AXELOS Rhithiol Ar-lein - Cwrs ITIL® 4 Sylfaen gydag Arholiad

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn gymhwyster ITIL lefel mynediad, sy'n darparu dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r derminoleg allweddol y tu ôl i ITIL®. Mae'r pynciau hyn yn cynnwys saith egwyddor arweiniol ITIL® 4, pedwar dimensiwn rheoli gwasanaeth a llawer mwy.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn.
...cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa
... gall unrhyw un gofrestru a dysgu am dechnegau, terminoleg a phrosesau allweddol ITIL®.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs yn cynnwys:
- Sut mae ITIL® yn adeiladu ar ac yn cefnogi Lean, Agile, DevOps, ac arferion rheoli prosiectau a phrosesau eraill
- Saith egwyddor arweiniol ITIL®4
- System gwerth gwasanaeth ITIL®
- Pedwar dimensiwn rheoli gwasanaeth
- Ymarferion ITIL®; deall pwrpas a thermau allweddol pob un o'r 15, gyda dealltwriaeth fanwl o saith
Bydd arholiad ITIL® ar ddiwedd y cwrs.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol, gall unrhyw un gofrestru a dysgu am dechnegau, terminoleg a phrosesau allweddol ITIL®.
Gwybodaeth Ychwanegol
This course would benefit those new to the industry or who are currently working in the sector but require validation through a qualification to support that experience.
Darperir y cwrs hwn drwy ddosbarth rhithiol. Mae dosbarthiadau rhithiol yn gyfwerth â chyrsiau dosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'u darperir mewn amgylchedd ar-lein.
Bydd angen i chi neilltuo 2 diwrnod i fynychu'r cwrs hwn.
Mae'r cwrs yn cynnwys arholiadau sy'n cael eu goruchwylio ar-lein, ac mae angen dyfais sydd wedi cysylltu â'r we gyda meicroffon a gwe-gamera.
MPLA0083AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.