En
Four ICT students

Grymuso menywod y dyfodol ym maes TGCh


11 Awst 2023

Dewch i gwrdd â thair myfyrwraig sy'n torri ystrydebau rhywedd drwy astudio pynciau sy'n seiliedig ar TGCh gyda'r nod o feithrin gyrfaoedd mewn technoleg.

Yn y byd digidol heddiw sy’n esblygu trwy’r amser, mae Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn chwarae rhan ganolog wrth lunio’r ffordd yr ydym yn byw, yn gweithio ac yn cysylltu â’n gilydd. O ddeallusrwydd artiffisial i ddadansoddi data, mae TGCh yn newid diwydiannau ledled y byd. Fodd bynnag, er gwaethaf datblygiadau sylweddol, mae maes TGCh yn dal i gael ei ddominyddu i raddau helaeth gan ddynion.

Yn Coleg Gwent, mae myfyrwyr benywaidd yn cael eu hannog a’u hysgogi i ddilyn dyfodol mewn TGCh. Dewch i gwrdd â thair myfyrwraig sy’n torri ystrydebau rhywedd drwy astudio pynciau sy’n seiliedig ar TGCh gyda’r nod o feithrin gyrfaoedd mewn technoleg.

 

Amy, ICT student on computerAmy-Louise White – Lefel A Cyfrifiadureg, Lefel A TGCh

O oedran ifanc iawn, roedd gen i ddiddordeb mewn technoleg. Roeddwn i’n aml yn treulio fy amser yn helpu fy nhad i drwsio dyfeisiau cyfrifiadurol, yn chwarae gemau fideo ac yn dysgu popeth y gallwn oddi wrth aelodau o’r teulu a oedd yn gweithio yn y maes.

Yn ystod y cyfnod cloi, dysgais pa mor bwysig oedd technoleg yn ein bywydau. Mae wedi chwyldroi’r ffordd rydyn ni’n cyfathrebu, yn dysgu ac yn ymlacio. Roedd y ddealltwriaeth hon yn ffactor mawr yn fy mhenderfyniad i ddewis y pynciau Lefel A a wnes i yn y coleg.

Yn ystod fy amser yn y coleg, dysgais sut i godio, a gwnes i ddylunio a chreu fy system archebu fy hun. Rwy’n dwli ar heriau, galla i ddiflasu os yw rhywbeth yn rhy hawdd, ac roedd yr asesiadau yn heriol iawn wrth iddyn nhw ddatblygu fy sgiliau technolegol! Gwnaeth fy nhiwtoriaid Sian a Claire fy helpu gan roi cymaint o gefnogaeth a chymorth i mi drwy gydol yr amser ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am hynny.

Fy nghamau nesaf yw dechrau prentisiaeth pedair blynedd o hyd mewn peirianneg meddalwedd gyda SONY. Ar ôl fy mhrentisiaeth, rwy’n gobeithio dilyn gyrfa o fewn y cwmni ac efallai hyd yn oed addysgu eraill.

Fel menyw mewn diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion, rwy’n teimlo fy mod wedi fy ngrymuso i fod yn rhan o’r ganran fach o fenywod mewn cyfrifiadureg. Mae’n bwysig dangos y gall menywod ragori cymaint â dynion yn y maes hwn. Mae’n galonogol gweld mwy o fodelau rôl benywaidd mewn TG, gan gynnwys YouTubers a modelau sy’n arbenigo mewn cyfrifiadura. Mae’r enghreifftiau hyn yn profi i ferched ifanc y gallant gofleidio eu benyweidd-dra wrth ddefnyddio eu galluoedd gwyddonol i wneud gwahaniaeth.

 

Oliwia, ICT student on computerOliwia Sydry – Cyfrifiadureg (Lefel A Blwyddyn 2)

Dewisais ymgymryd â Chyfrifiadureg yn Coleg Gwent oherwydd mae gen i angerdd cryf dros animeiddio a gemau. Rwy’n meddwl bod y maes astudiaeth hwn yn rhoi’r cyfleoedd mwyaf addawol i mi ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.

Rwy’n dwli ar ba mor amrywiol yw’r dulliau addysgu yn y rhaglen Cyfrifiadureg! Mae’n gwneud dysgu gymaint yn fwy pleserus ac effeithiol. Mae pob gwers yn teimlo’n wahanol; weithiau gwnawn weithgareddau tîm, ac weithiau wnawn waith unigol. Rwyf hefyd yn mwynhau’r ffordd mae ein tiwtor yn ein hannog a’n herio. Yr unig beth wnes i sylwi pan ddechreuais ar y cwrs oedd bod yr ystafell ddosbarth gyfan yn llawn dynion, a fi oedd yr unig fenyw. Ar y dechrau, teimlais fy mod wedi dewis y cwrs anghywir oherwydd yr ystrydeb honedig fod Cyfrifiadureg “ar gyfer” dynion. Mae angen i ni wneud mwy i ddangos i ferched ifanc y gallwn lwyddo mewn diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion fel hwn.

Fy nghamau nesaf yw gorffen fy arholiadau a chael y graddau gorau posib er mwyn i mi gael mynediad at brifysgol fy mreuddwydion, Prifysgol De Cymru. Hoffwn astudio animeiddio yna.

 

Aneesa, ICT student on laptopAneesa Ali – BTEC Lefel 3 mewn Technolegau Digidol Blwyddyn 2

Roedd gen i ddiddordeb yn y cwrs hwn oherwydd mae’n darparu profiad sy’n fy ngalluogi i feithrin y sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen ar gyfer rôl yn y diwydiant technoleg. Roeddwn i’n hoffi’r cwrs gan ei fod yn cynnig y cyfle i mi ddefnyddio technolegau modern i gadw i fyny â thueddiadau a newidiadau technolegol.

Yn ystod fy amser ar y cwrs, des i’n gyfarwydd â gwahanol ieithoedd rhaglennu fel HTML5, CSS a Python. Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer fy nyheadau gyrfa mewn diwydiannau sy’n canolbwyntio ar dechnoleg, fel datblygu meddalwedd a dylunio gwe.

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y coleg, cefais y cyfle i arwain prosiect fel dylunydd ar gyfer Amazon. Cydweithiodd ein tîm i ddatblygu datrysiad sy’n hybu ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch. Gwnaeth y profiad hwn gadael i mi roi fy ngwybodaeth ar waith ac ennill sgiliau newydd gan gynnwys datrys problemau creadigol a gwaith tîm. Drwy gydol y prosiect, aethon ni i weithdai a roddodd gyfle i mi rwydweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant technoleg. Yn ogystal â hyn, creais broffil personol ar LinkedIn, a fydd o fudd i mi yn y dyfodol.

Yn ystod ail flwyddyn fy nghwrs, roedd gen i swydd fel rheolwraig brosiect. Roedd hyn yn cynnwys cyfathrebu â’n cleient a goruchwylio’r tîm i sicrhau bod yr holl waith a gynhyrchwyd yn cyrraedd safon uchel ac yn cael ei gwblhau ar amser. Arweiniodd ein llwyddiant yn y rowndiau terfynol at ennill y wobr “Cyflwyniad Gorau”. Ces i’r anrhydedd o dderbyn gwobr “Myfyriwr y Flwyddyn Coleg Gwent”.

Ar hyn o bryd, rydw i’n ymgeisio am brentisiaethau graddedig ac wedi bod yn mynychu cyfweliadau. Mae gen i gynnig amodol oddi wrth Brifysgol Caerdydd hefyd.

Yn Coleg Gwent, mae cofleidio amrywiaeth yn flaenoriaeth i ni, ac anogwn fenywod ifanc i ddilyn gyrfaoedd mewn technoleg. Ein nod yw sefydlu amgylchedd lle mae pob merch ifanc yn teimlo ei bod wedi’i grymuso i gychwyn ar daith foddhaus ac effeithiol ym myd Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.

Paratowch ar gyfer y byd digidol gyda chwrs yn Coleg Gwent.