En
COoleg Gwnet Learners A Level Learners Celebrate Success

Dysgwyr Lefel A Coleg Gwent yn dathlu eu llwyddiant


15 Awst 2019

Dysgwyr Lefel A Coleg Gwent yn dathlu eu llwyddiant

Heddiw, mae myfyrwyr a staff Coleg Gwent yn dathlu blwyddyn arall o ganlyniadau Lefel A rhagorol ar draw ei gampysau. Roedd cyfradd lwyddo’r coleg yn ffigwr gwych o 98.5%, sydd yn uwch chymharydd Cymru a’r DU am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Ar draws Coleg Gwent, rhyngddynt safodd 392 o fyfyrwyr bron i 1,000 o arholiadau Lefel A a llwyddodd 76% ohonynt i gael graddau A* – C. Cafwyd cyfradd anhygoel o 100% mewn 34 o bynciau Lefel A ar draws ystod eang o feysydd pynciau. Roedd pawb yn gwenu wrth i’r Coleg agor ei ddrysau i fyfyrwyr Parth Dysgu Blaenau Gwent (BGLZ) a champws Crosskeys yn gynnar bore ‘ma er mwyn iddynt gael casglu eu canlyniadau.

Dywedodd y Pennaeth, Guy Lacey: “”Rydym wrth ein bodd gyda’r cyfraddau llwyddo uchel cyson sy’n adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled ein myfyrwyr a’n staff. Mae Coleg Gwent yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru ac mae’r canlyniadau hyn yn dystiolaeth o’r safon uchel o addysg y gall myfyrwyr ei ddisgwyl wrth astudio gyda ni. “”Llongyfarchiadau i bob un o’n myfyrwyr wrth lwyddo gyda’r canlyniadau rhagorol hyn. Gwyddom eu bod yn gweithio’n galed a bydd y canlyniadau hyn yn eu galluogi i fynd ymlaen i brifysgolion o safon uchel neu i ganfod swyddi cyffrous. Dymunwn bob llwyddiant iddynt i’r dyfodol.”

Mae myfyrwyr ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yn dathlu cyfradd basio gyffredinol graddau A * -E wych o 100% – i fyny o 98.72% y llynedd, tra bod myfyrwyr campws Crosskeys wedi cyflawni cyfradd basio gyffredinol o 97.62

Mae Charlotte Mitchell, 18 oed, o Swffryd, yn dathlu ar ôl ennill graddau A yn y Gyfraith a Chymdeithaseg a gradd A* mewn Seicoleg, mae hi nawr ar ei ffordd i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Lerpwl. Roedd hyn er gwaethaf goresgyn yr her o orfod darllen gwefusau yn llawer o’i gwersi – a gyflawnodd gyda chymorth a chefnogaeth ei thiwtoriaid. Daeth Charlotte, sy’n chwarae rygbi i Dîm Byddar Cymru dan 18 oed yn drwm ei chlyw ar ôl dioddef brech yr ieir pan oedd yn ddyflwydd oed. Mae hi’n gobeithio dod yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr a gwneud gwahaniaeth i gymdeithas. “Rwy’n credu bod y gyfraith yn bwysig iawn i gymdeithas ac rwyf eisiau gallu helpu i wneud y gyfraith yn gliriach ac yn decach i bawb,” meddai Charlotte, a oedd wrth ei bodd gyda’i chanlyniadau heddiw. Mae Meindyrau Breuddwydiol Prifysgol Rhydychen yn aros am Eve Tranter ar ôl i’r myfyriwr 18 oed ennill gradd A* yn ei holl bynciau Safon Uwch.Enillodd Eve, o Groespenmaen, Trecelyn, bedair gradd A* mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Ffiseg, mae hi nawr yn mynd ymlaen i astudio Meddygaeth yn Rhydychen. Dywedodd Eve, sy’n gobeithio cymhwyso fel llawfeddyg yn y pendraw, “Fyswn i ddim yn gallu bod yn hapusach. Mae fy mywyd wedi bod ar stop ac rwyf wedi gorfod gweithio’n galed iawn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf wedi gorfod aberthu llawer ond roeddwn yn gwybod beth oedd fy nod. Mae wedi bod werth yr ymdrech. “Mae fy nhiwtoriaid wedi bod yn wych. Ni fyddant wedi gallu gwneud mwy. Roeddynt ar gael i mi unrhyw adeg o’r dydd a’r nos. Mae’r gefnogaeth rwyf wedi’i chael wedi bod yn ffantastig. Nid yw’r myfyriwr hŷn, Denise Cuer wedi edrych yn ôl ers rhoi’r gorau i yrfa lwyddiannus mewn gwerthiannau rhyngwladol i astudio cwrs Safon Uwch mewn Addysg Gorfforol. Penderfynodd Denise, 51 oed, newid cyfeiriad ei gyrfa yn llwyr ar ôl 20 mlynedd ac mae hi bellach ar ei ffordd i Brifysgol De Cymru i astudio gradd mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. Dywedodd y nofiwr cystadleuol, o Gil-y-coed, Sir Fynwy: “Penderfynais wneud rhywbeth hollol wahanol ar ôl treulio 20 mlynedd yn y diwydiant larymau tân yn gweithio oriau hurt mewn gwerthiannau rhyngwladol. Rwy’n falch iawn o fy llwyddiant, er fy mod 5 marc yn unig yn fyr o ennill A*. “Roeddwn ychydig yn nerfus pan ddechreuais fy nghwrs, yn dychwelyd i addysg ar ôl cyhyd ond roedd pawb, y myfyrwyr a’r tiwtoriaid, yn wych yn enwedig fy nhiwtor Ross Bridgeman. Mae e’n wych.”” Ar ôl graddio, mae Denise yn gobeithio sefydlu busnes yn ymwneud ag iechyd, cryfder a ffitrwydd. Roedd Seren Rudge, 18 oed, o Oakdale wrth ei bodd gyda’i 3 gradd A* mewn Mathemateg, Bioleg a Chemeg ac mae’n edrych ymlaen at astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. “Doeddwn i ddim yn meddwl bod fy arholiadau wedi mynd cystal ag yr oeddwn i wedi gobeithio felly mae hyn yn gymaint o sioc,” meddai Seren, sy’n gobeithio bod yn feddyg, wrth iddi frwydro i atal y dagrau. Gwnaeth Seren, sy’n chwarae i dîm pêl-rwyd De Ddwyrain Cymru dan 18 oed, ac sydd â thad sy’n barafeddyg, ganmol ei thiwtoriaid am eu cefnogaeth trwy gydol ei hamser yn y coleg. “Rwyf eisiau bod yn feddyg, gan fy mod eisiau helpu pobl ac rwy’n credu ei fod yn broffesiwn gwerth chweil” ychwanegodd.

