En
Outdoor Learning Crosskeys Campus

Agor ardal ddysgu awyr agored newydd


27 Medi 2019

Agor ardal ddysgu awyr agored newydd

Da iawn i’n dysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol a helpodd i greu ardal ddysgu awyr agored newydd, gydag ychydig o help llaw gan bobl ifanc ar raglen Can Do Leonard Cheshire.

Bu iddynt ymuno â’r rheiny sy’n ymgymryd â’r rhaglen Can Do, sy’n dysgu sgiliau newydd fel rhan o’r cynllun, i greu gardd newydd ar Gampws Crosskeysgyda nawdd gan y Cynllun Gerddi Cenedlaethol. A honno wedi’i dadorchuddio’r wythnos hon, mae’r ardd hon a fydd yn darparu ystafell ddosbarth awyr agored i fyfyrwyr, yn cynnwys gwelyau blodau uchel a thwnelau polythen i dyfu planhigion ac adran fechan i anifeiliaid Bu i’r Cyng. Julian Simmonds, Maer Caerffili, ymuno â Sally Davis, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Leonard Cheshire, a Laura Crandley, Cyfarwyddwr Gweithredol Partneriaethau yn Leonard Cheshire, i ddiolch i’r 60 o’r rheiny sy’n rhan o’r cynllun Can Do a helpodd i greu’r ardd.

Dywedodd Gary Handley, Cyfarwyddwr y Gyfadran Ofal ac Astudiaethau’r Gymuned, “Rydym yn hynod falch o weithio gyda rhaglen Can Do Leonard Cheshire ar y prosiect gwych hwn sydd wedi bod yn bosibl yn sgil grant gan y Cynllun Gerddi Cenedlaethol. Bydd yr ardal ddysgu awyr agored newydd hon yn darparu cyfleuster arbennig i’n dysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol gael ennill sgiliau yn tyfu blodau a phlanhigion i’w gwerthu a llysiau i’w defnyddio wrth goginio. Ein bwriad yw cyflwyno cyfleusterau gwych o’r fath ar ein holl gampysau yn y dyfodol agos.”

Cafwyd cymorth gan ddarlithwyr i greu’r ardd. Dywedodd Jonathan Smith, Pennaeth yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Sgiliau Byw’n Annibynnol: “Rydym yn falch dros ben o fod wedi cael y cyfle i roi profiad arbennig i ddysgwyr drwy’r prosiect gardd. Gall ddysgwyr ganolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau byw i’w defnyddio pan fyddant yn ymadael â’r coleg ac yn mynd ymlaen i’r byd gwaith. Bydd hefyd yn helpu i godi eu hymwybyddiaeth o’r amgylchedd.”

“Dywedodd y myfyriwr Callum Davies: “Mi fyddaf i yn mwynhau gofalu am yr anifeiliaid, tyfu’r bwydydd a defnyddio’r bwydydd hynny i goginio. Mae’n gyffrous dros ben.”