En
International Women's Day.

Coleg Gwent yn rhoi sylw i arweinwyr benywaidd arloesol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched


8 Mawrth 2024

Mae Coleg addysg bellach mwyaf Cymru, Coleg Gwent, yn annog mwy o ferched o bob oed i astudio ar gyfer dyfodol mewn STEM a diwydiannau cysylltiedig. 

Mae’r uchelgais yn cael ei yrru gan arweinwyr benywaidd yn y coleg — sy’n galw ar eraill i ddilyn yn ôl eu traed ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched (8 Mawrth). 

Llwyddodd Sarah Jones, Pennaeth yr Ysgol Adeiladu yng Nghasnewydd, a Kerry Hooper, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg yn Crosskeys, i greu eu gyrfaoedd mewn mannau gwaith sy’n cael eu dominyddu’n draddodiadol gan ddynion – ac maen nhw bellach yn defnyddio eu dylanwad i ysbrydoli arweinwyr benywaidd y dyfodol. 

Er enghraifft, ers ei sefydlu yn 2022 mae dros 100 o ddysgwyr yn mynychu’r cwrs Merched mewn Adeiladu yng Ngholeg Gwent — gan arwain at yr angen am ddosbarthiadau nos ychwanegol eleni. Yn ogystal, bydd cwrs lefel uwch newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer tymor 2024/25 i ddarparu ar gyfer y diddordeb cynyddol.  

Dywedodd Sarah Jones: “Rwyf mor falch o fod yn dod â chwrs Merched mewn Adeiladu Uwch i’n dysgwyr y flwyddyn academaidd hon. Gan alluogi myfyrwyr i adeiladu ar y sgiliau a ddysgwyd yn y sesiynau cychwynnol, rwy’n gobeithio y bydd yn arwain at gynnydd amlwg mewn gweithwyr adeiladu benywaidd yn ne Cymru.” 

International Women's Day

Mae Pennaeth yr Ysgol Peirianneg, Kerry Hooper, yr un mor angerddol dros ddod â mwy o ferched i’r diwydiant peirianneg. Yn wir, ysbrydolwyd ei rôl yng Ngholeg Gwent gan alwad ledled y DU i fwy o bobl, yn enwedig merched, ystyried peirianneg yn 2019.  

Wrth sôn am pam ei bod yn bwysig i sefydliadau gael merched mewn swyddi blaenllaw, dywedodd Kerry: “Gall merched ddod â gwahanol rinweddau a safbwyntiau i sefydliad, yn enwedig mewn amgylchedd sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y mwyaf o fynediad sydd gennym at farn, sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau amrywiol. Hefyd, mae’n anodd iawn dyheu am fod yn rhywbeth sydd ddim yn cael ei gynrychioli o’ch cwmpas — felly rwy’n benderfynol o newid hynny!” 

Wrth edrych tua’r dyfodol, ychwanegodd Kerry: “Mae’r Agenda Sero Net diweddar wedi sbarduno newidiadau yn y diwydiant. Er bod galw o hyd am sgiliau peirianneg traddodiadol, mae’r diwydiant hwn a’i ofynion yn parhau i ddatblygu. Rwy’n credu ei bod yn gyffrous iawn y bydd llawer o ddarpar beirianwyr yn gweithio mewn swyddi nad ydyn nhw hyd yn oed yn bodoli eto! Mae’n gyfle go iawn i beirianwyr benywaidd fod ar flaen y gad.” 

Er mwyn darparu mwy o gymorth i ferched mewn addysg, mae Coleg Gwent yn cynnal digwyddiad ar 8 Mawrth i ferched ifanc o ysgolion lleol. Bydd y digwyddiad yn cynnwys merched ysbrydoledig o wahanol ddiwydiannau a’i nod yw ennyn diddordeb merched mewn meysydd cwricwlwm sy’n draddodiadol wedi eu dominyddu gan ddynion, ac efallai nad ydyn nhw wedi eu hystyried fel opsiynau. Yn dilyn y digwyddiad, bydd y merched sy’n bresennol hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau blasu peirianneg rhyngweithiol. 

Dywedodd Nkechi Allen-Dawson, Rheolwr Amrywiaeth, Cynhwysiant a Lles Coleg Gwent: “Rydyn ni’n ymdrechu i feithrin diwylliant cynhwysol yn gyson, lle rydyn ni’n modelu ac yn annog ymddygiadau cynhwysol, fel gwrando, empathi, parchu a chydweithio.  

“Trwy ein rhwydweithiau cyswllt staff, rydyn ni hefyd yn creu a chynnal gofod diogel a chefnogol lle gall pawb fynegi eu barn, eu syniadau a’u pryderon heb ofni beirniadaeth neu ymateb negyddol. Gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o thema Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni sef ‘ysbrydoli Cynhwysiant’, ar 8 Mawrth mae rhwydwaith cyswllt staff Merched Gyda’n Gilydd Coleg Gwent yn cynnal digwyddiad bwrdd crwn rhithwir ar gyfer staff lle bydd ystod amrywiol o fodelau rôl ysbrydoledig o bob rhan o Gymru.” 

Meddai Nkechi hefyd: “Fel rhan o strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd Coleg Gwent, erbyn 2026 rydyn ni’n bwriadu rhoi ystyriaeth naturiol i amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn ar bob lefel o’r coleg. Fel sefydliad addysgol, ac fel arweinwyr yn ein sector, mae angen i ni arwain drwy esiampl — gan ddangos gwir amrywiaeth meddwl a gweithredu.” 

I ddarganfod mwy am fentrau amrywiaeth a chynhwysiant Coleg Gwent cliciwch yma neu darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2023-2026 yma.