X Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Iechyd a Diogelwch
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’r dysgwyr ar gyfer adnabod y risgiau sy’n gysylltiedig â sylweddau peryglus a sut i’w rheoli.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Caiff y cwrs hwn ei anelu at unigolion sy’n gweithio mewn amgylchedd lle mae’n debygol y byddant yn dod i gysylltiad â sylweddau peryglus. Mae hyn yn cynnwys gweithdai mewn meysydd fel gweithgynhyrchu, glanhau, gofal iechyd, trafnidiaeth, cyfleustodau ac amgylcheddau swyddfa.
Cynnwys y cwrs
Ymdrinnir â’r pynciau canlynol:
- Cyfreithiau’n ymwneud a sylweddau peryglus yn y gweithle
- Rheoliadau COSHH 2002
- Asesiadau Risg
- Defnyddio sylweddau peryglus yn ddiogel yn y gweithle
- Rhagofalon a gweithdrefnau rheoli ar gyfer delio â sylweddau peryglus
Gofynion Mynediad
Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond bydd yn ofynnol ichi ddeall eich amgylchedd gwaith.
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel arfer caiff y cwrs hwn ei gyflwyno dros hanner diwrnod (3 awr). Bydd y mynychwyr a fydd yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn cael tystysgrif bresenoldeb Coleg Gwent.
Ymhellach, gellir cyflwyno’r cwrs hwn ar ffurf Dyfarniad Lefel 2 HABC achrededig mewn Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd.
BCEM0011AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.