En

Staff Adeiladu yn mynd ar gefn eu beiciau ar gyfer Gofal Hosbis Dewi Sant


19 Gorffennaf 2019

Staff Adeiladu yn mynd ar gefn eu beiciau ar gyfer Gofal Hosbis Dewi Sant

Llongyfarchiadau i’n darlithwyr adeiladu sydd wedi cwblhau eu taith feicio flynyddol yn llwyddiannus, er mwyn codi arian ar gyfer Gofal Hosbis Dewi Sant.

Mae staff Coleg Gwent wedi codi miloedd o bunnau ar gyfer llu o elusennau gwahanol dros y ddegawd diwethaf.

Trevor Hull, plymwr sy’n 62 mlwydd oed, yw trefnydd taith feicio Coleg Gwent, sy’n daith gylchol 33 milltir, yn dechrau ac yn gorffen yng Nghampws Dinas Casnewydd, ac yn galw heibio Campws Brynbuga ar y ffordd.

Dywedodd Trevor, sy’n feiciwr brwd: “Mae wyth beiciwr wedi cymryd rhan yn y daith. Rydym wedi dewis cefnogi Gofal Hosbis Dewi Sant eto eleni, oherwydd bod aelod hir sefydlog o staff wedi cael gofal gan yr elusen.”

Roedd y staff adeiladu, yn eu plith plymwyr, trydanwyr a bricwyr, yn cael cwmni Emma Foster, y swyddog cyllid.

“Aeth y daith yn dda iawn ac rydym yn falch iawn o godi arian ar gyfer achos mor haeddiannol,” ychwanegodd Trevor.

Dywedodd Skye Lewis, o Gofal Hosbis Dewi Sant: “Rydym wrth ein boddau bod staff adeiladu Coleg Gwent wedi dewis cefnogi ein helusen ni unwaith eto, ac yn hybu iechyd a ffitrwydd wrth wneud hynny, hefyd.”