NPTC Dyfarniad mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
2
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Amaethyddiaeth a Choedwigaeth
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Gofynion Mynediad
Nid oes angen i chi feddu ar unrhyw brofiad blaenorol ond mae’n rhaid i chi fod dros 19 oed.
Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys gwybodaeth amrywiol a manwl am ddefnyddio a gwaredu plaladdwyr.
Mae’n uned sylfaen orfodol sy’n cynnwys y ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â defnyddio plaladdwyr ac mae’n rhaid iddi gael ei chwblhau cyn dechrau astudio ar unrhyw gwrs plaladdwyr NPTC arall.
Dyma'r cwrs i chi os...
...Unrhyw un y mae ei swydd yn cynnwys defnyddio plaladdwyr
...Unrhyw un sy’n dymuno datblygu ei wybodaeth
...Unrhyw un sy’n dymuno datblygu ei sgiliau
Beth fyddaf yn ei wneud?
Yn unol â’r ddeddfwriaeth, mae gofyniad i unrhyw un sy’n defnyddio plaladdwyr fel rhan o’i swydd neu ei fusnes dderbyn cyfarwyddyd priodol a sicrhau galluedd o ran y dyletswyddau a gyflawnir. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i ddefnyddio a thrin plaladdwyr yn ddiogel a’r dulliau o ddefnyddio plaladdwyr. Bydd angen i bob unigolyn astudio’r modiwl sylfaen (PA1) a modiwl defnyddio perthnasol.
Byddwch chi’n astudio:
- Deddfwriaeth
- Dehongli gwybodaeth ar labeli cynhyrchion
- Diogelwch personol a halogi
- Storio plaladdwyr a chynhwyswyr
- Gwaredu
- Cadw cofnodion
- Ffactorau amgylcheddol
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch chi’n sefyll prawf ar-lein sy’n para am oddeutu 1 awr.
Dylech chi astudio ar y cwrs hwn ar y cyd â naill ai PA6 neu PA2 neu’r ddau gwrs.
Hyd y cwrs yw 1 diwrnod gan gynnwys asesiad ar-lein a gynhelir, fel arfer, ar ddiwedd y dydd.
BCEM0017AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.