En
X-Ray's Lucy Owen with Coleg Gwent staff

BBC X-Ray yn Ymweld â'n Hadran Fodurol Flaenllaw


27 Mawrth 2020

BBC X-Ray yn Ymweld â'n Hadran Fodurol Flaenllaw

Wythnos ddiwethaf, croesawodd Gampws Crosskeys westeion hynod arbennig am y diwrnod – criw ffilmio BBC X-Ray. Dydd Mawrth 17 Mawrth, cafodd staff a dysgwyr adran Fodurol Coleg Gwent ymweliad gan wynebau adnabyddus iawn o’r BBC, a ddaeth i’n gweld i ddefnyddio ein cyfleusterau i adrodd ar brofion MOT a chynnal a chadw cerbydau modurol ar gyfer y rhaglen deledu hawliau defnyddwyr boblogaidd a gafodd ei darlledu am 7:30pm ddydd Iau 26 Mawrth.

Mae Coleg Gwent yn cael ei ystyried yn un o brif ddarparwyr hyfforddiant ar gyfer y sector modurol yn ne Cymru, ac mae gan ein Canolfan Achrediad Technegydd Modurol (ATA) rai o’r cyfleusterau gorau drwy’r wlad. Ar draws ein campysau, mae gennym siop cyrff cerbydau, ystafell baratoi, bŵth chwistrellu, gweithdai peirianneg, a staff cymwys a phrofiadol ar y safle. Gyda’n pedwar gweithdy atgyweirio cerbydau ysgafn, yr unig weithdy cynnal a chadw ac atgyweirio beiciau modur yn ne Cymru a gweithdy cerbydau trydan, ein coleg oedd y lleoliad delfrydol ar gyfer y bennod o BBC X-Ray a gyflwynwyd gan Lucy Owen.

BBC X-Ray's Lucy Owen filming at Coleg Gwent's Automotive department

Cafodd Stephen Wardman, ein Prif Ddarlithydd Technolegau Modurol, ei ffilmio ochr yn ochr â Lucy, yn rhoi cyngor allweddol am brofion MOT ac awgrymiadau ardderchog ynglŷn â chynnal a chadw cerbydau o’n gweithdy yn Crosskeys. Dywedodd: “Mae’n cymryd peth amser i ennill enw da yn y fasnach fodurol a daw hynny drwy fod yn garedig â phobl a thrwy ddarparu cyngor clir a chadarn. Rwy’n teimlo ei bod hi’n angenrheidiol i mi ddangos bod y rhan fwyaf o’r bobl yn y Fasnach Fodurol yn bobl dda, sydd wirioneddol eisiau cefnogi cwsmeriaid a rhoi iddynt y gwasanaeth a’r profiad gorau posibl.”

Eglurodd fod “Adran Fodurol Coleg Gwent yn lle arbennig i weithio. Bob blwyddyn cawn gyfle i hyfforddi’r garfan nesaf o dechnegwyr modurol ardderchog. Ar hyn o bryd, mae prinder enfawr o dechnegwyr modurol o ansawdd yn y fasnach fodurol, felly mae nawr, yn fwy nag erioed, yn amser gwych i ddod i mewn i’r diwydiant hwn.”

Gyda’r sector modurol yn newid yn gyflym, rydym wedi buddsoddi’n eang yn y maes astudio hwn i ddiweddaru ac adnewyddu ein cyfleusterau a’n hoffer i’r dysgwyr ac i fod ar flaen gofynion a dulliau hyfforddi newydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda’r gwaharddiad petrol a disel y mae disgwyl iddo ddod i rym yn 2035. Felly, rydym yn ddiweddar wedi prynu cerbydau trydan newydd i’n dysgwyr gael gweithio gyda nhw, gan gynnwys y Nissan Leaf a BMW i3, yn ogystal â’r holl offer profi a diogelwch sydd eu hangen i weithio ar y cerbydau hyn.

X-Ray's Lucy Owen with Coleg Gwent staff and learners

Mae nifer o gyrsiau llawn amser a rhan amser cyffrous ar gael yn ein hadran Fodurol ar gyfer galluoedd o bob lefel, gan gynnwys ceir a cherbydau modur, a hyfforddiant cerbydau trydan yn y dyfodol agos. Mae’n amser cyffrous iawn i fod yn ddysgwr Modurol yn Coleg Gwent.

Ar ôl treulio’r diwrnod yn ffilmio ar leoliad gyda’r tîm BBC X-Ray, dywedodd Stephen Wardman: “Rwy’n gobeithio bod y cyngor yr wyf wedi’i gynnig o fudd i ddefnyddwyr ac yn eu helpu nhw i sicrhau bod eu ceir yn llwyddo yn y prawf MOT y tro cyntaf, neu fy mod o leiaf wedi arbed ychydig o arian iddynt.”

Yn y cyfamser, dywedodd Lucy Owen: “Diolch yn fawr i Coleg Gwent am groesawu’r tîm BBC X-Ray yma heddiw. Rydym wedi cael amser arbennig – mae’r cyfleusterau yn wych, a chawsom groeso cynnes iawn. Felly, diolch.”

Gallwch chi wrando ar awgrymiadau ardderchog a chyngor Stephen ar BBC X-Ray sydd bellach ar gael ar BBC iPlayer, ac ewch i www.coleggwent.ac.uk i ddysgu mwy am astudio yn ein hadran Fodurol yn Coleg Gwent.