Storiâu Llwyddiant Parth Dysgu Blaenau Gwent: Rhoddodd Jared Swift yr anrheg pen-blwydd orau erioed i’w fam trwy ennill 3 A* yn ei bynciau Safon Uwch. Cafodd y llanc 18 oed, o Blaenau, y marciau uchaf mewn Ffiseg, Cyfrifiadureg a TGCh ac mae nawr yn cynllunio pa gamau i’w cymryd nesaf. Mae ganddo le ym Mhrifysgol Leeds i astudio Cyfrifiadureg, ond gwnaeth yn llawer gwell na’r disgwyl, felly bydd yn edrych ar opsiynau eraill. Dywedodd Jared, sy’n gobeithio am yrfa yn y maes rhaglennu neu beirianneg meddalwedd: “Rwyf wedi fy synnu gyda’r canlyniadau hyn i fod yn onest. Roeddwn yn gobeithio ennill gradd A mewn Astudiaethau Cyfrifiadur, felly ni allaf gredu fy mod wedi llwyddo i gael A* yn yr holl bynciau. Mae hi’n ben-blwydd ar fy mam heddiw, felly mae’n braf iddi hi hefyd.””

Bu Eve Thomas yn brwydro gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol trwy gydol ei chyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Gwent, ond gydag arweiniad a chefnogaeth y tîm Ysbrydoli yng Ngholeg Gwent a llawer o waith caled ac ymroddiad gan Eve, cyflawnodd canlyniadau gwych sy’n golygu ei bod ar ei ffordd i Brifysgol Caerdydd i astudio Crefydd ac Athroniaeth. Cafodd y ferch 18 oed o Victoria, Glynebwy, A mewn Astudiaethau Crefyddol, B mewn Seicoleg a Bagloriaeth Cymru a C mewn Cerddoriaeth a dywedodd ei bod hi mor falch ei bod wedi gwneud cystal. Pan ddechreuodd yn y coleg, roedd hi o dan ofal y tîm Inspire, a wnaeth ei helpu a’i hamddiffyn hi. “Rwyf wedi cael llawer o gymorth ac mae’r tîm wedi bod yn wych. Ni fyddwn wedi gallu ei wneud hebddynt. Gweithiodd pawb gyda’i gilydd i fy helpu ac rwyf wir yn edrych ymlaen at fynd i’r brifysgol.” Roedd mam Eve, Tracy Hughes, wrth ei bodd gyda chanlyniadau ei merch. “Roedd hi’n fregus iawn pan ddechreuodd hi yma ac roedd yna lawer o fesurau diogelu ar waith. Mae’r tîm Ysbrydoli wedi bod yn wych ac mae hi wedi gweithio mor galed. Rwyf mor falch ohoni. Mae Max Phillips yn dathlu ei ganlyniadau Safon Uwch rhyfeddol ar ôl ennill marciau uchel mewn Ffiseg, Mathemateg a Chyfrifiadureg. Roedd y myfyriwr 18 oed o Dredegar yn gwybod ei fod wedi cael lle ym Mhrifysgol Caerwysg i astudio Ffiseg diolch i e-bost gan UCAS cyn iddo gasglu ei ganlyniadau, ond roedd yn synnu’n fawr ei fod wedi gwneud cystal. “Rwy’n hapus iawn. Roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n iawn oherwydd cefais yr e-bost i ddweud fy mod i wedi cael fy nerbyn, ond yn amlwg nid ydych chi’n gwybod y graddau nes i chi fynd i’w nôl nhw. Nid oeddwn i’n disgwyl cael tair gradd A* – roedd yn llawer gwell na’r oeddwn wedi disgwyl. Rwyf wastad wedi mwynhau pynciau gwyddoniaeth mwy na’r celfyddydau ac nid wyf yn gwybod beth rydw i eisiau ei wneud yn y tymor hir ond mae’n debyg y byddaf yn dilyn y llwybr gwyddoniaeth.”” Canmolodd y gefnogaeth a gafodd gan y tiwtoriaid yng Ngholeg Gwent a dywedodd ei fod yn teimlo ei fod wedi’i baratoi at fywyd prifysgol. “Mae’n ffordd dda i ddechrau teimlo’n fwy annibynnol. Mae’n llai ffurfio na’r ysgol ac mae’r gefnogaeth, yr athrawon a’r cyfleusterau yn wych.”