En

Cymorth Ariannol Addysg Uwch

Mae cymorth ariannol amrywiol ar gael ichi dros oes eich cwrs, yn cynnwys benthyciadau (y bydd yn rhaid ichi eu talu’n ôl) a grantiau/bwrsarïau (na fydd yn rhaid ichi eu talu’n ôl). Mae’r cymorth yr ydych yn gymwys i’w gael yn dibynnu ar eich cwrs, ble yr ydych yn astudio, incwm eich aelwyd a ble yr ydych yn byw.

Gwybodaeth

  • Gall Prifysgolion a Cholegau godi ffioedd dysgu o hyd at £9,250 y flwyddyn. Gall myfyrwyr sy’n astudio eu cwrs Addysg Uwch cyntaf ac sydd fel arfer yn byw yng Nghymru gael benthyciad o hyd at £9,250 ar gyfer ffioedd dysgu. Nid yw’r benthyciad hwn yn seiliedig ar incwm eich aelwyd.
  • Yn ogystal â’r benthyciad ffioedd dysgu, gallwch gael cymorth cynhaliaeth (i helpu gyda chostau byw). Gall myfyrwyr cymwys sy’n byw oddi cartref (y tu allan i Lundain) gael £11,726 y flwyddyn, sef cymysgedd o grant a benthyciad. Bydd swm y grant yn dibynnu ar incwm eich aelwyd (gweler yr enghreifftiau isod).
  • Ni fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn talu unrhyw beth ymlaen llaw.
  • Nid oes yn rhaid i fyfyrwyr dalu unrhyw beth yn ôl hyd nes y byddant wedi cael swydd ac yn ennill mwy na £27,295.
  • Os ydych wedi dilyn cwrs Addysg Uwch o’r blaen, mae’n bwysig ichi ddeall y gallai hynny effeithio ar eich cymhwystra i gael cymorth. I gael manylion, ewch i https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ a darllenwch yr adran ar reolau astudiaeth flaenorol.
  • Mae’r tabl isod yn dangos sut y mae incwm yr aelwyd yn pennu faint o grant cynhaliaeth y gallwch ei gael. Bydd pob myfyriwr yn cael o leiaf £1,000 a gellir ychwanegu at hyn gyda benthyciad.

Mae’r tablau hyn yn dangos amcangyfrif o’r swm y gallech ei gael ar sail incwm eich cartref:

2023 i 2024

Setiau o ddata aelwydydd Byw gartref gyda rhieni/partner/unigol Byw oddi cartref, astudio y tu allan i Lundain
Benthyciad Grant Benthyciad Grant
£18,370 neu lai £3,065 £6,885 £3,620 £8,100
£25,000 £4,020 £5,930 £4,773 £6,947
£35,000 £5,462 £4,488 £6,512 £5,208
£45,000 £6,903 £3,047 £8,251 £3,469
£59,200 neu fwy £8,950 £1,000 £10,720 £1,000
Cyfanswm £9,950 £11,720

Beth ddylwn i wneud nesaf?

Gellir dod o hyd i fanylion llawn am yr holl gymorth ariannol a sut i wneud cais ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/. Bydd modd i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru wneud cais am gymorth ar-lein o fis Mawrth 2021.

Byw yn Ne Ddwyrain Cymru

Os ydych yn fyfyriwr sy’n byw y tu allan i Gymru, cewch wybodaeth am gyllid a phrosesau ymgeisio trwy ddilyn y dolenni canlynol:

  • A YDYCH CHI’N BYW YN LLOEGR? UK Student Finance
  • A YDYCH CHI’N BYW YN YR ALBAN? SAAS
  • A YDYCH CHI’N BYW YNG NGOGLEDD IWERDDON? Swyddog Cyllid Myfyrwyr
  • Gall myfyrwyr rhyngwladol ddod o hyd i wybodaeth yma: UKCISA

Cymorth ariannol

Efallai y cewch gyllid ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Gall hyn gynnwys:

  • Grant Oedolyn Dibynnol
  • Grant Gofal Plant
  • Lwfans Dysgu i Rieni

Cymorth gyda Ffioedd Dysgu

Gall pawb sy’n astudio yng Nghymru ymgeisio am fenthyciad nad yw’n dibynnu ar brawf modd o hyd at £2,625 i dalu eu ffioedd blynyddol. I fod yn gymwys, rhaid ichi astudio ar ddwysedd o 25% o leiaf, e.e. mae myfyriwr llawn amser yn cwblhau 120 credyd mewn blwyddyn, felly byddai’n rhaid i fyfyriwr rhan amser gwblhau o leiaf 30 credyd y flwyddyn.

Cymorth Cynhaliaeth (Costau Byw)

Gallwch ymgeisio am gymorth o hyd at £5,111.25 tuag at gostau byw, sy’n gyfuniad o grant (na fydd yn rhaid ichi ei dalu’n ôl) a benthyciad (y bydd yn rhaid ichi ei dalu’n ôl). Bydd swm y grant a gewch yn dibynnu ar nifer yr oriau y byddwch yn astudio (dwysedd astudio) ac incwm eich aelwyd.

Ceir enghreifftiau o’r grantiau a’r benthyciadau sydd ar gael yn ôl gwahanol lefelau o incwm aelwydydd a dwysedd astudio yn y tabl isod.

Incwm
(£)
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru neu
Grant Cymorth Arbennig (£)
Benthyciadau
Cynhaliaeth(£)
Cyfanswm y Grant
a’r Benthyciad (£)
Astudio ar ddwysedd o 75%
£25,000 £4,500.00 £611.25 £5,111.25
£30,000 £3,952.50 £1,158.75 £5,111.25
£35,000 £3,404.25 £1,707.00 £5,111.25
£40,000 £2,856.00 £2,255.25 £5,111.25
£45,000 £2,307.75 £2,803.50 £5,111.25
£50,000 £1,759.50 £3,351.75 £5,111.25
£55,000 £1,211.25 £3,900.00 £5,111.25
£59,200 £750.00 £4,361.25 £5,111.25
Astudio ar ddwysedd o 50%
£25,000 £3,000.00 £407.50 £3,407.50
£30,000 £2,635.00 £772.50 £3,407.50
£35,000 £2,269.50 £1,138.00 £3,407.50
£40,000 £1,904.00 £1,503.50 £3,407.50
£45,000 £1,538.50 £1,869.00 £3,407.50
£50,000 £1,173.00 £2,234.50 £3,407.50
£55,000 £807.50 £2,600.00 £3,407.50
£59,200 £500.00 £2,907.50 £3,407.50

Cymorth ariannol

Efallai y cewch gyllid ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Gall hyn gynnwys:

  • Grant Oedolyn Dibynnol
  • Grant Gofal Plant
  • Lwfans Dysgu i Rieni