City and Guilds Tystysgrif mewn Torri a Phrosesu Coed Bach Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
2
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Amaethyddiaeth a Choedwigaeth
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych mewn proffesiwn awyr agored neu'n gweithio ym myd amaeth, mae'r cwrs hwn yn dysgu'r sgiliau hanfodol sy'n gysylltiedig â thorri coed bach.
Mae’n cynnwys torri coed hyd at 380mm yn gyfeiriadol, gan ystyried maint, pwysau, cyflwr a rhywogaeth y goeden. Bydd hyn yn cynnwys torri coed unionsyth yn ogystal â choed sydd wedi hanner cwympo ac sy’n cael ei atal rhag cwympo’n llawn a'r rhai sydd wedi'u pwysoli i gyfeiriad penodol.
Dyma'r cwrs i chi os...
…gyrfa mewn swydd awyr agored, fel garddio, rheoli coetir neu amaethyddiaeth
…y rhai sydd eisoes wedi dilyn cwrs Gweithrediadau Cysylltiedig â Llif Gadwyn NPTC ar ddiogelwch llif gadwyn, cynnal a chadw a thorri.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Gan adeiladu ar y pynciau a drafodwyd yn y cwrs Cynnal a Chadw Llif Gadwyn gan gynnwys deddfwriaeth gyfredol, hanfodion gweithredu llif gadwyn a defnyddio a chynnal a chadw'r llif gadwyn yn ddiogel, mae'r cwrs hwn yn mynd ymlaen i gynnwys torri coed hyd at 380mm mewn diamedr.
Ar ôl cwblhau, gallwch fynd ymlaen i astudio'r cyrsiau NPTC CS32, CS38 a CS39.
Beth sy'n digwydd nesaf?
NPTC CS32, CS38 a CS39.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi ddarparu:
- Eich dillad amddiffynnol/diogelwch personol – fodd bynnag gellir eu darparu os oes angen
- Dau ffotograff maint pasbort
- Pecyn bwyd a fflasg, er bod lluniaeth ar gael i'w brynu ar y safle.
Mae'r cwrs yn para tri diwrnod ynghyd â hanner diwrnod i ddiwrnod ychwanegol ar gyfer asesiad.
BCEM0019AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.