En

Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn bwysig iawn i ni fel coleg. Rydym yn annog pob aelod o gymuned y coleg, pa un a ydynt yn siaradwyr Cymraeg ai peidio, i ddeall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgil bersonol ac addysgol, yn ogystal â sgil cyflogadwyedd, yn y dyfodol.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cyfleoedd Dwyieithog

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac yn ysbrydoli dysgwyr, myfyrwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddyn nhw. Rydym yn ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y buddsoddiad a’r gefnogaeth, sy’n galluogi’r coleg i ddarparu unedau dwyieithog mewn gofal plant, iechyd a gofal, chwaraeon, astudiaethau tir a gwasanaethau cyhoeddus, ar gampysau Casnewydd, Crosskeys, Parth Dysgu Torfaen a Parth Dysgu Blaenau Gwent.

Rydym wastad yn gweithio i ehangu’r gwasanaeth a gynigir ar gyfer ein dysgwyr sy’n siaradwyr Cymraeg

Ar hyn o bryd, cynigir:

  • Cyfle i astudio rhai modiwlau’n ddwyieithog o blith detholiad o gyrsiau llawn amser. Mae nifer y modiwlau a’r cyrsiau dwyieithog a gynigir yn cynyddu’n flynyddol.
  • Tiwtor Cymraeg ei iaith neu ei hiaith ar gyfer rhai o’ch modiwlau os ydych yn dilyn cwrs dwyieithog
  • Adnoddau Cymraeg ar gyfer modiwlau dwyieithog
  • Cymorth gyda’r Gymraeg yn eich aseiniadau a’ch gwaith cwrs
  • Y dewis i ysgrifennu aseiniadau a chwblhau asesiadau ac arholiadau yn y Gymraeg (dim ond pan fo’r bwrdd arholi’n gallu darparu papurau arholiad yn y Gymraeg)
  • Y gallu i gymryd rhan mewn dosbarthiadau tiwtorial yn y Gymraeg
  • E2L – Saesneg fel ail iaith
  • Profiad gwaith goruchwylio
  • Gweithgareddau cyfoethogi cyfrwng Cymraeg
  • Rhestrau termau a geirfaoedd dwyieithog
  • Cyfle i ennill eich sgiliau hanfodol neu allweddol yn ddwyieithog neu yn Gymraeg

UG/Safon Uwch Cymraeg Ail Iaith

Mae cynnig y cyfle i ddysgwyr astudio Cymraeg Ail Iaith ar lefel Safon Uwch yn destun cyffro i Coleg Gwent. Mynnwch fantais gystadleuol ar gyfer y gweithle drwy ddysgu sut i gyfathrebu’n hyderus ac yn rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ystod eang o sefyllfaoedd a chyd-destunau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ysgrifennu’n greadigol a dadansoddi testunau’n annibynnol ochr yn ochr ag ennill dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliant modern yr iaith Gymraeg. Mae’r iaith Gymraeg yn gynyddol yn cael ei gweld fel sgil allweddol felly dechreuwch eich taith gyda ni ac astudiwch y Gymraeg â diddordeb, mwynhad a brwdfrydedd.

  • Ar ddechrau’r cwrs, byddwn yn ail-ymweld â’r elfennau sylfaenol a dysgu bob amser o’r ferf o’r cychwyn cyntaf er mwyn dileu camgymeriadau a all dynnu marciau ar Lefel Safon Uwch.
  • Mae amrywiaeth eang yn y cwrs, o astudio ffilmiau Cymraeg, hanes a diwylliant Cymru, barddoniaeth, a straeon byrion i gyfryngau cymdeithasol a’r iaith Gymraeg ym mywyd bob dydd.
  • Mae’r cwrs yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer astudiaeth bellach o’r iaith Gymraeg ar lefel gradd, gan ddatblygu sgiliau sy’n addas i’r gweithle ar yr un pryd.

Darganfyddwch fwy drwy’r taflenni gwybodaeth cwrs isod ac ymgeisiwch nawr!

CBAC Cymraeg UG Lefel 3

Campws Crosskeys
Dyddiad cychwyn: 03 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

CBAC Cymraeg UG Lefel 3

Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad cychwyn: 06 Medi 2024

Llawn Amser Gweld y cwrs

Mae cymorth ar gael ar bob campws wrth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae’r HWB Cymraeg yn cynnig y cymorth canlynol:

  • Buddion astudio
  • Cymorth un i un i gwblhau gwaith yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog
  • Canllawiau ar ddefnyddio apiau i helpu i astudio’n ddwyieithog
  • Gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae’r Clwb Cymraeg yn cwrdd i drefnu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar bob campws yn y coleg, yn cynnwys Dydd Santes Dwynwen, Dydd Gŵyl Dewi, Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Pencampwriaeth y 6 Gwlad a llawer mwy.

Mae’r Clwb hefyd yn trefnu ymweliadau preswyl i ganolfannau’r Urdd yng Nglan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd. Mae hefyd yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd a defnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfa anffurfiol wrth gael hwyl.

Am unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn y coleg, cysylltwch ag:

clwbcymraeg@coleggwent.ac.uk

Charlotte Hutchings yw Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae hi’n arwain tim o Hwyluswyr y Gymraeg a Llysgenhadon y Gymreag.

Charlotte Hutchings – Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg

Charlotte Hutchings


Dylan Cox – Myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dylan Cox


Sorrel Butler-Bright – Myfyriwr Celfyddydau Perfformio yng nghampws Crosskeys

Sorrel Butler-Bright


Taylor-Anne Pagett – Myfyriwr Diwydiannau’r Tir yng nghampws Brynbuga

Taylor-Anne Pagett