Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
2
Hyblyg
Sector
Iechyd a Diogelwch
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae’r cymhwyster hwn yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno gweithio yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch neu’r rhai sy’n dymuno dechrau gweithio yn y diwydiant. Bydd dysgwyr sy’n ennill y cymhwyster hwn yn gwybod bod pob unigolyn sy’n rhan o storio, paratoi, coginio a thrin bwyd yn gyfrifol am sicrhau diogelwch bwyd. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ystyried y pynciau fel rhai sy’n bwysig er mwyn cynnal ymarfer da wrth gynhyrchu bwyd diogel.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...Unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo neu sy’n dymuno dechrau gyrfa ym maes arlwyo, mae’r cwrs hwn yn berffaith er mwyn gosod sylfaen ar gyfer eich gwybodaeth am ddiogelwch bwyd.
Cynnwys y cwrs
Caiff y cwrs hwn ei gynnal dros un diwrnod fel arfer ac mae’n gymhwyster cydnabyddedig mewn diogelwch bwyd arlwyo. Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn deall egwyddorion glanweithdra a hylendid, yn ogystal â chadw cynhyrchion bwyd yn ddiogel.
Mae cynnwys y cwrs fel a ganlyn:
- Diffinio hylendid bwyd
- Peryglon diogelwch bwyd (ffisegol, cemegol, alergenig a biolegol)
- Yr angen am safonau hylendid bwyd uchel: Rhesymau dyngarol, busnes a chyfreithiol
- Rheoli rhaglen diogelwch bwyd sy’n seliedig ar egwyddorion HACCP
- Gosod a dylunio cegin i atal croeshalogi
- Hylendid personol
- Sut i gadw ardaloedd bwyd yn lân
- Ymwybyddiaeth am blâu a’u rheoli
- Derbyn a storio bwydydd yn ddiogel
- Paratoi, coginio, oeri, dal a gweini bwyd yn didogel
- Gallu a phwysigrwydd rhoi’r hyn a ddysgwyd ar waith
Gwybodaeth Ychwanegol
Asesir y cymhwyster hwn drwy arholiad aml-ddewis.
Gall unigolion sy’n ennill y cymhwyster hwn symud ymlaen i unrhyw un o gymwysterau Highfield Lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd sy’n berffaith ar gyfer y rhai sy’n dymuno symud ymlaen i lefel uwch neu lefel goruchwylio mewn busnes arlwyo bwyd.
BCEM0016AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.