En

BPEC ACS Ailasesiadau Nwy (CENWAT1, CKR1, HTR1, MET1)

NODYN: DIM OND AR GYFER GWEITHWYR TATA STEEL A'U CADWYN GYFLENWI GYMREIG Y MAE'R CWRS HWN AR GAEL.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Sector

Sector
Adeiladu

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn caniatáu chi i adnewyddu eich cymwysterau nwy ACS cyfredol, sydd eu hangen bob 5 mlynedd.

Ar ôl cwblhau eich ailasesiadau, byddwch yn gallu cynnal asesiadau mewn unedau newydd a fydd yn ymestyn cwmpas eich gwaith, ac yn eich galluogi i ddatblygu eich gyrfa yn y diwydiant nwy.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

Unigolion sydd ar hyn o bryd o dan gyflogaeth Tata Steel UK (safleoedd yng Nghymru) NEU eu cadwyn gyflenwi Gymreig ehangach (gan gynnwys mewn perygl o ddiswyddiad), 19+ mlwydd oed, yn byw yng Nghymru.

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn cynnal asesiadau sy'n ymwneud â'r ystod o waith rydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd, ar ôl hyn gallwch chi gynnal hyfforddiant ac asesiadau mewn meysydd gwaith newydd.

Mae angen yr ailasesiadau hyn os ydych yn dymuno parhau i fod yn osodwr nwy cofrestredig ac os ydych am ddatblygu eich gyrfa yn y diwydiant.

Ar ôl cwblhau eich ailasesiadau, byddwch yn derbyn tystysgrifau newydd gan y corff dyfarnu, gan gynnwys unrhyw unedau newydd yr ymgymerir â hwy, a fydd yn ddilys am bum mlynedd, a bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i GasSafe

Gofynion Mynediad

Bydd angen i chi eisoes feddu ar dystysgrif nwy ACS yn yr unedau rydych chi am eu heistedd (ailasesu).

Bydd angen i chi feddu ar dystysgrif nwy ACS ddilys, ddyddiedig er mwyn cwblhau unedau newydd, a gallu tystio hyfforddiant yn yr unedau newydd. (Gellir eistedd yr asesiadau hyn ar yr un pryd â'ch ailasesiadau, ar yr amod eich bod wedi cynnal hyfforddiant cyn hyn).

Bydd angen rhoi'r dystiolaeth hon i'r ganolfan asesu cyn y gallwch gynnal unrhyw asesiadau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd dyddiadau a lleoliad y cwrs yn cael eu trafod yn ystod y cais.

Ble alla i astudio BPEC ACS Ailasesiadau Nwy (CENWAT1, CKR1, HTR1, MET1)?

MPLA0045AA
Campws Dinas Casnewydd

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.