perthynas dda gyda’m dysgwyr o’r cychwyn cyntaf, rwy’n dod i’w hadnabod ar lefel bersonol er mwyn gallu sicrhau fy mod yn diwallu eu holl anghenion.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd am weithio yn y diwydiant peirianneg?
Rydw i bob amser yn dweud y gallwch chi gyflawni unrhyw beth y byddwch chi’n rhoi cynnig arno, ond hefyd nid yw pethau’n cael eu trosglwyddo i chi ar blât, felly gorau po fwyaf o ymdrech fyddwch chi’n ei daflu tuag at eich gwaith.

Mae ein staff benywaidd yn ein hysbrydoli bob dydd yng Ngholeg Gwent, gan ddangos i ni fod eich opsiynau gyrfa yn ddiddiwedd. Fel llawer o’n tiwtoriaid ar draws ein pum campws, mae Alexis, Li a Kelly yn arbenigwyr yn eu meysydd, gyda chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’w rhannu o’r diwydiannau maen nhw wedi gweithio ynddyn nhw. Ond maen nhw hefyd yn paratoi’r ffordd i fenywod ffynnu mewn diwydiannau sy’n cael eu dominyddu gan ddynion yn draddodiadol, gan wneud ein coleg yn lle mwy cynhwysol i astudio ynddo.

Dewch o hyd i’r cwrs iawn i chi a chael eich ysbrydoli gan ein tiwtoriaid anhygoel yn ein digwyddiad agored nesaf. Cofrestrwch yma: www.coleggwent.ac.uk/open