En

Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Bydd gweithio yn y diwydiant chwaraeon a ffitrwydd egnïol yn eich cadw ar flaenau eich traed. Gan hybu iechyd a lles, dod â chymunedau’n nes at ei gilydd, a darparu digwyddiadau difyr, mae chwaraeon a ffitrwydd wrth wraidd ein cymdeithas fodern.

Gallwch ddilyn trywydd eich arwyr ym myd chwaraeon gyda chymhwyster mewn chwaraeon a ffitrwydd. Ewch i’r afael â’r amryw swyddi sydd ar gael mewn canolfannau hamdden, clybiau iechyd, ac ym maes gweithgareddau awyr agored ac arenâu chwaraeon proffesiynol.

Mae ein cyrsiau chwaraeon a ffitrwydd yn eich paratoi ar gyfer bob math o broffesiynau cyffrous gan gynnwys:

  • Hyfforddwr ffitrwydd/campfa
  • Hyfforddwr chwaraeon
  • Chwaraeon proffesiynol
  • Digwyddiadau chwaraeon
  • Hyfforddwr personol
  • Hyfforddwr gweithgareddau awyr agored
  • Rheoli llesiant ac ymarfer corff
  • Gwyddoniaeth a seicoleg chwaraeon
  • Tylino, adfer a therapi chwaraeon
  • Rheoli ym maes hamdden

Ein cyrsiau llawn amser Ein cyrsiau rhan amser

Gyda’r sylw ar agweddau ymarferol, bydd ein cyrsiau chwaraeon a ffitrwydd ar lefelau 1, 2, 3, a 4 yn eich paratoi i lwyddo. Cewch eich annog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon ym mob campws, gan gynnwys rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd, pêl-fasged, hoci a mwy. Byddwch hyd yn oed yn cael defnyddio canolfannau hamdden lleol, campfeydd, parciau trampolinio, canolfannau dringo o dan do ynghyd â BikePark Wales ar gyfer gweithgareddau ymarferol, ynghyd â chyfleoedd i gofrestru ar gyfer pencampwriaethau AoC (Cymdeithas y Colegau).

Mae Campws Crosskeys yn gartref i Academi Dreigiau Iau Casnewydd Gwent lle bydd chwaraewyr yn ennill cymwysterau ochr yn ochr â’u hyfforddiant rygbi, ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o gynghreiriau a thwrnameintiau. Cynigir Academi Dreigiau’r Merched ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, ar y cyd â Champws Crosskeys, ond ym Mharth Dysgu Torfaen cynigir chwaraeon mewn partneriaeth â Stadiwm Cwmbrân.

Bydd cwblhau ein cyrsiau chwaraeon a ffitrwydd yn llwyddiannus yn rhoi mantais gystadleuol i chi o safbwynt eich gyrfa at y dyfodol. Trwy ennill profiad ymarferol, sgiliau gwerthfawr, ynghyd â gwybodaeth i ategu hynny, gallwch fwrw ymlaen â rôl ym maes chwaraeon a ffitrwydd yn syth. Ond os ydych eisiau parhau i ddatblygu eich set o sgiliau, mae gennym amrywiaeth o gyrsiau rhan amser a graddau sylfaen mewn Rheoli Llesiant ac Ymarfer Corff, Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon, neu Gyflyru, Adfer a Thylino. Felly, gallwch wireddu eich dyheadau trwy ddilyn cwrs yng Ngholeg Gwent!

Edrychwch ar ein cyrsiau

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ar ddydd Llun a dydd Gwener rydyn ni’n mynd i Stadiwm Cwmbrân i brofi ochr ymarferol y cwrs. Rydym yn defnyddio’r Astroturf ar gyfer pêl-droed, trac ar gyfer gatiau cyflymder, ac offer yn y gampfa a’r pwll nofio. Rwyf hefyd yn mwynhau gwersi anatomeg a ffisioleg gan ddysgu sut mae’r esgyrn a’r cyhyrau’n gweithio.

Darnia Coleman
BTEC Chwaraeon, Lefel 3

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau