• Llawn Amser

HND Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng

Public and Emergency Services
Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Gwasanaethau Cyhoeddus
Dyddiad Cychwyn
22 Medi 2026
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys

Yn gryno

Bydd y cwrs Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) rhoi sylfaen gadarn yn ymarferol ac academaidd o ddealltwriaeth o wasanaethau cyhoeddus a brys, y rhinweddau, gwerthoedd a sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i lwyddo yn y sector hwn.

... Rydych yn dyheu i weithio i’r gwasanaethau argyfwng ney sector cyhoedd

... Rydych chi’n gweithio’n dda dan bwysau

... Hoffech chi ennill sgiliau ymarferol a sgiliau damcaniaethol

Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu dros 2 flynedd. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cwblhau 5 modiwl craidd, ac yna 6 mwy yn y flwyddyn ail. I sicrhau eich bod yn deall sut mae gwasanaethau cyhoeddus a brys yn gweithredu, byddwch yn astudio’r modiwlau isod gyda ni.

Blwyddyn 1

Deall Cymunedau a Data Arweinyddiaeth Awyr Agored,

Arweinyddiaeth Awyr Agored, Chwilio ac Achub

Sgiliau proffesiynol ar gyfer Gwas Cyhoeddus yr 21ain Ganrif

Democratiaeth, Ymgyrchoedd a Newid

Archwilio Trosedd a Gwyrni

Blwyddyn 2

Cyfraith Gwasanaeth Cyhoeddus

Safbwyntiau Byd-eang ar Drais a Gwrthdaro

Trychinebau ac Argyfyngau: Gwydnwch, Ymateb, Achub ac Adfer

Profiad Gwaith Gwasanaethau Cyhoeddus

Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Prosiect Ymchwil Gwasanaethau Cyhoeddus

Rydym yn dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau brys, nid yn unig ar gyfer trychinebau mawr fel tsunamis a daeargrynfeydd, ond hefyd ar gyfer pryderon mwy lleol, fel ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymuned. Yn aml, mae'r gwasanaethau brys yn cydweithio â gwasanaethau cyhoeddus eraill i gynllunio ar gyfer argyfyngau, fel ymosodiad terfysgol neu geisio datrys problemau cymhleth ac anodd.

I sicrhau bod gennych ddealltwriaeth dda o sut mae gwasanaethau brys a chyhoeddus yn gweithredu, byddwch yn astudio sawl modiwl craidd lle byddwch yn ennill sgiliau ymarferol ac yn rhoi eich sgiliau arwain ar waith ar daith ym Mannau Brycheiniog neu rywle cyfagos.

I wneud eich dysgu yn berthnasol i'r gweithle, byddwch yn cael enghreifftiau go iawn o faterion perthnasol. Er enghraifft, mewn un modiwl bydd gennych y dasg o nodi sut i ysgogi a rheoli pobl yn y sector cyhoeddus. Mewn un arall, byddwch yn gweld sut y gall deddfwriaeth a newidiadau mewn cymdeithas effeithio ar y ffyrdd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu.

Byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, fel arfer cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai. Ar gamau diweddarach y cwrs, cewch gyfle i weithio ar brosiectau, naill ai'n unigol neu mewn grwpiau. Mae gweithgareddau allanol hefyd yn cael eu cynnwys yn y rhaglen, yn ogystal â siaradwyr gwadd a gwaith prosiect. Mae amrywiaeth o ddulliau asesu ac er bod y rhan fwyaf o fodiwlau wedi'u seilio ar waith cwrs, bydd yna rhai arholiadau. Mae gwaith cwrs yn cynnwys prosiectau bywyd go iawn, traethodau, gwaith grwp a chyflwyniadau.

Mae'r cwrs hwn yn gymhwyster gwerthfawr os ydych chi eisiau dilyn gyrfa yn yr heddlu, y gwasanaeth tân neu ambiwlans, y lluoedd arfog, gwasanaethau carchar a diogelwch, Tollau Tramor a Chartref EM, neu sefydliadau gwasanaeth cymunedol.

Gallwch hefyd symud ymlaen i flwyddyn olaf y radd BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus ym Mhrifysgol De Cymru

Ystyrir pob cais ar sail unigol.

Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr 18-21 oed feddu ar o leiaf 3 TGAU (gradd C neu'n uwch) sy’n cynnwys naill ai Saesneg neu Gymraeg, a naill ai Mathemateg neu un o’r gwyddorau, yn ogystal â chymhwyster L3 (megis Diploma Cenedlaethol BTEC) sy'n gyfwerth neu'n uwch na 48 pwynt UCAS.

Cyfrifiannell tariffau UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator

Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21+ oed), ac ystyrir ceisiadau ar sail unigol. Er nad yw cymwysterau ffurfiol yn ofynnol, mae diddordeb yn y pwnc, yn ogystal ag ymrwymiad ac awydd i ddysgu, yn hanfodol.

Cyflwynir y cwrs hwn dros ddeuddydd ac mae’n rhyddfraint gan Brifysgol De Cymru (yn amodol ar ddilysiad).

Y cod UCAS yw: 534L

Mae ffi cwrs o £80 i £100 i dalu am y set offer cwrs.

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFHD0018AB
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Tuesday and Wednesday

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy