En
Surgeon in theatre

Coleg Gwent yn Lansio Cwrs Mynediad i Feddygaeth Cyntaf yng Nghymru


30 Awst 2023

Y cwrs, a fydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer Gradd Llwybr Meddygol yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Mewn symudiad arloesol tuag at gynwysoldeb a chyfle cyfartal, mae Coleg Gwent wedi ymuno ag Agored Cymru a’r Athro Paul Edwards i gynnig cyfle i fyfyrwyr o gefndiroedd llai breintiedig astudio cwrs Mynediad i Feddygaeth.  

Y cwrs, a fydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer Gradd Llwybr Meddygol yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru. 

Mae’r llwybr tuag at ddod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi bod yn llawn heriau a chyfyngiadau i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig am lawer rhy hir. Mae cyfyngiadau ariannol, diffyg arweiniad academaidd a hunan-amheuaeth yn aml wedi bod yn rhwystrau i ddarpar weithwyr meddygol proffesiynol. Fodd bynnag, bydd cwrs Mynediad i Feddygaeth Coleg Gwent yn ceisio mynd i’r afael â’r materion hyn yn uniongyrchol. 

Mae Coleg Gwent yn gweithio gyda’r Athro Paul Edwards, Llawfeddyg Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i lansio’r cwrs a fydd yn rhedeg am y tro cyntaf ar gampws yn Crosskeys fis Medi.  

Oherwydd ei amlygiad i amddifadedd cymdeithasol a diffyg hyder ynddo’i hun fel plentyn, mae wedi penderfynu herio’r dulliau traddodiadol o gael mynediad at y maes meddygol, gyda’r nod o’i wneud yn fwy hygyrch.    

Dywedodd: “Cefais fy magu yn y Coed Duon ac astudiais Safonau Uwch yn Coleg Gwent. Pan oeddwn i’n 18 oed, doedd gen i ddim dyheadau, roeddwn i’n cael trafferth gyda hyder, a doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i’n ddigon da. Oherwydd y rhesymau hyn, doeddwn i ddim yn llwyddiannus. Roedd y graddau a gefais yn is na’r safon, ac roeddwn yn siomedig yn fy hun. Fy nghanlyniadau Safon Uwch oedd yr alwad deffro yr oeddwn ei hangen i newid fy agwedd. Fe wnes i godi fy hun yn ôl i fyny a gwthio fy hun i ymgeisio i Brifysgol Aston i astudio am Radd Baglor mewn Gwyddoniaeth drwy’r broses glirio. 

“Roeddwn i’n gwybod bod angen i mi weithio’n andros o galed, a chyn hir saethais i frig fy mlwyddyn. Roeddwn i wedi dod o hyd i’m ffordd. Ar ôl fy ngradd, cwblheais ddoethuriaeth a phenderfynais yr oeddwn am ddilyn meddygaeth. Wrth dyfu i fyny yn nhref fechan yng Nghymru, roeddwn wastad yn meddwl bod gradd feddygol yn rhywbeth a oedd allan o fy nghyrraedd. Ond, yn 1991 dechreuais fy ngradd feddygol yn ysgol feddygol Southampton, ac yn fuan cyrhaeddais frig y dosbarth. Yr hyn a sylweddolais oedd fy mod yn gymaint mwy na fy ngraddau Safon Uwch.” 

Wedi’i gynllunio i rymuso myfyrwyr, nod y cwrs mynediad trawsnewidiol hwn yw agor drysau a pharatoi’r ffordd ar gyfer unigolion talentog sydd, yn draddodiadol, wedi wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at y maes meddygaeth – boed hynny heb gyflawni’r graddau yr oeddent eu heisiau yn yr ysgol, cyfyngiadau ariannol neu deimladau o hunan-amheuaeth.  

Dywedodd Paul: “Penderfynais weithio gyda Coleg Gwent i lansio’r cwrs Mynediad i Feddygaeth oherwydd roeddwn am herio’r system ystrydebol na allwch ymuno â’r proffesiwn meddygol heb ragoriaeth academaidd a fesurir yn ôl graddau Safon Uwch. Rydym yn targedu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yng Nhymru neu’r rheini a allai fod wedi colli’r cyfle i astudio meddygaeth yn y brifysgol oherwydd iddyn nhw wynebu rhwystrau yn eu bywydau personol. Mae yna lawer iawn o dalent sy’n cael ei danddefnyddio yng Nghymru, ac felly drwy dargedu’r myfyrwyr hyn, byddem yn helpu i wneud y proffesiwn yn fwy hygyrch, yn fwy amrywiol ac yn fwy cynrychioliadol o’n cymuned leol.” 

Mae’r cwrs yn llwybr astudiaeth ddwys flwyddyn o hyd sy’n cwmpasu cemeg, mathemateg a bioleg. Dyma’r cyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd yn codi pobl i hyd at dair gradd A mewn Gwyddoniaeth — y cynnig derbyn traddodiadol ar gyfer astudio gradd meddygaeth.  

Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 15 mlynedd o hyfforddiant i ddod yn feddyg arbenigol cwbl gymwys, gan gynnwys pum mlynedd yn yr ysgol feddygol ar gost o hyd at £50,000 y flwyddyn mewn ffioedd. Nid oes mawr o syndod taw dim ond 6% o feddygon sydd yn dod o’r codau post tlotaf yng Nghymru. 

Dywedodd: “Mae’r cwrs Mynediad i Feddygaeth yn gwrs rhad ac am ddim, sy’n golygu bod myfyrwyr yn gweithio tuag at rywbeth a fydd yn cyfateb i radd sylfaenol mewn meddyginiaeth, heb unrhyw gost. Y nod yw helpu i annog pobl sy’n wynebu heriau ariannol i gymryd rhan, a lleddfu’r straen economaidd sydd ar fyfyrwyr, gan roi’r amser iddyn nhw ganolbwyntio ar eu hastudiaethau a meithrin eu hangerdd dros feddygaeth.” 

Nodwedd amlwg o’r cwrs Mynediad i Feddygaeth yw’r pwyslais ar amlygiad clinigol ymarferol. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i arsylwi gweithdrefnau clinigol a gofal claf o dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol, gan gynnwys Paul. Bydd y cyfle dysgu hwn nid yn unig yn cyfoethogi eu gwybodaeth feddygol ond bydd hefyd yn arfogi’r myfyrwyr gyda’r proffesiynoldeb sydd yn angenrheidiol ar gyfer llwyddiant yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. 

Bu Dr Jamie Read, Deon Addysg Feddygol a Geriatregydd Arbenigol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, yn cydweithio â Coleg Gwent a’r Athro Paul Edwards i ddatblygu’r cwrs ar gampws Crosskeys. Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfweliadau ar gyfer ei hysgol feddygol i’r myfyrwyr a fydd yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. 

Dywedodd Dr Read: “Mae bod yn feddyg yn yrfa hynod werth chweil, ond yn un nad yw wastad wedi bod yn hygyrch i bobl o bob cefndir. Mae hyn yn amlwg yn annerbyniol, ac mae’r cwrs hwn yn gam andros o bwysig i ddelio â rhai o’r anghydraddoldebau wrth ymgeisio ar gyfer ysgol feddygol. Mae ffocws clinigol y cwrs yn arbennig o ffafriol, a bydd yn rhoi ymgeiswyr ysgolion meddygol y dyfodol mewn sefyllfa gref iawn.” 

Dywedodd Paul: “Trwy ehangu mynediad at addysg feddygol, mae Coleg Gwent yn cymryd cam sylweddol tuag at greu gweithlu gofal iechyd mwy amrywiol a chynhwysol. Nod y cwrs Mynediad i Feddygaeth yw meithrin amgylchedd lle gall myfyrwyr o bob cefndir ffynnu, waeth beth eu hamgylchiadau personol, methiannau hanesyddol neu anfanteision ariannol. Bydd y coleg yn adolygu pob cais fesul achos ond mae’r cwrs hwn yn bennaf ar gyfer y rhai o gefndiroedd ‘ehangu mynediad’ sydd ag angerdd gwirioneddol dros feddygaeth.” 

Dyfernir y Diploma Mynediad i Addysg Uwch gan Agored Cymru.  

Wedi’i leoli ym Mangor a Chaerdydd, mae Agored Cymru yn gorff dyfarnu ac yn asiantaeth milysu mynediad, yn datblygu cymwysterau dwyieithog, achrediadau pwrpasol a gwasanaethau ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru a thu hwnt. Wedi’u rheoleiddio gan Gymwysterau Cymru (CC), Ofqual a’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA), mae’r cymwysterau dwyieithog hyblyg a hygyrch yn cael eu cydnabod yn eang, eu gwerthfawrogi a’u parchu gan y sector addysg, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr. 

I ddysgu rhagor ac i wneud cais, cliciwch yma.