En

City & Guilds Diploma mewn Barbro Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 3 TGAU ar radd D neu’n uwch, gan gynnwys: Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Bydd ymgeiswyr heb yr isafswm TGAU yn cael eu hystyried ar sail profiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Yn gryno

Mae'r sector barbro yn symud yn gyflym a bydd cyfle i ddysgu sgiliau newydd yn ystod ac ar ôl y rhaglen hyfforddi ddiddorol hon.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych chi am gael gyrfa fel barbwr

... Ydych chi'n gyfeillgar ac yn weithgar

... Ydych chi'n dwli ar waith creadigol a manw

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae bod yn farbwr yn dod â llawer o fanteision y bydd cynllunwyr gwallt cymwys yn sôn amdanynt wrthych. Os ydych chi'n ystyried dod yn farbwr, dyma'r prif resymau dros ei wneud:

  • Gallwch fod yn greadigol
  • Cwrdd â phobl newydd
  • Bydd cael gyrfa mewn barbro yn rhoi cyfle i chi fod yn hyblyg gyda'ch oriau gwaith
  • Byddwch yn gallu darparu amrywiaeth o wasanaethau
  • Mae'n foddhaus ac yn werth chweil

Dyluniwyd ein cwrs ar gyfer pobl sydd â diddordeb gyrfaol mewn barbro, ac mae'n ddelfrydol os nad oes gennych lawer, neu ddim profiad neu sgiliau mewn barbro. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid wrth ddelio â chleientiaid a sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer pob math o swyddi.

 

Byddwch yn dysgu am:

  • Ymgynghoriadau â chleientiaid
  • Sgiliau derbynfa
  • Defnyddio siampŵ
  • Chwythu sych
  • Torri gwallt a barfau sylfaenol

Bydd disgwyl i chi fynychu lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd, naill ai'n wythnosol neu fesul bloc. Gellir trefnu hyn naill ai’n annibynnol neu bydd eich tiwtoriaid yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliad addas.

Cyflwynir y cwrs drwy:

  • Ddosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Gwaith grŵp
  • Lleoliad gwaith
  • Gweithgareddau cyfoethogi megis teithiau, ymweliadau, siaradwyr gwadd ac arddangosiadau allanol.

Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein a fydd yn tanategu gwybodaeth greiddiol. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn ennill:

 

  • VRQ Lefel 2 mewn Barbro
  • Y cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a chwrdd ag anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau ac arddangosiadau cymunedol)

 

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn weithgar, yn gyfeillgar a meddu ar lefel uchel o gyflwyniad personol. Bydd disgwyl i chi fynychu lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd yr holl ddarpariaeth yn cymryd lle ar y campws a bydd un noson yr wythnos pan fyddwch yn y coleg tan yn hwyr. Presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yw un o brif ofynion y cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

NVQ Lefel 2 mewn Barbro neu gyflogaeth ar lefel prentis iau

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod Gwisg:

  • Rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus esgidiau duon mewn salonau
  • Rhaid clymu gwallt yn daclus yn ôl ac i ffwrdd o’r wyneb
  • Ni ddylid gwisgo unrhyw estyniadau ewinedd a farnais
  • Dim tyllu: dim ond modrwy briodas y caniateir ei gwisgo yn y salon

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy, a fydd yn costio tua £200.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo tiwnig salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Mae manylion ar sut i archebu'ch tiwnig a'ch offer, ynghyd ag opsiynau i dalu’r cyflenwr, ar gael oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Pris y diwnig ar gyfer 2024/2025 yw £45.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Barbro Lefel 2?

NFDI0534AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr