En

Dewch i gwrdd â’r dysgwyr sy’n oedolion sy’n trawsnewid eu gyrfaoedd trwy astudio ar gyrsiau rhan-amser


9 Ionawr 2024

Trowch eich angerdd yn broffesiwn

Gan ddechrau ym mis Ionawr a chael eu cynnig ar draws pob campws, mae Coleg Gwent yn gobeithio denu dysgwyr newydd drwy rannu’r straeon ysbrydoledig y tu ôl i’r dysgwyr sy’n oedolion sy’n cymryd perchenogaeth o’u datblygiad personol a’u datblygiad gyrfaol drwy addysg ran-amser.  

Mae pob un o’r dysgwyr yn rhan o’r ffenomenon ar ôl y pandemig o oedolion yn dychwelyd i fyd addysg ac uwchsgilio — a dangosodd arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Sefydliad Dysgu a Gwaith fod bron un o bob dau oedolyn wedi cymryd rhan mewn dysgu yn ystod y tair blynedd diwethaf, y gyfradd uchaf ers dechrau cynnal yr arolwg. 

Penderfynodd Lauren Goodland (o Gasnewydd) ddychwelyd i Coleg Gwent a chofrestru ar y cwrs rhan-amser Menywod mewn Adeiladu ar ôl prynu ei chartref cyntaf. Ei nod oedd dysgu’r sgiliau roedd eu hangen arni i adnewyddu’r eiddo yn annibynnol, yn hytrach na thalu gweithwyr proffesiynol.  

Dywedodd Lauren: “Pan brynais fy nhŷ, sylweddolais y byddai angen llawer o waith adnewyddu arno ac, ar ôl gwneud gwaith ymchwil, daeth yn glir mai’r opsiwn mwyaf cost-effeithiol fyddai astudio a dysgu’r sgiliau fy hun.  

“Ar adegau, mae ysgogi fy hun i fynd i’r dosbarth ar ôl diwrnod llawn yn y gwaith wedi bod yn anodd ond mae bob amser yn werth yr ymdrech – rwyf wrth fy modd fy mod yn magu cymaint o hyder ac yn datblygu sgiliau newydd.” 

Gan obeithio ehangu ei gyfleoedd gyrfa ac ymwybyddiaeth o’r diwydiant, mae Simon Gray (59 oed), sy’n Feddyg Teulu, hefyd wedi cofrestru ar gwrs rhan-amser i astudio Cwnsela ar gampws Casnewydd Coleg Gwent yn diweddar – gan adeiladu ar ddiddordeb ym maes meddygaeth seicolegol.  

Wrth drafod ei brofiad, dywedodd Simon: “Am fod y cwrs yn cael ei gynnal gyda’r nos roedd modd ei gynnwys yn rhan o fy amserlen ac mae staff y coleg wedi bod yn gymwynasgar iawn – yn enwedig o ran pethau megis cyfeiriadu sef rhywbeth nad wyf wedi’i wneud ers amser hir iawn! 

“Mae astudio ar y cwrs wedi fy ysgogi a bydd yn ymestyn fy ngyrfa – bydd yn llwybr gyrfa gwych ar gyfer swydd ym maes meddygaeth seicolegol yn y dyfodol.”  

Gan anelu at ddilyn ei gyrfa ddelfrydol fel cyfrifydd, mae Viktoria Horvathne Csuhai hefyd wedi cofrestru ar gwrs rhan-amser AAT Cadw Cyfrifon yn y coleg. 

Dywedodd Viktoria: “Pan oeddwn yn tyfu i fyny yn Hwngari, dywedodd fy athro nad oedd cyfrifeg yn addas i mi ond pan symudais i’r DU, penderfynais fynd yn ôl i fyd addysg.  

“Ar y dechrau, roedd cadw reolaeth ar bopeth yn anodd ond mae fy rhwydwaith cymorth cryf a’r tiwtoriaid gwych yn Coleg Gwent wedi fy helpu i ffynnu a sicrhau cydbwysedd da. Credaf fod hwn yn gam cyntaf i gyfeiriad newydd i mi.”  

Dywedodd Nikki Gamlin, Dirprwy Bennaeth Coleg Gwent: “Mae cefnogi dysgwyr sy’n oedolion yn un o’n blaenoriaethau yma yn Coleg Gwent. Rydym yn deall bod heriau sy’n gallu gwneud i ddychwelyd i astudio deimlo’n llethol i oedolion ond gall ein cyrsiau hyblyg a’n gwasanaethau cymorth helpu pawb i ddilyn ei angerdd.  

“Rydym yn gobeithio bydd y straeon hyn yn annog oedolion eraill sy’n ystyried addysg ran-amser i ddilyn eu nodau. Mae gennym gwrs at ddant pawb, os ydych chi’n dymuno gwella eich gyrfa neu ddewis hobi ar gyfer y flwyddyn newydd.”  

Mae llawer o gyrsiau Coleg Gwent ar gael am ddim sy’n golygu gall oedolion ddysgu, ennill cymhwyster a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd heb orfod poeni am y goblygiadau ariannol. Os oes costau’n gysylltiedig â’r cwrs a ddewiswyd, mae cymorth ariannol ar gael. 

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau i oedolion sy’n dechrau yn Coleg Gwent yn y flwyddyn newydd, ewch i: https://www.coleggwent.ac.uk/your-year