En
Celebrating the official launch of our Cyber Hub

Dathlu lansiad swyddogol ein Hwb Seiber


17 Mehefin 2022

Mae ein Hwb Seiber wedi bod ar agor ers peth amser bellach, ac mae’r dysgwyr wedi bod yn elwa ar dechnoleg a chyfarpar seiber o’r radd flaenaf ers dechrau’r flwyddyn. Ond oherwydd COVID, bu’n rhaid gohirio lansiad swyddogol y cyfleuster tan nawr. Felly, yn ddiweddar cynhaliwyd digwyddiad lansio llwyddiannus ar gyfer ein Hwb Seiber newydd anhygoel ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy.

Lansiwyd yr Hwb Seiber fel rhan o Cyber College Cymru, sef rhaglen sy’n anelu at eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn seiberddiogelwch. Gan fod y galw am unigolion hyfforddedig yn y sector hwn yn cynyddu, a chan fod yna bryderon ynglŷn â bwlch sgiliau lleol yn y dyfodol, mae Cyber College Cymru wedi cydweithio gyda nifer o bartneriaid sefydlu i ddiffinio rhaglen o safon fyd-eang yn ymwneud â sgiliau seiberddiogelwch er mwyn cynorthwyo colegau addysg bellach a myfyrwyr yng Nghymru.

Celebrating the official launch of our Cyber Hub

Mae Hwb Seiber uwch-dechnoleg newydd Coleg Gwent yn hollbwysig i’r rhaglen ac mae’n arwain y ffordd o ran addysg seiber yng Nghymru. Mae Fujitsu ac Admiral, dau fusnes a leolir yng Nghymru ac sy’n bartneriaid cyflogi gwerthfawr i Coleg Gwent, wedi bod yn allweddol o ran sefydlu’r hwb trwy gyfrannu’n ariannol at y lle a’r dechnoleg. Mae gan yr hwb ei hun gyfarpar o’r radd flaenaf a’r gallu i weithio oddi ar y rhwydwaith – elfen allweddol er mwyn eich galluogi i ymarfer gweithgareddau seiberddiogelwch a dysgu amdanynt.

Roedd y rhai a fynychodd y digwyddiad yn cynnwys Nick Smith, AS, a Chadeirydd Llywodraethwyr Coleg Gwent, Mark Langshaw, ynghyd â llywodraethwyr eraill ac aelodau staff hollbwysig. Hefyd, roedd cynrychiolwyr o Fujitsu, Admiral, Thales a Dŵr Cymru yno i ddathlu lansiad llwyddiannus y prosiect, a hwythau’n bartneriaid allweddol i’r prosiect ei hun ac i’r coleg yn gyffredinol.

Celebrating the official launch of our Cyber Hub

Medd Dan Coles, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Allanol yn Coleg Gwent:

“Mae’r economi, yn enwedig y byd digidol, yn symud yn gyflym – gwyddom hynny o’r gorau. Hefyd, mae’r farchnad lafur yn eithriadol o gystadleuol, felly mae pobl ifanc sy’n mentro i’r byd gwaith yn wynebu marchnad lafur gystadleuol iawn.

Un o rolau addysg yw rhoi profiadau addysgu a dysgu i bobl ifanc – profiadau a fydd yn eu paratoi ar gyfer y byd gwaith ac yn cefnogi’r economi ac anghenion cyflogwyr. Mae cael y fenter bwysig hon yma yng Nglynebwy yn gyfle anhygoel, er mwyn helpu i sicrhau’r llif hwn o dalentau i Gymru yn y dyfodol.”

Medd Nick Smith, AS:

“Pleser i mi oedd helpu i ddwyn ymlaen y cynlluniau hyn ar gyfer yr Hwb Seiber hwn. Gwelais yn fuan fod y sector hwn yn tyfu a bod cynifer o gyfleoedd i’w cael. Does dim rhaid ichi fod â gradd a gallwch ddechrau yn y gwaelod ac esgyn fry. Rydw i wrth fy modd fod y cyfleuster newydd anhygoel hwn ar gael i bobl ifanc ar garreg eu drws, a’i fod yn cynnig llwybr at swyddi crefftus â chyflog da.

Beth am ddysgu mwy ynglŷn â Cyber College Cymru a’r cyfleoedd sydd ar gael i weithio yn y maes seiberddiogelwch yn ystod ein diwrnod agored nesaf. Ymgeisiwch nawr i ymuno â ni ym mis Medi a llwyddo yn y byd seiber cyffrous – ond peidiwch ag oedi, mae’r llefydd yn diflannu’n gyflym!