CIPD Diploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl Lefel 5
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Lefel
5
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Dyma lwyfan perffaith i ddysgwyr ar gyfer datblygu mwy ar eu gyrfa AD ar lefel reoli, gan eu helpu i feithrin eu gallu i werthuso pa mor effeithiol yw gwahanol fodelau ac arferion AD a gwella’u dealltwriaeth o ffactorau allanol sy’n effeithio ar AD a sefydliadau.
Mae Tystysgrifau Canolradd CIPD yn cynnig cymhwyster a gydnabyddir yn broffesiynol ynghyd â’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer aelodaeth Gyswllt broffesiynol CIPD.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…pawb sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y maes rheoli AD ac sydd eisiau ymestyn eu gwybodaeth a’u sgiliau er mwyn datblygu eu gyrfa.
…pawb sydd â diddordeb mewn aelodaeth ar lefel broffesiynol, er mwyn cael hygrededd a chydnabyddiaeth.
…y rhai sy’n gyfrifol am roi polisïau a strategaethau AD ar waith ac sydd angen meithrin dealltwriaeth sefydliadol yn yr amgylchedd a’r cyd-destun busnes ehangach.
Cynnwys y cwrs
Mae’r rhaglen hon yn adeiladu ar arbenigedd y dysgwyr yn y pynciau AD arbenigol a ddewiswyd ganddynt, gan fynd ati’r un pryd i feithrin eu sgiliau cynllunio, dadansoddi a datrys problemau. Er mwyn ennill y cymhwyster, rhaid iddynt gwblhau chwe modiwl y rhaglen yn llwyddiannus:
- Datblygu Ymarfer Proffesiynol
- Materion Busnes a Chyd-destun AD
- Defnyddio Gwybodaeth mewn AD
- Cyfraith Cyflogaeth
- Canfod a Chynllunio Talent
- Rhoi Hyfforddi a Mentora ar Waith
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn arwain at Aelodaeth Gyswllt CIPD, sef lefel gyntaf aelodaeth broffesiynol. Hefyd, bydd modd i unigolion cymwys ddefnyddio’r dynodiad ‘Assoc CIPD’ ar ôl eu henwau fel ffordd o arddangos eu cymwysterau a’u hymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Gofynion Mynediad
Ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
BCEM0006AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.