En
Public facilities at Coleg Gwent

Rhagor o gyfleusterau gwych ar agor i'r gymuned


8 Tachwedd 2022

A wyddoch chi fod nifer o’n cyfleusterau safon diwydiant yma yn Coleg Gwent ar agor i’r cyhoedd? Golygai hyn bod aelodau o’n cymunedau lleol yn gallu elwa ar y cyfleusterau sydd ar stepen eu drws, ochr yn ochr â’n dysgwyr a’n staff.

Fel coleg sy’n gyfrifol am hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr ar draws sawl diwydiant, rydym yn credu ei bod yn bwysig i ni gynnig cyfleusterau dysgu sy’n cyd-fynd â’r hyn fydd ein myfyrwyr yn ei weld yn y gweithle. Felly, rydym wedi bod yn adnewyddu, adfywio, a diweddaru ein campysau gyda’r offer diweddaraf er mwyn cefnogi dysg ein myfyrwyr, wrth hefyd gynnig cyfleusterau gwych i bawb eu mwynhau.

Campfa Brynbuga

Usk gym

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y gampfa ym Mrynbuga yn agor i’r cyhoedd o ddydd Llun 14 Tachwedd!

Mae’r gampfa, sydd ar agor yn ystod y tymor, yn llawn offer newydd sbon, o’r radd flaenaf, a’ch hoff offer ffitrwydd. Rydym wedi gosod llawr gwrth-sioc newydd ledled y gampfa, yn ogystal â pheiriannau ymwrthiant newydd, peiriannau hyfforddiant cardiofasgwlaidd ychwanegol, pwysau rhydd a raciau sgwotio ychwanegol, a deg beic sbin newydd.

Mae ein staff profiadol wrth law i’ch helpu i elwa i’r eithaf ar eich amser yn y gampfa. Byddwn yn cynnig ystod o ddosbarthiadau ffitrwydd newydd, gan gynnwys sesiynau cylchol, kettlebell, beicio grŵp dan do, ymwrthiant stiwdio, a dosbarthiadau syrpréis hefyd. Felly, beth am ddod draw i gal cip ar y cyfleusterau newydd o 7 Tachwedd, a chofrestru eich aelodaeth ymlaen llaw?

Salonau Gwallt a Harddwch Blŵm

Blwm hair and beauty salon

Mae Blŵm, ein salonau gwallt a harddwch wedi’u moderneiddio a’u hail-frandio, ar agor i’r cyhoedd eto. Gallwch ymweld â ni ar gyfer eich hoff driniaethau gwallt a harddwch ar gampysau Casnewydd, Crosskeys a Glynebwy.

P’un a ydych eisiau torri a lliwio eich gwallt, paentio eich ewinedd, neu awydd tyluniad, rydym yn cynnig dros 30 o wahanol driniaethau gwallt, harddwch a therapi cyflenwol yn ein salonau. Byddwch yn cael eich pampro gan ein steilyddion a therapyddion harddwch dan hyfforddiant, dan oruchwyliaeth agos ein tiwtoriaid arbenigol mewn amgylchedd salon proffesiynol.

Mae ein dysgwyr talentog wedi ennill medalau’n ddiweddar am safon uchel eu gwaith yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, gan gynnwys tair medal aur! Felly, gallwch ymweld â Blŵm gan wybod y byddwn yn gwneud ichi edrych a theimlo’n arbennig, wrth gynnig gwasanaeth o ansawdd, am ffracsiwn o’r pris.

Bwyty Morels

Morels restaurant

Wedi’i leoli ar Gampws Crosskeys, Morels yw ein bwyty a chegin broffesiynol. P’un a ydych eisiau cadw bwrdd ar gyfer cinio blasus neu gynnal digwyddiad preifat, byddwch yn sicr o gael profiad bwyta moethus.

Mae ein cogyddion dan hyfforddiant, sy’n astudio cyrsiau coginio proffesiynol, gwasanaeth bwyty, a lletygarwch, yn frwd dros fwyd. Dan arweiniad ein tiwtoriaid arbenigol yn y sector, yn ogystal â dosbarthiadau meistr gan gogyddion proffesiynol drwy Academi Fforwm y Cogyddion, mae ein myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau i gyflwyno bwyd o ansawdd dda, gwasanaeth rhagorol, a phrofiad bwyta sy’n cynnig gwir werth am arian.

Ym mwyty Morels, mae ein cogyddion dan hyfforddiant yn llunio bwydlenni o brydau traddodiadol a rhanbarthol blasus gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres, wedi’u gweini ochr yn ochr â rhestr gwinoedd eang. Mae Morels yn cynnig profiad bwyta sy’n tynnu dŵr o’ch dannedd mewn bwyty cyfeillgar, a byddwch yn sicr o ddod yn ôl am ail blatiad.

Canolfan Farchogaeth

Coleg Gwent equestrian centre

Mae Campws Brynbuga yn gartref i’n holl gyfleusterau a chyrsiau amaethyddol a gofal anifeiliaid, gan gynnwys ein canolfan farchogaeth bwrpasol. Felly, os ydych chi’n mwynhau marchogaeth yn eich amser rhydd, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y maes ceffylau, mae ein canolfan arbenigol yn cynnig arwynebau pob tywydd o’r radd flaenaf ar draws arenâu da do ac awyr agored ichi eu mwynhau. Rydym hefyd yn cynnig offer neidio, ffensys neidio traws gwlad, ac offer cystadlu i aelodau’r cyhoedd eu llogi.

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal digwyddiadau ceffylau, gan gynnwys dressage a neidio ceffylau ar gyfer pob oedran a gallu, yn ogystal â chynnig darlithoedd proffesiynol yn mynd i’r afael â’r technegau a’r tueddiadau diweddaraf i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am geffylau. Caiff y cyfleusterau marchogaeth hefyd eu defnyddio gan y Gymdeithas Marchogaeth i’r Anabl, sy’n galluogi pobl anabl yn ein cymuned i ymgysylltu â’n ceffylau arbennig.

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am ein cyfleusterau, beth am ddod draw i’n digwyddiad agored nesaf? Cofrestrwch yma!