Sut i wneud cais
Cyn y gallwch ymgeisio am Fisa Cyffredinol Haen 4, mae Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) yn mynnu bod gennych y canlynol:
SELT (Prawf Iaith Saesneg Diogel)
Tystysgrif sy’n arddangos eich lefel o Saesneg, ac sy’n dangos eich bod wedi sicrhau’r sgôr briodol. Cewch wybod mwy yma.
Arian i'ch cynnal
Bydd angen i chi ddangos i UKVI fod gennych ddigon o arian i fyw y tu allan i Lundain yn ystod blwyddyn gyntaf eich cwrs. Y ffigwr cyfredol yw £8,000, a gall hwn fod yn eich meddiant chi neu feddiant eich rhieni. Bydd angen i chi hefyd ddangos bod gennych ffi’r cwrs.
Unwaith y byddwch yn bodloni’r gofynion uchod, gallwch gyflwyno ffurflen gais i’n swyddfa Ryngwladol drwy international@coleggwent.ac.uk
Sut i wneud cais i Coleg Gwent
Cam 1
Cwblhewch y ffurflen gais Ryngwladol
Cam 2
Cyflwynwch eich ffurflen gais gyda’r wybodaeth ganlynol (y gellir ei sganio’n electronig):
- Copi o’ch pasbort cyfredol dilys
- Eich holl dystysgrifau addysgol o’r ysgol, y coleg neu’r brifysgol
- Copi o’ch tystysgrif SELT
Cam 3
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei phrosesu a chyfweliad dros Skype yn cael ei drefnu.
Cam 4
Byddwn yn cynnig lle i chi ar y cwrs – bydd angen i chi dderbyn y cynnig yn ffurfiol.
Cam 5
Yna, bydd angen i chi gyflwyno’r canlynol i’r tîm Rhyngwladol:
- Tystysgrif Twbercwlosis (os yw hynny’n ofynnol)
- Gwybodaeth am eich cyfrif banc, ynghyd â’ch blaendal (50% o’r ffi cwrs)
Cam 6
Unwaith y byddwn wedi derbyn a phrosesu hyn i gyd, byddwch yn cael Cadarnhad o’ch Derbyn ar gyfer Astudiaethau (CAS) gyda’r holl fanylion cwrs perthnasol.