En
Coleg Gwent Motor Apprentices

Wythnos Prentisiaethau 2020


3 Chwefror 2020

Wythnos Prentisiaethau 2020

Prentisiaethau: yn wych i ddysgwyr, yn wych i fusnesau.

Mae prentisiaethau’n wych i’r rhai sydd eisiau mynd i mewn i fyd gwaith yn syth ac ennill cymwysterau ar yr un pryd. Yma yn Coleg Gwent rydym yn falch o gefnogi mwy na 445 o ddysgwyr sydd yn gwneud hynny. Mae prentisiaethau’n wahanol iawn i sut yr oeddent yn y gorffennol, a bellach maent yn cynnig llawer o gyfleoedd gwahanol a chyffrous i brentisiaid a chyflogwyr. Gallwch fod yn brentis o unrhyw oedran, pa un a ydych yn 16 neu’n 100, felly os nad ydych eisiau mynd i’r brifysgol, neu eich bod eisiau newid eich gyrfa ond ddim yn gwybod ble i gychwyn, efallai y dylech ystyried prentisiaeth. Mae ein rhaglenni prentisiaeth yn darparu cyfle i ddysgwyr gychwyn eu gyrfaoedd o fewn amrywiaeth eang o sectorau o Ofal Cymdeithasol i Beirianneg, a gan ei bod hi’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2020, dyma’r adeg berffaith i ddathlu’r holl bethau arbennig mae ein prentisiaid yn eu cyflawni a dangos i chi pam mai Coleg Gwent yw’r sefydliad gorau i ddilyn prentisiaeth ynddo!

Mae Harry yn esiampl wych o brentis wrth ei waith. Cwblhaodd ei gyrsiau Safon Uwch yn yr ysgol cyn ennill prentisiaeth mewn Peirianneg Fecanyddol gyda TARMAC. Gwnaethant ei gofrestru yn Coleg Gwent ar unwaith a 2 flynedd yn ddiweddarach mae’n mynd o nerth i nerth

“Arhosais yn y chweched dosbarth ac astudio cyrsiau Safon Uwch gan nad oeddwn yn gwybod beth i’w wneud. Wedi i mi adael yr ysgol gwelais hysbyseb am brentisiaeth gyda TARMAC. Ar ôl i mi gychwyn gweithio cefais fy nghofrestru yn y coleg. Rwyf eisiau cwblhau fy nghymhwyster a pharhau i weithio fel gosodwr a gwneuthurwr chwarel yn cynnal a chadw’r peirannau. I allu gwneud hyn bydd angen i mi gwblhau lefel 2, yna symud ymlaen at lefel 3 a Thystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch. Mae sesiynau ymarferol yn ddifyr, nid yw’r offer yn y gweithdy ar gael mewn ysgolion. Mae’r staff addysgu’n barod iawn i helpu, a gallaf siarad â’m tiwtoriaid ynghylch unrhyw fater.”

Daw stori lwyddiant arall gan Aled, sydd ar hyn o bryd yn gweithio at Lefel 1 mewn coginio ac wedi cael cyfle i ehangu ei sgiliau a phrofiad drwy gyfuno gwaith ac astudio

“Rwy’n mwynhau elfen ymarferol y cwrs yn arw, siarad gyda chwsmeriaid a dysgu am y theori y tu ôl i wneud y bwyd. Yn ddiweddar buom yn gweithio gyda Chogyddion yn y gegin yn y Marriott yng Nghaerdydd. Mae wedi gwella fy Mathemateg a Saesneg, ac rwy’n gallu siarad â chwsmeriaid gyda hyder. Enillais wobr myfyriwr y flwyddyn a hoffwn swydd fel gweinydd; efallai y bydd swydd yn codi ar ôl cwblhau’r cwrs”

Os ydych yn gyflogwr, mae cyflogi prentis yn ffordd wych o feithrin talent a datblygu gweithlu brwdfrydig, cymwys a medrus. Mae prentisiaethau yn helpu cyflogeion i ennill cymwysterau a sgiliau ymarferol gwerthfawr a gydnabyddir gan y diwydiant, fel eu bod yn gwella eu perfformiad, ac yn bennaf oll, os yw eich busnes yng Nghymru, gallwch fanteisio ar y rhaglen heb unrhyw gost. Does dim cyfyngiadau o ran maint y busnes a dim cyfyngiadau ar faint o Brentisiaid y cewch eu cyflogi, ac un o’r pethau gorau am weithio mewn partneriaeth â Coleg Gwent yw bod gennym restr o ddysgwyr sy’n chwilio am gyflogwr i’w cefnogi mewn prentisiaeth, sy’n golygu ein bod ni’n gallu gwneud y broses recriwtio yn fwy hwylus a chyflym i chi.

Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2020 yn amser perffaith i ddysgu sut all prentisiaeth fod o fantais i chi a’ch gyrfa, neu eich busnes, ac fel y gwelwch o brofiadau ein dysgwyr, gallai Coleg Gwent fod y lle perffaith i chi!

Am ragor o wybodaeth am ein rhaglenni prentisiaeth, gweler: www.coleggwent.ac.uk/cy/learning/apprenticeships , neu ar gyfer cyflogwyr, ewch i www.coleggwent.ac.uk/cy/employers/apprenticeships.