En

Bwrsariaethau Addysg Uwch

Rydym yn falch o gadarnhau y byddwn yn cynnig Bwrsariaethau Addysg Uwch i gefnogi dysgwyr sydd eisiau astudio yn Coleg Gwent. Maent ar gael i ddysgwyr sy’n cyflwyno cais i astudio gyda ni ar lefel benodol y fwrsariaeth o fis Medi 2024. Cynigir cyllid ar sail y cyntaf i’r felin yn y meysydd canlynol:

Bwrsariaethau Dilyniant Pwnc Addysg Uwch

Ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Addysg Uwch llawn amser lefel 4 yn Coleg Gwent yn un o’r pynciau canlynol:

  • Ymarfer Gofal Iechyd (i gynnwys Gwaith Ieuenctid a Gwaith Cymunedol, Rheolaeth Iechyd a Lles a Gofal Cymdeithasol, Ymarfer Gofal Iechyd Cyflenwol ac Astudiaethau Plentyndod)
  • Technolegau Cymunedol (i gynnwys Technoleg Ddigidol, Cyfrifiadura a Chelf a Dylunio Gemau)
  • HND Twristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau
  • HNC Peirianneg

Bwrsariaeth Dilyniant Pwnc Addysg Uwch £350 Coleg Gwent

Bwrsariaethau Dychwelyd i Addysg Uwch

Ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Addysg Uwch llawn amser lefel 4 yn Coleg Gwent. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed a rhaid eu bod wedi bod allan o addysg am o leiaf 5 mlynedd.

Bwrsariaeth Dychwelyd i Addysg Uwch £350 Coleg Gwent

Bwrsari Gofalwyr Ifanc Addysg Uwch

Ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Addysg Uwch llawn amser Lefel 4 yng Ngholeg Gwent. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed a rhaid iddynt allu profi eu bod yn ofalwr ifanc..

Bwrsari Gofalwyr Ifanc Addysg Uwch £350 Coleg Gwent

Bwrsariaethau Dilyniant MYNEDIAD Addysg Uwch

Ar gyfer myfyrwyr sydd wedi dilyn cwrs Mynediad i Addysg Uwch lefel 3 yn Coleg Gwent ac sy’n dilyn cwrs llawn amser lefel 4 yn Coleg Gwent ar hyn o bryd.

Bwrsariaeth Dilyniant MYNEDIAD i Addysg Uwch £350 Coleg Gwent

Bwrsariaethau Dilyniant i Astudio ar Lefel Chwech

Ar gyfer dysgwyr sydd wedi cwblhau rhaglen astudio lefel 5 gyda ni ac maent yn symud i astudio ar Gwrs Addysg Uwch Amser Llawn lefel 6 (Blwyddyn Ategol) yn Coleg Gwent.

Coleg Gwent Symud ymlaen i Fwrsari Lefel 6 (Atodol) £500

Anelwn at hysbysu pob ymgeisydd llwyddiannus drwy neges e-bost erbyn neu cyn mis Gorffennaf 2024 a bydd yr holl daliadau bwrsariaeth yn cael eu gwneud i gyfrifon banc dysgwyr ym mis Ionawr 2025. Mae taliadau’n amodol ar y dysgwr yn cofrestru gyda Coleg Gwent a’r Brifysgol bartner ym mis Ionawr 2025.