En
Health and social care students learning about mental health on a laptop

Myfyrwyr Coleg Gwent yn gwirfoddoli gyda Materion y Meddwl


11 Mai 2021

Mae Materion y Meddwl yn brosiect a ariennir gan y Loteri Fawr sy’n cael ei redeg gan Materion Gwirfoddoli sy’n anelu at gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc trwy raglen hyfforddi gwirfoddolwyr. Mae’r prosiect yn arfogi pobl ifanc 16-24 oed gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i ddarparu gweithgareddau ymwybyddiaeth iechyd meddwl i’w cyfoedion.

Mae Llwybr Gyrfa Gofal Gwent wedi gweithio mewn partneriaeth â Materion Gwirfoddoli i gynnig cyfle i fyfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngholeg Gwent gymryd rhan yn y prosiect Materion y Meddwl i wella eu hiechyd meddwl a’u lles ac ategu eu hastudiaethau. Mae Llwybr Gyrfa Gofal Gwent yn bartneriaeth sy’n ceisio cefnogi camau i ddatblygu a recriwtio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwent. Ymhlith y partneriaid mae BIPAB, Coleg Gwent, awdurdodau lleol Gwent a darparwyr gofal cymdeithasol preifat, sydd i gyd wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol tosturiol a medrus.

Mae pandemig coronafirws wedi cael effaith enfawr ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc ledled Cymru, gyda llawer yn teimlo’n ynysig ac yn unig oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo cenedlaethol. Aflonyddwyd dro ar ôl tro ar astudiaethau’r myfyrwyr, ac mae llawer wedi ei chael hi’n anodd ymdopi â newidiadau i’w hamgylchedd dysgu ac addasu i ddysgu rhithwir.

Mae Materion Gwirfoddoli wedi gallu darparu sesiynau hyfforddi Materion Meddwl i fyfyrwyr yn rhithiol ac wedi creu ffyrdd newydd o ddarparu gweithgareddau ymwybyddiaeth trwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae Casey, 16 oed, yn fyfyrwraig yng Ngholeg Gwent. Mae hi’n astudio iechyd a gofal cymdeithasol lefel 2 ym Mharth Dysgu Torfaen. Pan glywodd am Brosiect Materion Meddwl,  bachodd y cyfle i ennill rhywfaint o wybodaeth a phrofiad ychwanegol:

“Mae wedi bod yn wych cwrdd â phobl newydd a chredaf ei fod eisoes wedi helpu i wella fy hyder. Mae wedi bod yn ddiddorol dod i adnabod rhai o fyfyrwyr y brifysgol sydd hefyd yn gwirfoddoli, yn enwedig gan ein bod ni i gyd wedi bod trwy brofiadau mor debyg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedi bod yn ei chael yn haws sgwrsio am iechyd meddwl gyda fy ffrindiau, mae rhai wedi bod yn ei chael hi’n anodd iawn yn ddiweddar ac mae’n teimlo’n dda cynnig rhywfaint o gefnogaeth. Mae’r sesiynau hyn eisoes wedi bod yn ddefnyddiol i mi yn bersonol a chredaf y bydd yr hyn rwy’n ei ddysgu gyda Materion y Meddwl hefyd yn helpu gyda fy nod yn y dyfodol i astudio Lefel A Seicoleg.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, neu ddechrau gyrfa mewn iechyd a gofal cymdeithasol, yna beth am gysylltu â Materion Gwirfoddoli neu edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Gwent.