X Asesu Risg

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Iechyd a Diogelwch
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Datblygwyd y cwrs er mwyn egluro’r cysyniad ‘asesu risg’ mewn unrhyw sector diwydiant. Ystyrir ffyrdd o bennu peryglon a mesurau rheoli risg, a thrwy hynny sut i atal damweiniau posibl rhag digwydd. Mae’r cwrs yn rhyngweithiol a bydd yn ymgysylltu â’r ymgeiswyr er mwyn cynnig enghreifftiau o beryglon yn eu gweithleoedd nhw.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…unrhyw lefel mewn unrhyw sefydliad; trwy fynd i’r afael â’r gofynion cyfreithiol a chanllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch bydd y cwrs yn ymdrin gam wrth gam â’r pethau sy’n ofynnol yn ôl cyfraith y DU
Cynnwys y cwrs
Dyma’r pynciau yr ymdrinnir â nhw yn ystod y cwrs hwn:
- Pennu peryglon a chanlyniadau
- Matrics risg a sgôr risg
- Mesurau rheoli
- Delio â pheryglon
- Asesiadau risg dynamig
- Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
- Y manteision i’ch busnes/sefydliad
- Profi dealltwriaeth
Gofynion Mynediad
Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd y cwrs yn galluogi’r ymgeiswyr i gynnal asesiad risg ffurfiol yn y gweithle, yn cynnwys deall pam mae’n rhaid inni gynnal asesiadau o’r fath yn ôl cyfraith y DU.
Fel arfer caiff y cwrs hwn ei gyflwyno dros hanner diwrnod (3 awr). Bydd y mynychwyr a fydd yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn cael tystysgrif bresenoldeb Coleg Gwent.
Ymhellach, gellir cyflwyno’r cwrs hwn ar ffurf Dyfarniad Lefel 2 HABC achrededig mewn Asesu Risg.
BCEM0009AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.