IEMA Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu
NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Oddi ar y safle
Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae cwrs hyfforddiant IEMA Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu yn gyflwyniad delfrydol i gynaliadwyedd ar gyfer y rhai nad ydynt yn arbenigwyr ym maes amgylcheddol.
Nod y cwrs byr hwn yw rhoi trosolwg o gynaliadywedd amgylcheddol gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau i ymgeiswyr wneud newidiadau cadarnhaol tuag at ddiwallu anghenion rhanddeiliaid wrth wella eu perfformiad amgylcheddol.
IEMA yw’r corff proffesiynol ar gyfer pawb sy’n gweithio ym meysydd yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i berfformiad amgylcheddol eich sefydliad.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i fod yn rhaglen ymwybyddiaeth fer i roi dealltwriaeth sylfaenol o egwyddorion cynaliadwyedd i bob gweithiwr. Mae canlyniadau’r cwrs yn amrywio o weithio i safonau ISO:14001 i wella cynaliadwyedd ar draws eich cadwyn gyflenwi.
Trwy gyfres o weithgareddau ymarferol a gweithdai, mae’r cwrs hyfforddiant ardystiedig IEMA hwn yn archwilio’r risgiau a’r cyfleoedd amgylcheddol, y rhwymedigathau cydymffurfiaeth a’r materion cynaliadwyedd allweddol.
Cyflwynir y cwrs fel a ganlyn:
UNEDAU
Modiwl 1 – Risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltieidg â chynaliadwyedd amgylcheddol
Modiwl 2 – Cyfreithiau a rhwymedigaethau cydymffurfiaeth eraill
Modiwl 3 – Materion cynaliadwyedd amgylcheddol allweddol
Modiwl 4 – Gwella perfformiad cynaliadwyedd amgylcheddol
ASESU
Ar ddiwedd y cwrs, byddwch chi’n sefyll prawf aml-ddewis byr ar-lein.
Cyflwynir y dystysgrif IEMA ar ôl llwyddo i gwblhau’r cwrs.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol, fodd bynnag, mae’n bwysig bod dysgwyr yn meddu ar safon addas o’r iaith Saesneg er mwyn deall a chyfleu’r cysyniadau yn y sylabws. Nid oes angen unrhyw brofiad neu wybodaeth flaenorol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cyflwynir y cwrs hwn trwy e-Ddysgu. Mae hyn yn golygu y dylech gael eich cymell i astudio mewn modd hunan-drefnus, hunan-drefnus gan ddefnyddio dyfais wedi'i galluogi ar y rhyngrwyd.
Mae'r cwrs yn cynnwys arholiad sydd wedi'i bywiogi ar-lein ac mae angen i chi gael mynediad at ddyfais wedi'i galluogi ar y rhyngrwyd gyda meicroffon a gwe-gamera.
Hyd y cwrs yw oddeutu 10 awr a darperir 3 mis o fynediad ar-lein (gan gynnwys sefyll yr arholiad).
MPLA0121AA
Oddi ar y safle
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.