En
Cŵn therapi yn cefnogi ein dysgwyr

Cŵn therapi yn cefnogi ein dysgwyr


18 Tachwedd 2022

Mae cyflogai newydd wedi ymuno â ni’r tymor hwn fel rhan o brosiect cymorth arloesol i fyfyrwyr – Pippa y Cavachon. Fel rhan o’r Prosiect Baxter, mae’r cyflogai gwallt cyrliog â chynffon chwim yn gweithio ochr yn ochr â’i phartner dynol Julie, i gynorthwyo myfyrwyr i ymlacio a bod yn agored ynghylch eu trafferthion.

Gwnaed ymweliadau Pippa a Julie yn bosib diolch i gymorth Chloe Andrews, ein Hyfforddwr Cymorth Dysgu yng Nghampws Crosskeys. Ymunodd Chloe â’r coleg yn ystod pandemig Covid-19 i ddarparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr yn adran y Celfyddydau Creadigol. Mae hi’n helpu dysgwyr mewn sawl ffordd wahanol – o broblemau iechyd meddwl a hunanhyder i gymorth cyffredinol gyda chyrsiau.

Ond mae dychwelyd i normalrwydd yn dilyn Covid-19 wedi bod yn her i nifer ohonom, ac mae Maria Retter, Pennaeth Ysgol y Celfyddydau Creadigol, yn cydnabod bod rhai myfyrwyr yn cael mwy o drafferth nac eraill. Felly, gwnaed cais am gymorth ychwanegol gan y Prosiect Baxter, ac mae Pippa a Julie yn ymuno â ni ddwywaith yr wythnos bellach i weithio gyda’n myfyrwyr Celfyddydau Creadigol.

Baxter Project Coleg Gwent Dog Therapy

Manteision y Prosiect Baxter

Gydag ysgolion yn unig yr oedd Prosiect Baxter wedi gweithio cyn hyn, a ni yw’r coleg cyntaf iddynt weithio â nhw. Mae’r ymyrraeth cymorth anifail therapiwtig hwn yn cynorthwyo llesiant emosiynol, cymdeithasol, addysgol a chorfforol pobl ifanc sydd ei angen fwyaf. Mae’n fenter gyffrous sy’n cynorthwyo ein dysgwyr i fagu hyder, datblygu sgiliau cyfathrebu, a lleihau pryder, wrth gwrdd â chŵn hynod o ddel fel Pippa. Ond mae cŵn y Prosiect Baxter yn llawer mwy na chwmni del. Maent yn anifeiliaid cymorth arbenigol sydd wedi eu hyfforddi i wneud i’n myfyrwyr ymlacio, wrth bontio’r bwlch i’r rhai nad ydynt yn gyfforddus yn rhyngweithio â phobl.

Rydym eisoes wedi gweld effaith gadarnhaol y Prosiect Baxter, wrth i ddysgwyr chwilfrydig gyfeirio eu hunain am gymorth a rôl gweld beth mae Pippa a Julie yn ei wneud. Mae Chloe wedi derbyn adborth gwych gan ein dysgwyr:

  • “Gallaf siarad yn agored am fy mhroblemau a’m teimladau heb gael fy marnu.”
  • “Mae treulio amser gyda’r ci yn helpu fy ngorbryder.”
  • “Mae wedi fy helpu i fod yn agored a deall bod fy nheimladau yn ddilys.”
  • “Mae treulio amser gyda’r ci yn fy helpu i deimlo’n gyfforddus a diogel mewn amgylchedd newydd.”
  • “Gall cael amser i siarad, oddi wrth bobl, wella cynhyrchedd am weddill y dydd.”
  • “Mae hwn yn brosiect anhygoel y dylid ei rannu gyda sawl ysgol a choleg arall i helpu pobl ifanc gael gwared ar ofn o fannau cyhoeddus penodol a’u helpu i deimlo’n well yn gyffredinol.”

Baxter Project Coleg Gwent Dog Therapy

Ein pecyn cymorth i ddysgwyr

Mae’r Prosiect Baxter yn rhan bwysig o’n pecyn cymorth i ddysgwyr. Mae cymorth ar gael i’n dysgwyr yn y coleg bob amser, ac mae rhywun ar gael bob amser pan fyddwch angen cymorth. Y fenter ddiweddaraf sydd gennym i gynorthwyo gyda’ch llesiant yw’r Prosiect Baxter, ac mae’n plethu gyda’n hystod o wasanaethau cymorth i ddysgwyr.

Yn ystod eich astudiaethau, bydd gennych diwtor personol yn Coleg Gwent, yn ogystal â’r hawl i ddatblygu sgiliau, cymorth Mathemateg a Saesneg, cyngor gyrfaol a llawer mwy. Felly, p’un ai bod angen cymorth gyda’ch astudiaethau, neu gymorth bugeiliol ar gyfer eich iechyd a llesiant, rydym yma i’ch cynorthwyo i ffynnu. Efallai nad yw rhai o’n dysgwyr eisiau bod gartref dros yr hanner tymor, ac os felly, gallant ddod i’r coleg a bod yn greadigol, neu ymlacio mewn man diogel.

Mae cynorthwyo llesiant ein dysgwyr yn ganolog i’r hyn a wnawn yn Coleg Gwent. Rydym bob amser yn rhoi dysgwyr yn gyntaf, ac mae Pippa a Julie yn ein cynorthwyo nawr i wneud hyn mewn modd unigryw a chadarnhaol. Felly, byddwch yn derbyn yr holl gymorth sydd ei angen arnoch chi, a mwy, yn Coleg Gwent!