CITB Cynllun Hyfforddi Diogelwch Rheoli Safle - Gloywi (SMSTS-R) Lefel 3
NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Sector
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae hwn yn gwrs gloywi sydd wedi’i ddylunio’n benodol i’ch helpu chi i gynnal a diweddaru eich gwybodaeth iechyd a diogelwch bresennol er mwyn i chi allu adnewyddu eich tystysgrif yn ôl yr angen.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim gan gynnig dysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffyrdd o fyw presennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs 2 ddydd hwn yn cynnwys hanfodion iechyd a diogelwch, gan gynnwys:
- Cynllun safle
- Rheoliadau CDM
- Asesiadau risg
- Datganiadau dulliau
- Sgaffaldio
- Trydan
- Cloddiadau
- Dymchweliadau
- Mannau cyfyng
I gael marc pasio, bydd yn rhaid i chi lwyddo i gwblhau asesiad aml-ddewis ar ddiwedd y cwrs.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl gorffen y cwrs hwn, gallech symud ymlaen i gwrs Tystysgrif Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch.
MPLA0168AA
Campws Dinas Casnewydd
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.