En

Agored Cymru Agored Cymru Mynediad i AU - Meddygaeth Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Mynediad at Addysg Uwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

  • Rydych o leiaf 18 oed ac eisiau dechrau ar Addysg Uwch i astudio Meddygaeth neu Lwybr Meddygol (Deintyddiaeth, Optometreg)
  • Mae gennych o leiaf 5 TGAU mewn Gwyddoniaeth, Mathemateg a Saesneg ar lefel gradd B (6) neu uwch
  • Rydych eisoes wedi llwyddo i astudio ar Lefel 3, yn ddelfrydol ar Lefel A (gan gynnwys un ai Lefel A mewn Bioleg neu Gemeg neu Fathemateg).
  • Os ydych chi’n credu nad ydych wedi achub ar bob cyfle neu heb gael cyfle i gyflawni eich llawn botensial oherwydd eich profiad ysgol neu eich amgylchiadau personol

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr yn benodol ar gyfer cyrsiau gradd megis Meddygaeth a Deintyddiaeth. Mae hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyrsiau gradd yn ymwneud â gwyddorau meddygol megis Optometreg, Fferylliaeth, Ffarmacoleg, y Gwyddorau Biofeddygol, Radiograffeg a Ffisioleg. Darperir ystod o unedau cynnwys pynciau academaidd mewn bioleg, cemeg a ffisioleg yn ogystal ag amrywiaeth o unedau a ddyluniwyd i wella sgiliau academaidd myfyrwyr. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymrwymo i raglen o leoliadau profiad gwaith mewn lleoliad gofal iechyd drwy gydol y cwrs.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych chi’n bodloni’r meini prawf derbyn

... Mae gennych ddiddordeb mawr mewn unrhyw ddisgyblaeth gwyddoniaeth

... Rydych eisiau astudio llwybr Meddygaeth yn y Brifysgol

... Rydych eisiau gweithio mewn gyrfa sy’n ymwneud â llwybr Meddygaeth.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i’ch helpu i fodloni eich targed.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau megis Biocemeg, Anatomeg, Ffisioleg, Technoleg DNA, Cemeg, Mathemateg a Ffiseg, sydd oll wedi’u teilwra i gefnogi eich astudiaethau academaidd i’r dyfodol yn y brifysgol. Hefyd, byddwch yn cyflawni prosiect ymchwil archwilio, datblygu eich sgiliau astudio a mynd ar brofiad gwaith mewn lleoliadau gofal iechyd lleol.

Dyfernir y Diploma Mynediad i Addysg Uwch gan Agored Cymru. Os byddwch yn llwyddo yn y cwrs, byddwch yn cael diploma Mynediad i Feddygaeth gan Agored Cymru.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Cwrs paratoadol naw mis yw hwn ar gyfer graddau prifysgol, felly mae angen ymrwymo’n llawn er mwyn llwyddo. Disgwylir presenoldeb ac amseroldeb ardderchog yn ogystal ag astudio y tu allan i oriau gwersi. Mae’n bwysig eich bod chi’n meddwl sut fyddwch chi’n cydbwyso’r gwaith gyda’ch bywyd teuluol ac unrhyw ymrwymiadau eraill allai fod gennych.

  • Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad gyda phrawf gallu i asesu sgiliau ysgrifennu a’ch ddelfrydol ar Lefel A (gan gynnwys un ai Lefel A mewn Bioleg neu Gemeg neu Fathemateg).
  • Os ydych chi’n credu nad ydych wedi achub ar bob cyfle neu heb gael cyfle i gyflawni eich llawn botensial oherwydd eich profiad ysgol neu eich amgylchiadau personol

Beth sy'n digwydd nesaf?

Symud ymlaen i brifysgol i astudio gradd mewn pwnc Meddygol / Biowyddorau, megis Meddygaeth, Deintyddiaeth, Bioleg, Biofeddygaeth ac Optometreg.

Ble alla i astudio Agored Cymru Agored Cymru Mynediad i AU - Meddygaeth Lefel 3?

CFAC0037AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr