City & Guilds Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant Lefel 3
![](https://www.coleggwent.ac.uk/images/cil-education-teaching-books.jpg)
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
3
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Hyfforddiant, Asesiad a Sicrhau Ansawdd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae'r cymhwyster yn cwmpasu'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol gan athrawon/hyfforddwyr yn y sector sgiliau addysg bellach a hyfforddiant. Nid cymhwyster addysgu yw'r Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant - mae'n gyflwyniad i addysgu a fydd yn rhoi cipolwg ar rolau, cyfrifoldebau a pherthnasau mewn addysg a hyfforddiant, sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu/hyfforddiant cynhwysol a sut i asesu a rhoi adborth adeiladol a datblygiadol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Yn ddelfrydol ar gyfer ymgeiswyr sy'n gweithio, neu sydd eisiau gweithio fel athrawon/hyfforddwyr yn y sector addysg bellach a sgiliau, neu'r rhai sydd angen cymhwyster hyfforddi ffurfiol.
Cynnwys y cwrs
Gall dysgwyr ddisgwyl ymdrin ag ystod o ddamcaniaethau, polisïau a gweithdrefnau sydd wedi'u cynllunio i roi cyflwyniad i addysgu yn y sector AB a sgiliau. Mae'r modiwlau yn cynnwys:
• Deall rolau, cyfrifoldebau a pherthnasoedd mewn addysg a hyfforddiant
• Deall a defnyddio dulliau addysgu a dysgu cynhwysol mewn addysg a hyfforddiant
• Deall asesu mewn addysg a hyfforddiant
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau ddarparu ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.
Mae'r tri modiwl yn cael eu cyflwyno dros chwe diwrnod. Bydd dyfynbris ffurfiol yn cael ei baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi ond fel canllaw, rydym yn codi £5,250 (sy’n cynnwys yr holl hyfforddiant, adborth a marcio) ynghyd â ffioedd ychwanegol ar gyfer cyrff dyfarnu (tua £71 y dysgwr).
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0007AA
Hyblyg
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.